UA 18 Y Gyfraith
Mae ein hymchwil yn pwysleisio cydweithio rhyngddisgyblaethol ac ymgysylltiad dinesig a pholisi cryf. Mae hyn drwy ein cyfraniadau i drafodaethau cyfoes pwysig megis cyfiawnder byd-eang a llywodraethu aml-lefel, cynaliadwyedd amgylcheddol, iechyd a lles, hawliau dynol, cyfiawnder cymdeithasol, troseddu a diogelwch. Rydym yn Ysgol y Gyfraith flaenllaw ar gyfer astudiaethau cymdeithasol-gyfreithiol a'r gyfraith mewn cyd-destun.
Rydym ni'n 15fed yn y DU, gyda GPA cyffredinol o 3.34. Gyda sgôr o 3.75, gosodwyd ein hamgylchedd ymchwil rhagorol yn 5ed. Mae’r ffaith ein bod yn y 6ed safle am effaith ein hymchwil yn adlewyrchiad o effaith gyfunol a phwysigrwydd cymdeithasol ehangach ein gwaith.
Rydym yn meithrin cymuned ymchwil gynhwysol, amrywiol a chydweithredol. Mae cyflwyno gwaith 100% o'n staff cymwys i'r Uned Asesu hon yn adlewyrchu hynny.
Ein canlyniadau
Lefel ansawdd | % 4 seren | % 3 seren | % 2 seren | % 1 seren | % Diddosbarth |
---|---|---|---|---|---|
Overall | 53.0 | 30.0 | 15.0 | 2.0 | 0.0 |
Outputs | 33.6 | 37.3 | 26.4 | 2.7 | 0.0 |
Impact | 87.5 | 12.5 | 0.0 | 0.0 | 0.0 |
Environment | 75.0 | 25.0 | 0.0 | 0.0 | 0.0 |
Ein hamgylchedd ymchwil
Fe sefydlwyd Ysgol y Gyfraith, Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol yn 2014, gyda'r nod o wella cyfleoedd ar gyfer ymchwil ryngddisgyblaethol, trwy uno adran y Gyfraith â Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol. Mae adran y Gyfraith yn rhan o’n cyflwyniad ar gyfer UA18.
Mae gennym enw da am ymchwil gymdeithasol-gyfreithiol. Yn ystod y cyfnod REF hwn fe wnaethom greu Canolfan y Gyfraith a Chymdeithas. Fe’i hadeiladwyd ar sylfaen Cyfnodolyn y Gyfraith a Chymdeithas a sefydlwyd yn yr ysgol ym 1974.
Rydym yn cael ein hysgogi gan ymrwymiad i ymgysylltu â’r cyhoedd d a gwasanaeth cyhoeddus. Rydym yn gweithio gyda llywodraethau datganoledig a chenedlaethol, sefydliadau cymdeithas sifil (er enghraifft yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur; Amnest Rhyngwladol) a chyrff rhyngwladol (er enghraifft, yr UE; y Cenhedloedd Unedig; Cynhadledd Hague ar Gyfraith Ryngwladol Breifat).
Rydym yn rhannu ein harbenigedd â'r gymuned ehangach, ac yn dylanwadu ar brosesau barnwrol, deddfwriaethol a pholisïau, yn ogystal â galluogi grwpiau defnyddwyr i ddatblygu eu nodau yn well.
Fe wnaeth ein hymchwilwyr sicrhau cyllid allanol gwerth £3.66m o nifer o ffynonellau gan gynnwys y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, y Cyngor Ymchwil Ewropeaidd, Ymddiriedolaeth Nuffield, Wellcome a'r Academi Brydeinig.
Ein nod yw cynnig yr adnoddau a’r gefnogaeth er mwyn i bawb allu cynhyrchu ymchwil ragorol a chyfrannu at wella'r gyfraith, deilliannau polisïau, a chymdeithas.
Dewch i gael gwybod am ein hymchwil
Rydym yn cael ein llywio gan gwestiynau trawswladol sy'n effeithio arnom i gyd megis llywodraethu byd-eang a chenedlaethol, cynaliadwyedd amgylcheddol, cyfiawnder byd-eang, rheoleiddio masnachol, cysylltiadau cyfreithiol rhyngwladol, ac ôl-wladoli.