Ewch i’r prif gynnwys

UA 26 Ieithoedd Modern ac Ieithyddiaeth

Mae ein cyflwyniad i'r uned hon yn cynnwys staff o Ysgol y Gymraeg a’r Ysgol Ieithoedd Modern. Rydym yn rhannu diddordeb arbennig mewn dulliau rhyngddisgyblaethol a thrawswladol o ymdrin â diwylliannau llenyddol a gweledol, cyfieithu, treftadaeth a sosioieithyddiaeth.

Gyda ffocws cryf ar ymchwil effeithiol a pherthnasol i bolisi, sicrhaodd ein cyfuniad dylanwadol o ysgolheictod yn y dyniaethau a gwyddorau cymdeithasol GPA cyffredinol o 3.30. Rydym yn 9fed yn y DU am effaith ymchwil ac yn 11eg am amgylchedd ymchwil. Un o nodweddion allweddol yr uned hon yw bod dros 80% o'n hymchwil yn arwain y byd neu'n rhagorol yn rhyngwladol.

Rydym yn meithrin cymuned ymchwil gynhwysol, amrywiol a chydweithredol. Mae cyflwyno gwaith 100% o'n staff cymwys i'r Uned Asesu hon yn adlewyrchu hynny.

Ein canlyniadau

Lefel ansawdd% 4 seren% 3 seren% 2 seren% 1 seren% Diddosbarth
Cyfanswm46.038.016.00.00.0
Allbynnau29.647.922.50.00.0
Effaith66.733.30.00.00.0
Amgylchedd80.00.020.00.00.0

Ein hamgylchedd ymchwil

Un o'r prif ddatblygiadau yn 2014 oedd creu Ysgol Ieithoedd Modern newydd, gan ddod â staff ynghyd o'r Ysgol Ieithoedd Ewropeaidd, Cyfieithu a Gwleidyddiaeth, staff sy'n arbenigo mewn addysgeg ieithoedd o'r Ganolfan Dysgu Gydol Oes a chydweithwyr mewn Astudiaethau Japaneaidd o Ysgol Busnes Caerdydd.

Yn ogystal â'r Gymraeg, mae ymchwilwyr yn gweithio ar 11 o ieithoedd gwahanol (Arabeg, Tsieinëeg, Catalaneg, Ffrangeg, Almaeneg, Eidaleg, Gwyddeleg, Japaneaidd, Pwyleg, Portiwgaleg, Sbaeneg), sy’n rhoi’r Uned mewn sefyllfa gref i fynd i'r afael ag agenda ymchwil drawswladol.

Mae gwaith y 35 o ymchwilwyr yn yr Uned yn cwmpasu pum maes arbenigedd allweddol - astudiaethau diwylliannol a gweledol trawswladol, llenyddiaeth a beirniadaeth lenyddol, hanes a threftadaeth, astudiaethau ardal byd-eang sy'n seiliedig ar iaith, ynghyd ag ieithyddiaeth a sosioieithyddiaeth, gan gynnwys polisi a chynllunio iaith. Mae'r grwpiau'n dod â staff o bob cam gyrfa at ei gilydd.

Dyfarnwyd £1,179,523 inni mewn grantiau ymchwil yn ystod y cyfnod REF hwn, sy’n gynnydd o 48% ers REF 2014.

Dewch i gael gwybod am ein hymchwil

Mae UA 26 yn cynnwys yr Ysgolion Ieithoedd Modern a Chymraeg, sydd ill dau yn mwynhau diwylliant ymchwil cynhwysol a bywiog gyda’r ymchwil sy’n cael ei wneud yn gwneud cyfraniadau pwysig i gymdeithas.

families leave Paris

Edrych eto ar y ffordd mae pobl yn cofio’r Ail Ryfel Byd yn Ffrainc

Mae profiadau pobl unigol yn ganolog i ddealltwriaeth newydd o'r cyfnod hollbwysig hwn mewn hanes.

Male tutor helps two students

Ymchwil yn yr Ysgol Ieithoedd Modern

Mae ein cymuned ymchwil o academyddion ac ysgolheigion yn ymrwymedig i gynhyrchu ymchwil o safon ryngwladol.

Ymchwil yn Ysgol y Gymraeg

Rydym yn gartref i waith ymchwil o’r safon uchaf ac yn croesawu ymchwilwyr i weithio gyda ni i hyrwyddo datblygiadau cymdeithasol, economaidd a diwylliannol.

Student receiving advice from a mentor

Effaith ein hymchwil yn yr Ysgol Ieithoedd Modern

Rydym ni'n gweithio gyda llunwyr polisïau, cyrff anllywodraethol, ysgolion a sector y celfyddydau a threftadaeth i gyd-greu ymchwil sy'n gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl.

Traweffaith ymchwil Ysgol y Gymraeg

Mae gennym enw da am greu ac ymgymryd â gwaith ymchwil sy'n cael effaith uniongyrchol ar gymdeithas, iaith, diwylliant a pholisi yn y Gymru gyfoes.