UA 12 Peirianneg
Mae'r Ysgol Peirianneg yn ganolfan lwyddiannus, gefnogol a chynhwysol sy’n rhagorol o ran ysgolheictod ac effaith. Mae ein hymchwil yn cael effaith gadarnhaol ar gymdeithas a’r economi ar raddfa leol a byd-eang. Adlewyrchir hyn yn ein GPA cyffredinol o 3.35, gyda 96% o'n cyflwyniad cyffredinol yn cael ei ystyried gyda’r gorau yn y byd neu'n rhagorol yn rhyngwladol. Mae’r canlyniad hwn yn ein gosod yn y chwartel uchaf o ran y sefydliadau sy’n perfformio orau yn y DU.
Rydym yn meithrin cymuned ymchwil gynhwysol, amrywiol a chydweithredol. Mae cyflwyno gwaith 100% o'n staff cymwys i'r Uned Asesu hon yn adlewyrchu hynny.
Ein canlyniadau
Lefel ansawdd | % 4 seren | % 3 seren | % 2 seren | % 1 seren | % Diddosbarth |
---|---|---|---|---|---|
Cyfanswm | 40.0 | 56.0 | 3.0 | 1.0 | 0.0 |
Allbynnau | 30.5 | 65.1 | 3.3 | 1.1 | 0.0 |
Effaith | 62.5 | 31.3 | 6.2 | 0.0 | 0.0 |
Amgylchedd | 37.5 | 62.5 | 0.0 | 0.0 | 0.0 |
Ein hamgylchedd ymchwil
Adlewyrchir ein llwyddiant ers REF 2014 yn y gwaith sylweddol o ehangu trawsddisgyblaethol a chydweithio, penodiadau newydd a buddsoddiadau o bwys mewn cyfleusterau a seilwaith.
Rydyn ni wedi'n rhannu'n 3 adran gyda Grwpiau Ymchwil cysylltiedig ac, ers REF 2014, datblygwyd 5 maes ymchwil â blaenoriaethau rhyngddisgyblaethol ac 8 grŵp trawsddisgyblaethol sy'n ein galluogi i dargedu buddsoddiad yn fwy effeithiol a chynnig cyd-destun gweithio lle mae arbenigedd eang a helaeth yn cael ei ddwyn ynghyd i fynd i'r afael â heriau ymchwil rhyngddisgyblaethol pwysig. Ategir hyn gan gryn fuddsoddiad mewn seilwaith o bwys a ffocws ar ddatblygu cenhedlaeth newydd o arweinwyr ymchwil.
Er mai Adeiladau'r Frenhines yw ein cartref yn bennaf, mae'r Brifysgol yn darparu buddsoddiad newydd hanfodol ar gyfer peirianneg gyda buddsoddiad o £77m yn y Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd (ICS, ENGIN a'r Ysgol Ffiseg), sef rhan o'r Hwb Ymchwil Drosi (TRH) gwerth £131m ar Gampws Arloesedd newydd gwerth £300m y Brifysgol. Mae cyfleusterau diwydiannol unigryw oddi ar y safle hefyd ar gael i ymchwilwyr: Canolfan Ymchwil Tyrbinau Nwy yng Nghastell-nedd Port Talbot a Labordy Mellt Morgan-Botti yng Nghaerdydd. Ers REF 2014, buddsoddwyd £33 miliwn o nifer o ffynonellau i wella ein labordai ymchwil a'n lleoedd cysylltiedig sy'n hybu’r gwaith o wella datblygiadau ymchwil yn ein meysydd blaenoriaeth.
Rydyn ni wedi sicrhau 639 o ddyfarniadau ymchwil gwerth £97 miliwn, sef cynnydd o 102% o'i gymharu â REF 2014. Cynyddodd gwariant incwm ymchwil i £79.6 miliwn yn ystod y cyfnod presennol, a chafwyd mwy na dwbl nifer y graddedigion PhD.
Rydyn ni wedi gwella a datblygu ein cysylltiadau byd-eang, gan gynnwys 54 o brosiectau (£10 miliwn) a ariannwyd o gynlluniau ariannu Ewropeaidd a mwy na 40 o brosiectau cydweithio gyda phartneriaid rhyngwladol drwy gyllidwyr. Ar ben hyn, rydyn ni wedi cryfhau ein prosiectau cydweithio gyda byd busnes drwy ddyfarniadau ymchwil masnachol gwerth cyfanswm o £14.3 miliwn.
Dewch i gael gwybod am ein hymchwil
Mae ein hamgylchedd ymchwil bywiog wedi ymrwymo i wneud y mwyaf o effaith ein hymchwil wrth i ni weithio i ddatrys heriau a nodir gan y diwydiant.