UA 4 Seicoleg, Seiciatreg a’r Niwrowyddorau
Mae ein hymchwilwyr yn gweithio ar draws maes eang seicoleg, seiciatreg a niwrowydoniaeth er mwyn mynd i’r afael â heriau o bwys sy’n wynebu cymdeithas a’r amgylchedd. Mae hyn yn cynnwys newid y ddeddfwriaeth yn y DU sy’n ceisio lleihau gwastraff plastig untro drwy godi tâl ar y rhai sy’n defnyddio plastig o’r fath, cyflwyno gwasanaeth cenedlaethol newydd i gefnogi mabwysiadu brodyr a chwiorydd a phlant mewn gofal sy’n anodd eu lleoli, yn ogystal â newid canllawiau i wasanaethau brys y DU.
Mae ein canlyniadau yn y REF wedi cadarnhau ein lle fel canolfan rhagoriaeth ymchwil sy’n arwain y byd. Cawsom ein rhoi yn y 7fed safle (allan o 95) yn y DU drwy sicrhau sgôr Cyfartaledd Pwynt Gradd o 3.55. Ystyriwyd bod 95% o’n hymchwil naill ai’n arwain y byd neu’n rhagorol yn rhyngwladol. Rhoddwyd y sgôr uchaf bosibl i ni (4.0) ar gyfer ein hamgylchedd ymchwil.
Rydym yn meithrin cymuned ymchwil gynhwysol, amrywiol a chydweithredol. Mae cyflwyno gwaith 100% o'n staff cymwys i'r Uned Asesu hon yn adlewyrchu hynny.
Ein canlyniadau
Lefel ansawdd | 4 seren (%) | 3 seren (%) | 2 seren (%) | 1 seren (%) | Diddosbarth (%) |
---|---|---|---|---|---|
Cyffredinol | 60.0 | 35.0 | 5.0 | 0.0 | 0.0 |
Allbynnau | 43.3 | 48.2 | 8.1 | 0.4 | 0.0 |
Effaith | 77.8 | 22.2 | 0.0 | 0.0 | 0.0 |
Diwylliant | 100.0 | 0 | 0 | 0 | 0 |
Diwylliant ein hymchwil
Mae ein hymchwil yn cynnwys gwyddoniaeth ymddygiad dynol ac anifeiliaid, fel sylfaen i ddeall natur a thriniaeth ystod eang o anhwylderau seiciatrig, niwroddatblygiadol a niwrolegol.
Mae gennym 7 thema ymchwil: seicoleg gymdeithasol ac amgylcheddol, seicoleg iechyd a datblygiadol, seiciatreg ddatblygiadol, seicosis ac anhwylderau affeithiol mawr, anhwylderau niwroddirywiol, gwyddoniaeth wybyddol, a niwrowyddoniaeth. Mae'r themâu hyn yn cael effaith gymdeithasol, feddygol ac economaidd.
Mae ein hymchwil a'n heffaith yn cael eu gyrru gan bobl sy'n gweithio mewn diwylliant bywiog a chefnogol. Mae seilwaith a chyfleusterau o'r radd flaenaf ar gael ar ein cyfer sy'n galluogi cydweithio rhyngddisgyblaethol lleol, cenedlaethol a rhyngwladol ar raddfa eang.
Ers REF 2014, rydym wedi cynyddu ein gallu, ein cynaliadwyedd a'n bywiogrwydd drwy benodi staff addysgu ac ymchwil ar gyfer swyddi penagored a strategol, cymrodoriaethau a ariennir yn allanol, dyfarniadau hyfforddiant ymchwil ôl-raddedig, ymchwil ryngddisgyblaethol a throsi gwell ar draws ein 7 thema yn ogystal â chael gwerth £119.7miliwn o ddyfarniadau.
Dewch i gael gwybod am ein hymchwil
Mae UoA 4 yn cynnwys yr Ysgol Meddygaeth a'r Ysgol Seicoleg, y ddwy ohonynt yn mwynhau diwylliant ymchwil bywiog a chefnogol gyda'r ymchwil o'r ddwy ysgol yn cael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl.