11eg yn y DU am effaith
Mae ein hymchwil o fudd gwirioneddol i'r amgylchedd academaidd a’n cymdeithas.
14eg yn y DU am bŵer ein hymchwil
Mae pŵer ein hymchwil yn dangos maint ac ansawdd ein hymchwil.
Un o 20 prifysgol orau'r DU
Rydym wedi cael ein hasesu'n annibynnol am ansawdd cyffredinol ein hymchwil, ein heffaith, a’n hamgylchedd ymchwil.

Mae’n wych gweld cynifer o feysydd rhagoriaeth, sy’n dangos cryfder ac arwyddocâd cyfraniadau Caerdydd ym meysydd ymchwil ac arloesedd yng Nghymru a’r DU. Mae’r canlyniadau hyn yn gydnabyddiaeth o greadigrwydd, arloesedd a gwaith caled ein cymuned academaidd, ar draws yr holl ddisgyblaethau. Mae hyn yn rhan o’n taith barhaus i greu diwylliant ymchwil cynhwysol a bywiog sy’n denu’r academyddion gorau. Mae hefyd yn adeiladu ar y rhagoriaeth a ddangosir gan y gyfres wych hon o ganlyniadau, gan weithio gyda’n llu o bartneriaid i gyflawni ymchwil sy’n gwneud gwahaniaeth.
Ein canlyniadau
Ein hamgylchedd ymchwil
Ymchwil sydd ag effaith go iawn ar y byd
Mae ein hymchwilwyr yn gweithio ar draws nifer o ddisgyblaethau i fynd i'r afael â heriau o bwys sy'n wynebu’r gymdeithas, yr economi a'r amgylchedd. Mae’r astudiaethau achos hyn yn amlygu rhai yn unig o’r meysydd lle rydyn ni’n cael effaith gadarnhaol o ran ein hymchwil.