Trawsnewid y Mabinogion
Cynyddu’r deall sydd ar fythau a chwedlau Cymreig o’r Mabinogion.
Mae Ysgol y Gymraeg wrthi'n ymchwilio i'r Mabinogion ers 30 mlynedd a rhagor, ac ym marn llawer y storïau hyn yw cyfraniad mwyaf Cymru i lenyddiaeth Ewrop. Maent yn gymysgedd cyfoethog o fytholeg Geltaidd a rhamant Arthuraidd sydd wedi'i grisialu mewn un chwedl ar ddeg gan awduron anhysbys.
Mae yma gymeriadau a storïau gwych. Adroddir hanes Gwydion, y gŵr a all newid ei wedd a chreu merch o flodau; hanes Math y dewin y mae'n rhaid i'w draed orffwys yn arffed morwyn; hanes crogi llygoden feichiog a hela baedd hud. Ceir dreigiau, gwrachod a chewri ochr yn ochr ag arwyr a brenhinoedd, ac adroddir hanes ymdrechion i geisio bri, i ddial ac i chwilio am gariad mewn gwlad sy'n ymdrechu'n galed i gadw ei hannibyniaeth.
Mae'r cyfieithiad newydd i'r Saesneg nid yn unig wedi cynyddu dealltwriaeth y cyhoedd o'r testun ond hefyd wedi esgor ar berfformiadau newydd ac wedi ysbrydoli llunio cyfres o storïau modern.
Adfer ac ailadrodd campwaith
Y bwriad gwreiddiol oedd i gyfieithiad Saesneg nodedig yr Athro Sioned Davies o'r Mabinogion fod at ddefnydd academaidd yn bennaf. Ond am ei fod mor ddarllenadwy gwelwyd y diddordeb yn y chwedlau yn cynyddu ymhell y tu hwnt i'r byd academaidd.
Mae ei hailastudiaeth fanwl o'r testun yn fodd i gynulleidfaoedd heddiw ddeall sut y byddai gwrandawyr yn yr Oesoedd Canol wedi'i ddeall ac, yn bwysicach na dim, ddeall sut y câi ei berfformio. Mae'r casgliad cyfoethog o nodiadau esboniadol a mynegeion wedi helpu i gynyddu dealltwriaeth y darllenydd o'r testun hynafol.
Beth yw’r Mabinogion?
Casgliad o chwedlau Cymreig yw'r Mabinogion ac maent i'w cael mewn sawl llawysgrif ganoloesol. Mae'r storïau'n gyforiog o fytholeg Geltaidd gyn-Gristnogol, motiffau chwedlau gwerin rhyngwladol a thraddodiadau hanesyddol o'r Oesoedd Canol.
Effaith y cyfieithu
Mae cyfieithiad yr Athro Davies wedi arwain at adfer yr arfer o adrodd y Mabinogion gan adroddwyr storïau cyfoes, a hybwyd hynny gan gyfres o weithdai hynod lwyddiannus. Yn ogystal, comisiynodd Seren Books awduron o fri i ailddyfeisio'r storïau gwreiddiol mewn cyfres o'r enw New Stories from the Mabinogion. Fe ysbrydolodd hynny lunio storïau fel White Ravens gan Owen Sheers a The Meat Tree gan Gwyneth Lewis. Mae'r cyfieithiad hefyd wedi bod yn ffynhonnell i lyfrau plant fel Arthur and the Twrch Trwyth (2012) gan Margaret Isaac a Tree of Leaf and Flame (2012) gan Daniel Morden.
Ar ben hynny, mae'r cyfieithiad wedi'i ddefnyddio i ddatblygu llwybrau i dwristiaid, fel Llwybr y Twrch Trwyth yng Nghwmaman. Mae porth ar y we – ac ap symudol – sy'n ymwneud â'r Mabinogion yn cael eu creu ar y cyd â menter fach Writemedia Partnership o Sir Benfro, i dywys defnyddwyr i safleoedd a enwir yn y Mabinogion.