Ewch i’r prif gynnwys

Ers sefydlu Senedd Cymru, Cynulliad Cenedlaethol Cymru gynt, ym 1999, mae dadlau wedi bod bob hyn a hyn am ei maint (nifer yr aelodau) a'r system a ddefnyddir i'w hethol.

Canfu ein hymchwil ar y cyd â'r Gymdeithas Diwygio Etholiadol fod y Senedd, sydd ag ond 60 Aelod yn y Senedd, yn rhy fach i fod yn effeithiol yng nghyd-destun y pwerau a'r cyfrifoldebau deddfwriaethol helaeth yr oedd ganddi eisoes (bryd hynny). Canfu hefyd fod gan ddeddfwrfeydd eraill yn rhyngwladol sydd â phwerau a maint y boblogaeth sy’n debyg i rai’r Senedd rhwng 80 a 100 o aelodau.

Gan fod rhagor o bwerau i'w datganoli yn dilyn refferendwm yn 2011, roedd yn hanfodol bod maint a threfniadau etholiadol y Senedd yn addas i'r diben a bod gan y Senedd y gallu i graffu'n effeithiol ar Lywodraeth Cymru a'i dwyn i gyfrif.

Daeth hyn yn fwy arwyddocaol hyd yn oed pan nad oedd cylch gwaith Comisiwn Silk, comisiwn annibynnol a sefydlwyd gan Lywodraeth y DU yn dilyn refferendwm 2011, yn cynnwys maint y Senedd na sut yr etholir ei haelodau.

Roedd yr Athro Laura McAllister, Richard Wyn Jones, a chydweithwyr yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru, yn glir ei bod yn bryd rhoi'r mater hwn yn ôl ar yr agenda wleidyddol. Gwnaethon nhw gyflwyno eu hymchwil i Gomisiwn Silk a’r Confensiwn Cymru Gyfan, yn ogystal ag ymchwiliadau seneddol eraill. Er ei fod y tu allan i'w gylch gwaith, defnyddiodd adroddiad Comisiwn Silk dystiolaeth o'r ymchwil i argymell cynnydd o ran maint y Senedd.

Y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad

Yn dilyn adroddiad Comisiwn Silk ym mis Tachwedd 2016, cyhoeddodd Comisiwn y Senedd y byddai'n sefydlu Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad i fwrw ymlaen â gwaith ar faint a diwyg y ddeddfwrfa. Roedd y penderfyniad i sefydlu'r panel yn ychwanegu at y consensws gwleidyddol a oedd yn bodoli eisoes yn ogystal â sylfaen y dystiolaeth bod y Senedd yn rhy fach i allu cyflawni dros bobl Cymru.

Dechreuodd y panel ar ei waith ym mis Chwefror 2017 gyda chylch gwaith i roi tystiolaeth er mwyn llywio consensws gwleidyddol ynghylch diwygiadau i faint a system etholiadol y Senedd, yn ogystal â'r oedran pleidleisio isaf.

Dewiswyd yr Athro Laura McAllister i gadeirio'r panel ar sail ei harbenigedd academaidd.

Dyma a ddywedodd yr Athro McAllister, “Gweithiodd y panel mewn tri maes yn ein cylch gorchwyl: maint y Senedd, system etholiadol a fyddai'n rhoi gwell cynrychiolaeth o ran sut y mae pobl yn bwrw eu pleidleisiau, gan gynnwys edrych ar fesurau sy’n ymwneud ag amrywiaeth, ac a ddylid cynnwys pobl ifanc rhwng 16 a 17 oed yn yr etholfraint.”

Cyhoeddwyd adroddiad y Panel Arbenigol – 'Senedd sy'n gweithio i Gymru', neu adroddiad McAllister fel y’i gelwir, yn 2017. Ymhlith ei argymhellion y mae:

  • cynyddu maint y Senedd i rhwng 80 a 90 o aelodau
  • cyflwyno system etholiadol y Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy (STV)
  • ymrwymiad i ethol Senedd sy’n fwy amrywiol ac argymhellion ar gyfer nifer o fesurau gweithredu, gan gynnwys rhagor o waith trawsbleidiol ar sut y gallai rhannu swyddi ar gyfer ASau a chwotâu amrywiaeth ar gyfer nodweddion gwarchodedig, gan gynnwys rhyw, weithio'n ymarferol.

