Ail-lunio cyfraith iaith yng Nghymru
Angen eglurder a chysondeb, a sicrhau cydymffurfio, ym maes rheoleiddio’r Gymraeg.

Erbyn 2008, nid oedd y polisi ynglŷn â'r Gymraeg yn gallu sicrhau gwasanaethau cyhoeddus dwyieithog cyson yng Nghymru. Bu'r ymchwil yn Ysgol y Gymraeg yn gymorth i wneuthurwyr polisi yn y DU a Llywodraeth Cymru ddeall gwendidau ac anghysonderau'r drefn iaith a fodolai ar y pryd.
[roedd y gwaith] ... yn gwbl allweddol i’r diwygiadau roedd Llywodraeth Cymru yn eu gwneud ynghylch sefydlu trefn iaith newydd yng Nghymru.
Creu trefn reoleiddio newydd
Gwelodd ein hymchwilwyr fod pum problem yn gysylltiedig â'r Cynlluniau Iaith Gymraeg a sefydlwyd gan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993.
Gwelsant fod diffyg gallu ac adnoddau gan sefydliadau i ddarparu gwasanaethau dwyieithog; diffyg cofleidio'r cynlluniau gan uwch-reolwyr; anghysonder o ran cymryd camau cywiro erbyn dyddiadau cau penodedig; dim digon o gyfleu amcanion polisi'n fewnol, a monitro gwael ar weithredu a diweddaru'r cynlluniau iaith. I helpu i ddatblygu deddfwriaeth iaith newydd a threfn iaith amgen, aeth y tîm ati'n systematig i ymchwilio i elfennau'r arferion gorau mewn meysydd polisi eraill yn y DU, ac ym mhrofiadau gwledydd eraill, drwy gyfweld ag uwch-weision sifil, gwleidyddion lleol a chenedlaethol, cynghorwyr cyfreithiol, swyddogion iaith ac arbenigwyr academaidd.
Profiadau rhyngwladol
Rhan o'r ymchwil, hefyd, oedd bwrw golwg manwl ar hawliau ieithyddol, ar swydd Comisiynwyr Iaith Canada ac Iwerddon ac ar y systemau rheoleiddio iaith yng Nghatalunya a Gwlad y Basg.
Newid y gyfraith
Bu'r ymchwil yn allweddol wrth sicrhau newidiadau yn y polisi mewn pedwar prif faes: y cyfrifoldeb deddfwriaethol dros y Gymraeg; gosod set o Safonau newydd yn lle'r Cynlluniau Iaith; cyflwyno swydd Comisiynydd y Gymraeg; a gweithrediad dwyieithog Cynulliad Cenedlaethol Cymru ei hun. Bu'r ymchwil yn hollbwysig o ran datganoli cymhwysedd deddfwriaethol dros bolisi ynglŷn â'r Gymraeg o Senedd y DU i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn 2009. Yn sgil hynny, ymrwymodd Llywodraeth Cymru i gyfres o Safonau'r Gymraeg i ddisodli'r Cynlluniau Iaith, ac fe basiodd Ddeddf Ieithoedd Swyddogol sy'n berthnasol i weithrediad y Cynulliad Cenedlaethol ei hun. Ar Ebrill 1, 2012, cymerodd Comisiynydd newydd y Gymraeg le Bwrdd yr Iaith Gymraeg.
Dyma’n harbenigwyr

Yr Athro Diarmait Mac Giolla Chríost
Cyfarwyddwr Astudiaethau Ymchwil Ôl-raddedig
- Siarad Cymraeg
- macgiollachriostd@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2087 9180

Yr Athro Colin H Williams
Athro er Anrhydedd
- Siarad Cymraeg
- williamsch@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2087 0413