UA 1 Meddygaeth Glinigol
Mae ein hymchwil yn yr Uned Asesu hon, sy’n canolbwyntio ar y gwyddorau biofeddygol, trosi clinigol a meddygaeth arbrofol, yn sicrhau canlyniadau iechyd gwell i gleifion. Mae’n ymestyn dros feysydd allweddol canser, imiwnoleg, clefydau heintus ac imiwnedd ac anhwylderau genetig.
Gwnaethom sicrhau sgôr Cyfartaledd Pwynt Gradd gyffredinol o 3.18, ac ystyriwyd bod 92% o’n hymchwil naill ai’n arwain y byd neu’n rhagorol yn rhyngwladol. Sgoriodd ein hamgylchedd ymchwil 3.13, sy'n welliant sylweddol ar REF 2014.
Rydym yn meithrin cymuned ymchwil gynhwysol, amrywiol a chydweithredol. Mae cyflwyno gwaith 100% o'n staff cymwys i'r Uned Asesu hon yn adlewyrchu hynny.
Ein canlyniadau
Lefel ansawdd | % 4 seren | % 3 seren | % 2 seren | % 1 seren | % Diddosbarth |
---|---|---|---|---|---|
Cyfanswm | 27.0 | 65.0 | 7.0 | 1.0 | 0.0 |
Allbynnau | 32.2 | 53.9 | 12.9 | 0.5 | 0.5 |
Effaith | 21.4 | 78.6 | 0.0 | 0.0 | 0.0 |
Amgylchedd | 12.5 | 87.5 | 0.0 | 0.0 | 0.0 |
Ein hamgylchedd ymchwil
Rydym wedi creu hunaniaeth amlddisgyblaethol ar gyfer ein hymchwil glinigol gan gynnwys gwaith a wnaethpwyd gyda chydweithwyr a ddychwelwyd yn unedau asesu 3, 4 a 5.
Bu buddsoddiadau o bwys ers REF 2014, gan gynnwys:
- Mynediad at seilwaith uwchgyfrifiadura prifysgolion i Sefydliad Ymchwil Imiwnedd Systemau, Cadeirydd Sêr Cymru mewn Meddygaeth Systemau, a Pharc Geneteg Cymru. Rhaglenni hyfforddi pwrpasol gan Uwchgyfrifiadura Cymru ar gyfer myfyrwyr ymchwil ar ddechrau eu gyrfa ac ôl-raddedigion ymchwil.
- Sefydliad Ymchwil Dementia y DU gydag UA4
- Partneriaeth Arloesedd Clinigol gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro sy'n cysylltu diwydiant a'r GIG. Fe wnaeth y bartneriaeth hon gynorthwyo dros 170 o brosiectau ac, yn 2018, fe sicrhaodd arian o Gronfeydd Datblygu Rhanbarthol Ewrop (EDRF) i sefydlu Cyflymydd Arloesedd Clinigol gan ddarparu cyllid datblygu ar gyfer diagnosteg glinigol newydd.
- Creu'r Ganolfan Ymchwil Treialon drwy gyfuno 3 Uned Ymchwil Glinigol gofrestredig yn y DU a symleiddio'r broses o ddarparu astudiaethau clinigol , ochr yn ochr ag UA3.
Yn ystod cyfnod REF 2021, cynyddodd ein hincwm ymchwil gan gynghorau ymchwil, diwydiant a ffynonellau tramor, 68% i £140.1m. Fe wnaeth nifer ein staff gynyddu’n sylweddol drwy wneud 24 o benodiadau newydd, 31 o ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa a chynlluniau ôl-raddedig cynaliadwy a ddenodd 130 yn rhagor o fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig cyn dechrau'r pandemig.
Gan fynd i'r afael â'r heriau iechyd allweddol sy'n effeithio ar gymdeithas, fe wnaethom greu cymuned ymchwil gynaliadwy a chynhwysol i ddefnyddio ymchwil darganfod at ddibenion arloesedd clinigol yn y dyfodol ac er budd cleifion. Mae'r dull hwn wedi ein gwneud yn fwy cystadleuol wrth wneud ceisiadau am gyllid ac adnoddau newydd gan y llywodraeth , diwydiant ac elusennau.
Dewch i gael gwybod am ein hymchwil
Cefnogir ein hymrwymiad i ragoriaeth ymchwil trwy grwpiau ac unedau ymchwil cryf sy'n cyfieithu'n uniongyrchol o'r labordy i'r byd go iawn.