Ai maint yw popeth ym myd llywodraeth leol?
Ystyried sut mae awdurdodau lleol yn cyflwyno gwasanaethau ac a fydd eu maint yn berthnasol yn y dyfodol.
Mae penderfynu beth yw maint delfrydol unedau llywodraeth leol wedi peri penbleth i lunwyr polisïau ledled y byd. Yn gyffredinol, tybiwyd bod cynghorau mawr yn fwy effeithlon ond yn llai ymatebol i anghenion lleol.
Dim maint delfrydol
Cynhaliodd Canolfan Ymchwil Llywodraeth Leol a Rhanbarthol (CLRGR) yn yr Ysgol Busnes y dadansoddiad cynhwysfawr cyntaf o effaith maint ar berfformiad awdurdodau lleol.
O dan arweiniad yr Athro Stephen Martin, aeth yr ymchwilwyr ati hefyd i ystyried ai partneriaethau rhwng cynghorau yw'r ffordd ymlaen o ran cynnig arbedion maint, yn hytrach na chreu awdurdodau mwy.
Lluniodd y tîm ddull arloesol a ddefnyddiodd sgôr arolygiadau, dangosyddion perfformiad cenedlaethol, hyder y cyhoedd a mynegai gwerth am arian.
Dangosodd y canlyniadau nad oes y fath beth â 'maint delfrydol' i awdurdod lleol. Mae gan gynghorau mwy lai o orbenion gweinyddol canolog, ond mae effaith y maint yn amrywio rhwng gwasanaethau. Daeth i'r amlwg mewn gwaith ymchwil dilynol bod aildrefnu i greu cynghorau mwy yn gallu amharu ar berfformiad.
Atal aildrefnu
Llywiodd y canlyniadau benderfyniad Llywodraeth y Glymblaid i roi'r gorau i aildrefnu llywodraeth leol yn Lloegr.
Dylanwadu ar bolisïau
Dylanwadodd y canlyniadau'n uniongyrchol ar bolisïau Gweinidogion Cymru i annog cynghorau i gydweithio, yn ogystal â llywio penderfyniad Llywodraeth y Glymblaid i atal aildrefnu llywodraeth leol yn Lloegr.
Mae uwch-wleidyddion, cynghorwyr arbennig, a swyddogion llywodraeth leol ymhlith y rhai sydd wedi elwa'n uniongyrchol ar y gwaith ymchwil.
Defnyddiwyd canfyddiadau'r astudiaeth a gynhaliwyd gan y Ganolfan Ymchwil Llywodraeth Leol a Rhanbarthol yn 2006 mewn adolygiad annibynnol o dan gadeiryddiaeth Syr Jeremy Beecham. Daeth yr adolygiad hwn i'r casgliad y byddai costau aildrefnu llywodraeth leol yn fwy na'r manteision.
Dyma’n harbenigwyr
Yr Athro Steve Martin
Chief Executive, Wales Centre for Public Policy
- martinsj@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2087 5202