Annog gweithredu ar newid hinsawdd
Mae ymchwil wedi datgelu bod yna ‘rwystr llywodraethu’ o ran gweithredu ar newid hinsawdd.
Newid yn yr hinsawdd yw un o broblemau amgylcheddol mwyaf sylweddol y 21ain ganrif. Yn ôl amcanestyniadau'r Panel Rhyng-lywodraethol am Newid yn yr Hinsawdd ym mis Medi 2013, heb weithredu sylweddol i dorri lawr ar allyriadau byd-eang, rydym yn debygol o weld cynnydd o 2°C o leiaf yng nghyfartaledd tymheredd arwyneb y ddaear erbyn 2100.
Er bod canfyddiadau gwyddonol yn parhau i ddatgelu natur ddifrifol y sefyllfa, nid yw llywodraethau a dinasyddion yn cymryd unrhyw gamau gweithredu. Nod gwaith ymchwil gan yr Athro Nick Pigeon yw esbonio'r rhesymau dros y syrthni hwn.
Rhwystr llywodraethu
Drwy weithio â thîm holi seneddol, canfu ein hymchwilwyr cyfres o gyfyngiadau ar weithrediad llywodraethol. Yn benodol, gwnaethant ganfod, er bod gan lywodraeth y DU fwriadau a rhethreg dda, eu bod nhw methu gweithredu'n bendant gan eu bod nhw ofn cael eu cosbi wrth y blwch pleidleision petaent yn mabwysiadu mesurau hirdymor mentrus ond amhoblogaidd oedd yn ymwneud â'r hinsawdd.
Dangosodd ddadansoddiad y grŵp ymchwil o ddata a gasglwyd o'r cyhoedd fod nifer helaeth o bobl yn y DU yn poeni am newid yn yr hinsawdd ac eisiau gweithredu, ond fodd bynnag eu bod nhw'n pasio'r cyfrifoldeb hynny i'r llywodraeth, yn credu bod newid yn yr hinsawdd yn broblem rhy anodd i unigolion mynd i'r afael â hi.
Esboniwyd y syniad yma fel 'rhwystr llywodraethu' - mae'r cyhoedd yn gadael i'r llywodraeth weithredu dros newid yn yr hinsawdd, ond mae'r llywodraeth yn methu gweithredu gan eu bod nhw'n credu byddai'r ddeddfwriaeth hirdymor angenrheidiol yn amhoblogaidd gyda'r etholwyr.
The Act leads to change
The subsequent work of the UK's Climate Change Committee, and in particular its initial recommendation that UK carbon emissions needed to be cut by 80% by the year 2050, has had a series of profound impacts across all of UK Government and the devolved administrations with regard to energy policy.
Darganfod datrysiad
Daethant i'r casgliad ni fyddai dinasyddion neu lywodraethau yn gweithredu'n bendant o ganlyniad i hyn, heb fod yna ailstrwythuro sylweddol i un o strwythurau llywodraethol sefydliadol yr hinsawdd.
Cyd-ysgrifennodd yr Athro Pidgeon adroddiad seneddol yn nodi datrysiad: creu pwyllgor arbenigol annibynnol i gynghori'r llywodraeth ar dargedau hirdymor newid yn yr hinsawdd ac i werthuso cynnydd.
Cafodd yr argymhelliad ei ddiogelu yn y Ddeddf Newid yn yr Hinsawdd 2008, a sicrhaodd bod cwmpas y Pwyllgor Newid yn yr Hinsawdd y DU yn cael ei ffurfioli.
Dyma’n harbenigwyr
Yr Athro Nick Pidgeon
Athro Seicoleg Amgylcheddol, Cyfarwyddwr Grŵp Ymchwil Deall Risg.
- pidgeonn@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2087 4567