Ewch i’r prif gynnwys

UA 9 Ffiseg

Mae ein Cyfartaledd Pwynt Gradd (GPA) cyffredinol o 3.45 yn adlewyrchu ansawdd ac effaith ryngwladol ein gwaith, gyda 99% o'n cyflwyniad yn cael ei ystyried gyda’r gorau yn y byd neu'n rhagorol yn rhyngwladol. Mae ein pŵer ymchwil (sy’n ddangosydd o ran graddfa ac ansawdd ein cyflwyniad) wedi treblu bron â bod, ers REF 2014.

Rydym yn meithrin cymuned ymchwil gynhwysol, amrywiol a chydweithredol. Mae cyflwyno gwaith 100% o'n staff cymwys i'r Uned Asesu hon yn adlewyrchu hynny.

Our results

Lefel ansawdd% 4 seren% 3 seren% 2 seren% 1 seren% Diddosbarth
Cyfanswm46.053.01.00.00.0
Allbynnau43.454.12.50.00.0
Effaith50.050.00.00.00.0
Amgylchedd50.050.00.00.00.0

Ein hamgylchedd ymchwil

Mae gan yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth weledigaeth i fynd i'r afael ag ymchwil sylweddol a heriau cymdeithasol, gan sicrhau ei bod yn cyfrannu at dwf economaidd cenedlaethol ar yr un pryd, drwy gydweithio rhyngwladol a hyrwyddo’r ddealltwriaeth o, a hefyd cymhwyso, ffiseg a seryddiaeth.

Rydym yn cyflawni hyn drwy strwythur ein grŵp ymchwil sy’n cyd-fynd â’n cryfderau a’n dyheadau ymchwil ar gyfer y dyfodol.

Ers REF 2014, bu cryn ddatblygiadau yn yr Ysgol, gan gynnwys:

Mae ein hincwm ymchwil wedi cynyddu 147% i £114 miliwn ac rydym wedi gweld ein carfan o ymchwilwyr ôl-ddoethurol (PDRAs) a myfyrwyr ôl-raddedig (PGR) hefyd yn cynyddu i'r lefel uchaf erioed.

Yn ogystal â bod a lle newydd i weithio ynddo yn rhan o Ganolfan Ymchwil Drosi newydd, gwerth £131 miliwn, Prifysgol Caerdydd, lle ceir cyfleuster o’r radd flaenaf i greu lled-ddargludyddion, a 1000 m2 pellach o labordai ffiseg o ansawdd uchel, rydym wedi ennill dros £63 miliwn yn cyfrannu at ymchwil ar draws sawl adran, gan ddangos bod Ffiseg yn symbylu ymchwil amlddisgyblaethol a rhyngddisgyblaethol.

Mae enghreifftiau'n cynnwys deall y rhyngwyneb rhwng nitrid diemwnt ac alwminiwm i hwyluso gwneud defnydd o sinciau gwres diemwnt ar gyfer electroneg amledd radio (RF) sy'n seiliedig ar nitrid (Ffiseg a Seryddiaeth a Pheirianneg, grant rhaglen EPSRC y Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol) a datblygu opteg aflinol ar gyfer microsgobeg celloedd (Ffiseg a Seryddiaeth a'r Biowyddorau, EPSRC a'r Cyngor Ymchwil Biodechnoleg a Gwyddorau Biolegol).

Mae gennym ddiddordeb angerddol hefyd mewn gwella amrywiaeth yn ein gweithle ac ansawdd ein hamgylchedd gwaith, ac rydym wedi sicrhau statws Hyrwyddwr Juno y Sefydliad Ffiseg ac, yn fwy diweddar, wobr Arian Athena SWAN, sy’n cydnabod ein cynnydd.

Dewch i gael gwybod am ein hymchwil

Mae ein grwpiau ymchwil yn gweithio ar flaen y gad o ran ymchwil i ddatrys problemau cyfredol a gwella ansawdd bywyd.

A group of school children

Cyflwyno ffiseg i bawb

Mae ein hymchwil wedi gwneud gwahaniaeth enfawr o ran gwneud pobl yn fwy ymwybodol o seryddiaeth, ac wedi helpu i drawsnewid, y ffordd yr addysgir y pwnc, a’r ffordd mae’r cyhoedd yn meddwl amdano.

Gravitational waves

Ymchwil yn yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth

Boed yn raddfeydd cwantwm neu gosmolegol, nod ein hymchwilwyr yw datrys problemau mwyaf dyrys maes ffiseg a seryddiaeth.

Effaith

Mae ymchwil ar draws yr ysgol yn canolbwyntio ar raglenni byd go iawn a datrys problemau.