Ewch i’r prif gynnwys

UA 34 Cyfathrebu, Diwylliannol ac Astudiaethau'r Cyfryngau, Rheoli Llyfrgelloedd a Gwybodaeth

Rydym yn ail yn y DU am ein hymchwil byd-enwog mewn newyddiaduraeth, y cyfryngau ac astudiaethau diwylliannol. Mae ein gwaith yn dadansoddi polisi’r cyfryngau, cynrychiolaethau ac arferion, gyda ffocws ar heriau cyfredol. Mae'n cwmpasu ymchwil sy'n edrych ar newyddiaduraeth a democratiaeth, goblygiadau technolegau sy'n datblygu, ac arloesedd yn y diwydiant creadigol.

Cawsom y sgôr uchaf posibl am ein hamgylchedd ymchwil - sy'n dyst i'r diwylliant cefnogol, cynhwysol mae'r Ysgol wedi'i feithrin dros flynyddoedd lawer. Ystyrir bod dros 83% o'n heffaith ymchwil yn eithriadol o ran cyrhaeddiad ac arwyddocâd a bod 95% o'n hymchwil yn arwain y byd neu'n rhagorol yn rhyngwladol.

Rydym yn meithrin cymuned ymchwil gynhwysol, amrywiol a chydweithredol. Mae cyflwyno gwaith 100% o'n staff cymwys i'r Uned Asesu hon yn adlewyrchu hynny.

Ein canlyniadau

Lefel ansawdd% 4 seren% 3 seren% 2 seren% 1 seren% Diddosbarth
Cyfanswm71.024.05.00.00.0
Allbynnau59.232.38.50.00.0
Effaith83.316.70.00.00.0
Amgylchedd100.00.00.00.00.0

Ein hamgylchedd ymchwil

Mae'r Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant yn meithrin diwylliant ymchwil grymusol a hyblyg sy’n ffynnu.

Mae rhai o'n datblygiadau pwysig ers REF 2014 yn cynnwys:

  • cynnydd yn ein hincwm ymchwil, gyda phwyslais ar brosiectau effaith uchel a phartneriaethau llwyddiannus
  • buddsoddi mewn mentrau lle rhoddir ymchwil ar waith sydd wedi ennill eu plwyf fel dulliau pwerus ar gyfer newid
  • polisïau cryfach o ran cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant (EDI) a dod yn llawer mwy amrywiol o gymharu â REF 2014
  • parhau i wella ein dull o ymdrin ag ymchwilwyr ôl-raddedig ac ymgysylltu â niferoedd cynyddol o Gynorthwywyr Ymchwil sy'n gysylltiedig ag ystod eang o brosiectau a ariannwyd
  • parhau i ymchwilio ar lefelau lleol, y DU a rhyngwladol, gyda staff yn chwarae rôl flaenllaw wrth arwain a gwneud cyfraniadau o bwys i'r ddisgyblaeth a chymdeithas

Yn 2018, fe wnaethom symud i adeilad pwrpasol yn Sgwâr Canolog Caerdydd, ochr yn ochr â'r darlledwr cenedlaethol, BBC Cymru, a Media Wales, ac yn union gyferbyn â gorsaf ganolog Caerdydd. Mae symud i'r Sgwâr Canolog wedi gwella'r synergeddau rhwng ymchwil ac ymarfer sy'n hanfodol i'r ysgol.

Trefnir ein hymchwil o amgylch tri chlwstwr sy’n gorgyffwrdd ac sy’n cynorthwyo synergedd deallusol, cynigion am grantiau a gweithgareddau sy’n cael effaith. Yn ogystal â'n clystyrau, datblygodd yr Ysgol labordy ymchwil ar y cyd ar Weddnewid y Cyfryngau mewn cydweithrediad â Chanolfan Ymchwil y Cyfryngau, Cyfathrebu a Gwybodaeth ym Mhrifysgol Bremen. Rydym hefyd yn gartref i Ganolfan Tom Hopkinson ar Hanes y Cyfryngau. Mae’n cynnwys 6 archif newyddiaduraeth o bwys a ddefnyddir gan academyddion, gweithredwyr yn y cyfryngau ac ymarferwyr; ac mae'r Ganolfan hefyd wedi trefnu digwyddiadau fel cynhadledd cofio Aberfan.

Mae'r strwythurau hyn yn helpu cydweithwyr i ddilyn eu diddordebau eu hunain ochr yn ochr â chynnig nifer o gyfleoedd i gydweithio mewn diwylliant amrywiol a chynhwysol.

Mae'r dyfarniadau a enillwyd yng nghyfnod y REF hwn yn werth £13.7 miliwn (cynnydd sylweddol o gymharu â’r £2m a gawsom ar gyfer REF 2014).

Dewch i gael gwybod am ein hymchwil

Mae ein hymrwymiad i gyflwyno gwaith o safon uchel sy'n cyfrannu at drafodaethau cymdeithasol cyfoes wrth wraidd ein hymchwil.

stock shot camera

Adroddiadau gohebwyr ar ddatganoli: rhoi cyngor

Mae ein hacademyddion yn helpu newyddiadurwyr i wneud synnwyr o'r gwahanol reolau COVID-19 sydd mewn grym ledled y DU.

A stack of books written by JOMEC academics

Ymchwil yn yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant

Wrth wraidd ein hymchwil, ceir ymrwymiad i gyflwyno gwaith o safon uchel sy'n cyfrannu at drafodaethau cymdeithasol cyfoes.

Effaith ymchwil yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwyllian

Our research has potential to impact industry practice and perceptions.