Arweiniodd adroddiad McAllister yn uniongyrchol at Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020. Cafodd yr argymhelliad i ostwng yr oedran pleidleisio isaf ei wneud yn gyfraith yn sgîl y Ddeddf ac yn etholiadau'r Senedd yn 2021, pleidleisiodd pobl ifanc 16 ac 17 oed am y tro cyntaf. Disgrifiodd y Gymdeithas Diwygio Etholiadol y newid yn “hwb i'n democratiaeth yn ei chyfanrwydd – sef cryfhau dinasyddiaeth a hybu’r broses o ymgysylltu gwleidyddol.”

Er i argymhelliad y panel ar yr oedran pleidleisio isaf gael ei dderbyn ar adeg yr adroddiad, nid oedd consensws clir o du’r pleidiau gwleidyddol ynghylch newid maint y Senedd nac o du system etholiadol arall.

“Rydyn ni'n gwybod nad yw hi byth yn amser gwych i ddweud bod angen rhagor o wleidyddion arnon ni, ond mae'n rhaid gosod hyn yng nghyd-destun y pwerau a’r cyfrifoldebau ychwanegol. Erbyn hyn mae gennym fodel o ddatganoli sydd â chyfrifoldebau cyllidol ac ariannol, ac os yw’n mynd i weithio'n effeithiol, mae’n rhaid i'r Senedd gael y pwerau a'r gallu i graffu'n effeithiol ar y llywodraeth.

“Mae'n debyg mai craffu da yw un o'r mecanweithiau mwyaf pwerus sydd gan seneddau er mwyn cyflawni dros bobl. Rydyn ni eisiau senedd sy’n gallu gwella deddfwriaeth a herio cyrff sy'n rheoli llinynnau'r pwrs yng Nghymru,” meddai'r Athro McAllister.

“Mae consensws sy'n dod i'r amlwg hefyd y dylai system yr aelodau ychwanegol (AMS) a ddefnyddir ar hyn o bryd newid. Nid yw hynny'n gychwynbwynt gwael i geisio creu momentwm i newid y system yn un sy'n gweithio'n well o ran cynrychiolaeth effeithiol a mwy cyfrannol. Os bydd nifer yr ASau yn newid, mae bron yn anochel y bydd yn rhaid i'r system etholiadol newid hefyd.” ychwanegodd.

Bwrw ymlaen â diwygio'r Senedd

Sefydlwyd Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd yn 2019/2020 i ddatblygu argymhellion y Panel Arbenigol ymhellach. Cafodd ei gadeirio gan Dawn Bowden AS.

Cynhaliodd y Pwyllgor ymgynghoriad cyhoeddus a gwleidyddol, ac yn dilyn oedi oherwydd COVID-19, cwblhaodd ei adroddiad ym mis Medi 2020. Roedd yn cefnogi argymhellion y Panel Arbenigol i raddau helaeth.

Yn dilyn etholiad Senedd 2021, mae'r argymhellion hyn yn cael eu hystyried gan Bwyllgor Diben Arbennig newydd ar Ddiwygio'r Senedd. Bydd ei waith yn hysbysu Bil Llywodraeth Cymru ar Ddiwygio'r Senedd a disgwylir i'r Pwyllgor gyflwyno ei adroddiad erbyn mis Mai 2022. Bydd yr Athro McAllister yn cynorthwyo'r Pwyllgor gan roi mewnbwn arbenigol a defnyddio ei gwaith ar y Panel Arbenigol ac ymchwil barhaus yn y maes hwn.

Yn ddiweddar llofnodwyd Cytundeb Cydweithio rhwng Llafur Cymru a Phlaid Cymru. Bydd y Cytundeb yn gweithio ar 46 o feysydd polisi, gan gynnwys diwygio'r Senedd. Mae'r ymrwymiad i ymgorffori cydraddoldeb rhywiol hefyd yn rhan o'r cytundeb.

