Ewch i’r prif gynnwys

UA 8 Cemeg

Adlewyrchir cryfder ein harbenigedd ymchwil yn ein sgôr cyffredinol o 3.43 a’r ffaith bod 99% o’n cyflwyniad yn cael ei ystyried gyda’r gorau yn y byd neu’n rhagorol yn rhyngwladol. Rydym yn 12fed yn y DU am effaith ein hymchwil wrth fynd i’r afael â heriau mawr y mae ein cymdeithas, yr economi a’n hamgylchedd yn eu hwynebu.

Rydym yn meithrin cymuned ymchwil gynhwysol, amrywiol a chydweithredol. Mae cyflwyno gwaith 100% o'n staff cymwys i'r Uned Asesu hon yn adlewyrchu hynny.

Ein canlyniadau

Lefel ansawdd% 4 seren%  3 seren% 2 seren% 1 seren% Diddosbarth
Cyfanswm44.055.01.00.00.0
Allbynnau34.764.31.00.00.0
Effaith62.537.50.00.00.0
Amgylchedd50.050.00.00.00.0

Ein hamgylchedd ymchwil

Canolfan ymchwil flaenllaw yw’r Ysgol Cemeg. Mae’n ymroddedig i ethos o ymchwil ryngddisgyblaethol drwyadl yn y gwyddorau cemegol, ac ategir hyn gan gyfleusterau a seilwaith ymchwil rhagorol.

Ein cenhadaeth yw creu dealltwriaeth wyddonol sylfaenol ac effaith gyhoeddus drwy ymchwil arloesol ar y cyd ag ystod eang o bartneriaid rhyngwladol. Rydyn ni wedi ymrwymo i ddatrys heriau cymdeithasol o bwys tra’n cyfrannu at dwf economaidd cenedlaethol drwy ddarganfyddiadau newydd.

Mae ein Hysgol wedi tyfu’n sylweddol ers REF 2014, ac mae cynnydd o 20% wedi bod yn nifer y staff sy’n weithgar ym maes ymchwil. I gefnogi'r twf hwn rydyn ni wedi cynyddu ein hystad yn sylweddol yn ystod y cyfnod.

 ninnau ym Mhrif Adeilad hanesyddol Prifysgol Caerdydd, rydyn ni wedi ehangu cyfleusterau presennol ein labordy ymchwil ac wedi creu rhai newydd gan fuddsoddi mwy na £3 miliwn. Rydym hefyd wedi sefydlu offer newydd o bwys i ategu ymchwil, gan gynnwys cyfleuster Sbectrosgopïen Ffotoelectron pelydr-X newydd ar gyfer dadansoddi arwyneb, offer Sbectrometreg Mass (MS) newydd mewn cyfres o labordai wedi'u hadnewyddu'n arbennig, a 4 sbectromedr Cyseiniant Magnetig Niwclear (NMR) newydd i ategu ein sbectomedrau 600 MHz a’r rhai eraill a ddefnyddir yn eang.

Roedd sawl maes ymchwil eisoes wedi’u hen sefydlu yn REF 2014, yn enwedig Catalysis a Bioleg Gemegol, ac ers hynny rydyn ni wedi cryfhau’n sylweddol mewn meysydd eraill gan gynnwys Deunyddiau, Synthesis, Sbectrosgopeg a Chemeg Gyfrifiadurol.

Mae’r Ganolfan flaenllaw Sefydliad Catalysis Caerdydd (CCI) yn parhau i fod yn ganolfan a gydnabyddir yn rhyngwladol ym maes gwyddoniaeth gatalytig, sy’n golygu y gall staff greu partneriaethau unigryw sy'n mynd i'r afael â nifer o heriau ymchwil amlddisgyblaethol.

Mae cyfanswm ein hincwm grant ymchwil ers REF 2014 wedi cynyddu’n sylweddol, sef 79.4%.

Dewch i gael gwybod am ein hymchwil

Darganfyddwch sut mae ein hadrannau a’n themâu ymchwil yn ysgogi ein twf parhaus ac yn helpu i feithrin cydweithrediad ymchwil ar raddfa ryngwladol, wrth i ni weithio i fynd i’r afael â heriau mawr sy’n wynebu cymdeithas.

Ffordd fwy ecogyfeillgar o weithgynhyrchu Perspex®

Trwy ein hymchwil, darganfyddom broses cost-effeithiol ar gyfer creu Perspex® yn fyd-eang. Gallai’r broses hon gael ei defnyddio ar raddfa, gan gynnig manteision economaidd ac amgylcheddol.

Close-up of green liquids in glass phials

Ymchwil

Mae ein hymchwilwyr yn gweithio i ddarganfod atebion i'r heriau byd-eang sylweddol.

Effaith

Gweld sut mae ein hymchwil yn gweithio i fynd i'r afael â heriau o bwys sy'n wynebu cymdeithas, yr economi a'n hamgylchedd.