Hyrwyddo pwysigrwydd pwyll pan yn rhoi antibiotics ar bresgripsiwn ar gyfer problemau deinyddol mewn gofal cynradd
Lleihau rhoi antibiotics ar bresgripsiwn i osgoi bacteria sy’n ymwrthiannol i wrthfeicrobau.
Mae ymwrthedd gwrthficrobaidd (pan nad yw’n bosib trin heintiau gyda meddyginiaethau sydd ar gael mwyach) yn fygythiad enfawr i iechyd y cyhoedd. Mae gorddefnyddio gwrthfiotigau yn un o’r problemau mwyaf sy’n arwain at ymwrthedd gwrthficrobaidd felly mae'n bwysig bod gwrthfiotigau'n cael eu rhoi ar bresgripsiwn yn ofalus. Mae hynny'n golygu rhoi’r cyffur cywir, y dos cywir, am y cyfnod cywir, ac yn hanfodol, dim ond pan fydd eu gwirioneddol hangen.
Mae Ivor Chestnutt, Athro ac Ymgynghorydd Anrhydeddus mewn iechyd cyhoeddus deintyddol, ac Anwen Cope, Uwch-ddarlithydd Clinigol ac Ymgynghorydd Anrhydeddus Iechyd Deintyddol y Cyhoedd, yn gweithio gyda chydweithwyr yn yr Ysgol Meddygaeth i ddeall sut y defnyddir gwrthfiotigau wrth reoli problemau deintyddol mewn gofal sylfaenol yn y DU.
Datgelu'r problemau
Mae deintyddion yn gyfrifol am 1 o bob 10 presgripsiwn gofal sylfaenol ar gyfer gwrthfiotigau yn y DU. Mae llawer o'r rhain ar gyfer cyflyrau fel crawniadau deintyddol, a allai gael eu rheoli'n fwy effeithiol gan ddefnyddio triniaethau deintyddol fel echdynnu dannedd neu driniaethau camlas gwraidd.
Dangosodd ymchwil gan y Brifysgol nad oedd cymaint ag 80% o'r gwrthfiotigau a roddir ar bresgripsiwn gan ddeintyddion yng Nghymru wedi'u rhagnodi yn unol â'r canllawiau cyfredol.
Un o'r prif feysydd y mae'r ymchwil hon yn ceisio ei ddeall yw pa ffactorau all ddylanwadu ar benderfyniadau clinigwyr gofal sylfaenol i roi gwrthfiotigau ar bresgripsiwn i gleifion â phroblemau deintyddol.
Diogelu gwrthfiotigau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Gall gwella arferion presgripsiynu heddiw helpu i sicrhau bod gwrthfiotigau'n dal i fod yn effeithiol am flynyddoedd i ddod. Mae gan pob maes gofal iechyd rôl i'w chwarae o ran rheoli’r gwrthficrobau presennol.
Ymchwil ar gyfer newid
Mewn astudiaeth drawstoriadol ddiweddar a gynhaliwyd ymhlith ymarferwyr deintyddol cyffredinol yng Nghymru, canfuom fod cleifion yn gofyn am wrthfiotigau, amser clinigol prin a llwyth gwaith yn cynyddu'r tebygolrwydd y bydd claf yn cael gwrthfiotig ar bresgripsiwn pan nad oedd rhaid.
Bydd yr wybodaeth hon yn ein galluogi i weithredu newidiadau effeithiol mewn gofal sylfaenol i hyrwyddo'r defnydd gorau o wrthfiotigau ar gyfer problemau deintyddol.
Dyma’n harbenigwyr
Dr Anwen Cope
Uwch-ddarlithydd Clinigol ac Ymgynghorydd Anrhydeddus Iechyd Deintyddol y Cyhoedd
Yr Athro Ivor Chestnutt
Cyfarwyddwr Astudiaethau Ôl-raddedig, Uwch-ddarlithydd Clinigol ac Ymgynghorydd Anrhydeddus mewn Iechyd Cyhoeddus Deintyddol, Cadeirydd dros dro y Bwrdd Deintyddol Clinigol
- chestnuttig@caerdydd.ac.uk
- +44 29207 46680