UA 21 Cymdeithaseg
Rydym yn 10fed yn y DU, gyda GPA o 3.29. Pennir bod 100% o'n hamgylchedd ymchwil yn ffafriol i gynhyrchu ymchwil sy'n arwain y byd neu sy'n rhagorol yn rhyngwladol, sy'n ein gosod yn 5ed yn y DU am amgylchedd ymchwil.
Mae ein hymchwil yn canolbwyntio ar bum thema eang: anghydraddoldebau, rhaniadau ac amrywiaeth, diwylliant, rhyngweithio a bywyd bob dydd; trosedd, diogelwch a chyfiawnder; gwyddoniaeth, technoleg a risg; ac addysg, sgiliau a'r farchnad lafur.
Rydym yn meithrin cymuned ymchwil gynhwysol, amrywiol a chydweithredol. Mae cyflwyno gwaith 100% o'n staff cymwys i'r Uned Asesu hon yn adlewyrchu hynny.
Ein canlyniadau
Lefel ansawdd | % 4 seren | % 3 seren | % 2 seren | % 1 seren | %Diddosbarth |
---|---|---|---|---|---|
Cyfanswm | 43.0 | 44.0 | 12.0 | 1.0 | 0.0 |
Allbynnau | 37.9 | 40.3 | 20.2 | 1.6 | 0.0 |
Effaith | 37.5 | 62.5 | 0.0 | 0.0 | 0.0 |
Amgylchedd | 75.0 | 25.0 | 0.0 | 0.0 | 0.0 |
Ein hamgylchedd ymchwil
Mae Cymdeithaseg yng Nghaerdydd yn elwa ar ei lleoliad yn rhan o Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol ryngddisgyblaethol. Rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo cymdeithaseg gyhoeddus a pholisïau yn seiliedig ar gydweithio ac ymgysylltu allanol helaeth. Rydym yn cynnal ymchwil arloesol ac effeithiol sy'n mynd i'r afael â 5 maes eang sy'n gorgyffwrdd: anghydraddoldebau, rhaniadau ac amrywiaeth, diwylliant, rhyngweithio a bywyd bob dydd, trosedd, diogelwch a chyfiawnder, gwyddoniaeth, technoleg a risg, ac addysg, sgiliau a'r farchnad lafur.
Rydym yn enwog am gynhyrchu ymchwil o safon uchel sydd o fudd i ystod eang o randdeiliaid allanol. Rydym yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr anacademaidd a werthfawrogir i gyd-gynhyrchu ymchwil ystyrlon ac rydym yn defnyddio ein canfyddiadau i lywio'r cyngor a'r hyfforddiant a roddwn i sefydliadau amrywiol.
Fe wnaethom sicrhau £27.7 miliwn mewn grantiau ymchwil yn ystod cyfnod y REF, gan bron ddyblu ein hincwm ymchwil ers 2014. Fe wnaethom oruchwylio dros 90 o raddau doethuriaeth a gwblhawyd f;e gafodd dros hanner y rhain eu hariannu gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol. Fe wnaethom recriwtio 21 o gydweithwyr academaidd newydd yn y cyfnod REF hwn, gan hybu meysydd rhagoriaeth sydd wedi ennill eu plwyf. Mae'r penodiadau hyn, ochr yn ochr â sefydlu SPARC, parc ymchwil gwyddorau cymdeithasol cyntaf y byd (buddsoddiad o £300 miliwn), yn adlewyrchu ein hymrwymiad i gynnal bywiogrwydd ymchwil empirig a damcaniaethol wybodus mewn cymdeithaseg.
Dewch i gael gwybod am ein hymchwil
Rydym wedi ymrwymo i ymchwil sy'n seiliedig ar ddamcaniaethau gyda ffocws polisi clir sy'n rhyngddisgyblaethol, yn arloesol ac yn cael effaith.