“Bydd y Pwyllgor Diben Arbennig yn cyflwyno deddfwriaeth mewn pryd ar gyfer etholiad 2026. Does dim sicrwydd, fel yn achos popeth ym myd gwleidyddiaeth. Byddai'n siomedig erbyn hyn os na fyddwn ni’n ethol Senedd mwy ei maint yn 2026, y gellir ei phriodoli'n uniongyrchol i'n hadroddiad a'n gwaith, a’n gobaith yw y bydd gennym system etholiadol fwy priodol sydd ag amrywiaeth yn rhan ganolog iddi. Rhan o'r cytundeb cydweithio yw ymchwilio i gwotâu rhyw fel rhan o'r system etholiadol a oedd, wrth gwrs, yn un o'n hargymhellion.

“Mae'n edrych yn fwyfwy tebygol y bydd y rhan fwyaf o brif argymhellion y panel arbenigol yn cael eu rhoi ar waith erbyn etholiad nesaf y Senedd yn 2026, llai na 10 mlynedd ers iddo adrodd. Mae hyn yn eithaf arwyddocaol o ystyried pa mor sensitif yw meithrin consensws gwleidyddol a pha mor araf y gall y broses ddeddfwriaethol fod.” Ychwanegodd yr Athro McAllister.

Y camau nesaf

Ar y cyd â chyn-Archesgob Caergaint Dr Rowan Williams, yr Athro McAllister bellach yw cadeirydd Comisiwn Annibynnol fydd yn edrych ar ddyfodol gwleidyddol Cymru a'i pherthynas â gweddill y Deyrnas Unedig. Bydd hyn yn cynnwys pob opsiwn ar gyfer diwygio strwythurau cyfansoddiadol y DU yn sylfaenol. Yn y strwythurau hyn, bydd Cymru'n parhau i fod yn rhan annatod ohoni, a bydd hefyd yn ystyried pob opsiwn blaengar i gryfhau democratiaeth Cymru, gan gynnwys annibyniaeth Cymru.

“Mae'r Comisiwn newydd yn edrych tuag at allan o ble rydyn ni yng ngwleidyddiaeth gyfansoddiadol a thiriogaethol bresennol y DU, meddai'r Athro McAllister. Rhan o'n hystyriaethau fydd archwilio fframwaith datganoli fel y mae'n bodoli ar hyn o bryd, yr hyn y gall ac na all y Senedd ei wneud a sut y mae wedi cyflawni ei rolau allweddol. Ar un wedd, bydd y comisiwn newydd yn cyflawni rhai o'r dadleuon a gawsom eisoes o ran pensaernïaeth fewnol a gweithrediad y Senedd, yn ogystal â gwerthuso'r gyfres o opsiynau ar gyfer dyfodol cyfansoddiadol Cymru.”

Professor Laura McAllister
Yr Athro Laura McAllister

Dyma’r tîm

Aelodau blaenllaw

Newyddion cysylltiedig

Professor Laura McAllister outside café

Arbenigwr ar lywodraethu i arwain y sgwrs genedlaethol ar ddyfodol Cymru

Bydd Athro Polisïau Cyhoeddus a Llywodraethiant Cymru o Brifysgol Caerdydd yn cyd-gadeirio Comisiwn Cyfansoddiadol annibynnol ar ddyfodol Cymru.

Polling station

Oes angen ailwampio'r Cynulliad Cenedlaethol?

A fyddai'r ailwampio cyfansoddiadol mwyaf yn hanes byr y Cynulliad Cenedlaethol yn ei helpu i lywodraethu’n fwy effeithiol er lles pobl Cymru?

Senedd CB

Diwygiadau newydd i gryfhau ein democratiaeth yng Nghymru

Mae un o bwyllgorau'r Senedd wedi argymell creu senedd fwy i Gymru a etholir drwy’r Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy.

Cyhoeddiadau

Partneriaid