UA 7 Systemau’r Ddaear a’r Gwyddorau Amgylcheddol
Gan gyflawni sgôr cyffredinol o 3.57, mae ein huned yn helpu i lunio’r dirwedd ymchwil, gan fynd i’r afael â rhai o’r heriau byd-eang mwyaf arwyddocaol ym maes Gwyddorau’r Ddaear a Gwyddorau Amgylcheddol. Nodwedd arbennig ar yr uned yw bod 100% o’n cyflwyniad ymchwil yn cael ei ystyried gyda’r gorau yn y byd neu’n rhagorol yn rhyngwladol, ac mae 70% o’n hallbynnau’n cael eu hystyried yn rhai sy’n arwain y byd, sy’n ein gosod yn 2il yn y DU.
Rydym yn meithrin cymuned ymchwil gynhwysol, amrywiol a chydweithredol. Mae cyflwyno gwaith 100% o'n staff cymwys i'r Uned Asesu hon yn adlewyrchu hynny.
Ein canlyniadau
Lefel ansawdd | % 4 seren | % 3 seren | % 2 seren | % 1 seren | % Diddosbarth |
---|---|---|---|---|---|
Cyfanswm | 57.0 | 43.0 | 0.0 | 0.0 | 0.0 |
Allbynnau | 69.8 | 30.2 | 0.0 | 0.0 | 0.0 |
Effaith | 37.5 | 62.5 | 0.0 | 0.0 | 0.0 |
Amgylchedd | 37.5 | 62.5 | 0.0 | 0.0 | 0.0 |
Ein hamgylchedd ymchwil
Mae Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Amgylchedd yn gofyn cwestiynau ymchwil sylfaenol a chymhwysol ar draws ehangder Gwyddorau'r Ddaear a'r Amgylchedd a hyn sy’n ein cadw ar flaen y gad yn y gymuned ymchwil fyd-eang.
Ers REF 2014 ein nod yw cryfhau rhagoriaeth ein hymchwil ac ehangder ein heffaith tra'n caniatáu i staff ehangu eu gorwelion eu hunain. Ymhlith rhai o’n datblygiadau y mae:
- Strwythur ymchwil newydd drwy ddatblygu tair Canolfan Ymchwil newydd, a 10 grŵp ymchwil cysylltiedig, gan integreiddio 14 cyfadran newydd
- Mentrau lles gwell ac ennill gwobr efydd Athena SWAN
- Mwy o gymorth i fyfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig a mwy na 75 o fyfyrwyr PhD sy'n graddio
- Uwchraddio cyfleusterau dadansoddol yn sylweddol gan gynnwys labordy Sbectromedr Màs Plasma wedi’i gyplu’n anwythol gan Amlgasglydd (MC-ICP-MS) newydd a'r ystafell ddelweddu 3D
- Partneriaethau strategol newydd gyda sefydliadau allanol megis Arolwg Daearegol Prydain (BGS) Cymru, Prifysgol Bremen a Phrifysgol Campinas
- Gwell ymgysylltu a chydweithio rhyngddisgyblaethol, gan gynnwys arweinyddiaeth mewn dau sefydliad ymchwil yn y Brifysgol
Rydyn ni wedi cynyddu cyfanswm y cyllid a ddyfarnwyd i £17 miliwn ers REF 2014 ac wedi manteisio ar y gwaith o adnewyddu labordai a phrynu offer.
Mae’r rhain yn cynnwys sefydlu ‘Labordy Daear Prifysgol Caerdydd ar gyfer Elfennau Hybrin a Chemeg Isotopau (CELTIC)’. Mae offer arbenigol yno ar gyfer dadansoddi isotopau, sy’n cael eu defnyddio ar hyn o bryd ar gyfer amrywiaeth eang, o brosiectau ymchwil am newid hinsawdd i sut mae planedau wedi’u ffurfio. Rydym hefyd wedi adnewyddu ein cyfleuster microbaladr electron o'r radd flaenaf a labordy elfennau hybrin 'ELEMENT' sydd wedi bod yn sail i ddulliau newydd o astudio petroleg ac adnoddau mwynol.
Dewch i gael gwybod am ein hymchwil
Mae ein canolfannau a’n grwpiau ymchwil yn ymchwilio i brosesau naturiol sy’n siapio’r byd o’n cwmpas wrth i ni weithio i fynd i’r afael â heriau mawr sy’n wynebu cymdeithas, yr economi, a’r amgylchedd.