Canlyniadau REF 2014
Roedd Prifysgol Caerdydd yn 5ed yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2014 yn seiliedig ar ansawdd ein hymchwil.
Fe wnaethom godi 17 safle ar y mesur ansawdd, gan olygu mai ni oedd y sefydliad a gododd gyflymaf ymhlith prifysgolion ymchwil blaenllaw Grŵp Russell.
Am y tro cyntaf yn 2014, fe geisiodd y cynghorau ariannu fesur effaith ein gwaith ymchwil, ac fe gyrhaeddodd y Brifysgol yr 2il safle yn y DU.
Fe aseswyd bod 87% o'n gwaith ymchwil o'r radd flaenaf neu'n rhagorol ar lefel ryngwladol.
Uchafbwyntiau
Roedd rhai o'n huchafbwyntiau o REF 2014 yn cynnwys:
- Peirianneg Sifil ac Adeiladu - 1af yn y Deyrnas Unedig o ran ansawdd. Fe aseswyd bod 97% o'r ymchwil a gyflwynwyd o'r radd flaenaf neu o ansawdd ragorol ar lefel ryngwladol. Fe gafodd ei gwaith ymchwil rhagorol sgôr o 100% o ran ei effaith.
- Seicoleg, Seiciatreg a Niwrwyddoniaeth - 2il yn y Deyrnas Unedig o ran ansawdd. Fe aseswyd bod 92% o'r ymchwil a gyflwynwyd o'r radd flaenaf neu o ansawdd ragorol ar lefel ryngwladol. Cafodd ei gwaith ymchwil rhagorol sgôr o 90% o ran ei effaith.
- Astudiaethau Cyfathrebu, Diwylliant a’r Cyfryngau - 2il yn y Deyrnas Unedig o ran ansawdd. Fe aseswyd bod 89% o'r ymchwil a gyflwynwyd o'r radd flaenaf neu o ansawdd ragorol ar lefel ryngwladol. Fe gafodd ei gwaith ymchwil sgôr o 100% o ran ei effaith.
- Cymdeithaseg - 3ydd yn y DU. Fe aseswyd bod 80% o’r ymchwil a gyflwynwyd yn ‘rhagorol’ am ei heffaith o ran ei chyrhaeddiad a’i dylanwad.
- Addysg - cydradd 5ed yn y DU. Fe aseswyd bod 100% o’r amgylchedd ymchwil yn helpu i gynhyrchu ymchwil o’r radd flaenaf o ran ei bywiogrwydd a’i chynaliadwyedd.
- Proffesiynau Iechyd Perthynol, Deintyddiaeth, Nyrsio a Fferylliaeth - cydradd 4ydd yn y Deyrnas Unedig o ran ansawdd. Fe aseswyd bod 94% o'r ymchwil a gyflwynwyd o'r radd flaenaf neu o ansawdd ragorol ar lefel ryngwladol. Fe gafodd ei gwaith ymchwil rhagorol sgôr o 90% o ran ei effaith.
- Ieithoedd Modern ac Ieithyddiaeth - 1af yn y Deyrnas Unedig o ran effaith. Fe aseswyd bod 84% o'r ymchwil a gyflwynwyd o'r radd flaenaf neu o ansawdd ragorol ar lefel ryngwladol. Fe gafodd ei gwaith ymchwil rhagorol sgôr o 100% o ran ei effaith.
Uned asesu | % 4 seren | % 3 seren | % 2 seren | % 1 seren | % Diddosbarth |
---|---|---|---|---|---|
UA 1 Meddygaeth Glinigol | 38.0 | 51.0 | 10.0 | 0.0 | 1.0 |
UA 2 Iechyd Cyhoeddus, Gwasanaethau Iechyd a Gofal Sylfaenol | 37.0 | 39.0 | 22.0 | 2.0 | 0.0 |
UA 3 Proffesiynau Iechyd Perthynol, Deintyddiaeth, Nyrsio a Fferylliaeth | 48.0 | 46.0 | 6.0 | 0.0 | 0.0 |
UA 4 Seicoleg, Seiciatreg a Niwrowyddorau | 60.0 | 32.0 | 8.0 | 0.0 | 0.0 |
UA 5 Gwyddorau Biolegol | 42.0 | 42.0 | 14.0 | 1.0 | 1.0 |
UA 7 Systemau’r Ddaear a’r Gwyddorau Amgylcheddol | 24.0 | 60.0 | 15.0 | 1.0 | 0.0 |
UA 8 Cemeg | 32.0 | 65.0 | 3.0 | 0.0 | 0.0 |
UA 9 Ffiseg | 31.0 | 68.0 | 1.0 | 0.0 | 0.0 |
UA 10 Gwyddorau Mathemategol | 18.0 | 72.0 | 10.0 | 0.0 | 0.0 |
UA 11 Cyfrifiadureg a Gwybodeg | 26.0 | 53.0 | 20.0 | 1.0 | 0.0 |
UA 14 Peirianneg Sifil ac Adeiladu | 47.0 | 50.0 | 3.0 | 0.0 | 0.0 |
UA 15 Peirianneg Gyffredinol | 36.0 | 61.0 | 2.0 | 0.0 | 1.0 |
UA 16A Pensaernïaeth, Amgylchedd Adeiledig a Chynllunio - Daearyddiaeth a Chynllunio | 34.0 | 51.0 | 14.0 | 1.0 | 0.0 |
UA 16B Pensaernïaeth, Amgylchedd Adeiledig a Chynllunio - Pensaernïaeth | 45.0 | 30.0 | 16.0 | 9.0 | 0.0 |
UA17 Daearyddiaeth, Astudiaethau Amgylcheddol ac Archaeoleg | 28.0 | 44.0 | 25.0 | 3.0 | 0.0 |
UA 19 Astudiaethau Busnes a Rheolaeth | 43.0 | 43.0 | 13.0 | 1.0 | 0.0 |
UA 20 Y Gyfraith | 36.0 | 48.0 | 16.0 | 0.0 | 0.0 |
UA 21 Gwleidyddiaeth ac Astudiaethau Rhyngwladol | 26.0 | 55.0 | 14.0 | 5.0 | 0.0 |
UA 23 Cymdeithaseg | 37.0 | 49.0 | 13.0 | 1.0 | 0.0 |
UA 25 Addysg | 48.0 | 36.0 | 14.0 | 2.0 | 0.0 |
UA 28 Ieithoedd Modern ac Ieithyddiaeth | 37.0 | 47.0 | 16.0 | 0.0 | 0.0 |
UA 29 Saesneg Iaith a Llenyddiaeth | 42.0 | 45.0 | 11.0 | 2.0 | 0.0 |
UA 30 Hanes | 37.0 | 46.0 | 16.0 | 1.0 | 0.0 |
UA 32 Athroniaeth | 20.0 | 49.0 | 27.0 | 4.0 | 0.0 |
UA 33 Astudiaethau Crefyddol a Diwinyddiaeth | 33.0 | 43.0 | 21.0 | 3.0 | 0.0 |
UA 35 Cerddoriaeth, Drama, Dawns a Chelfyddydau Perfformio | 43.0 | 42.0 | 15.0 | 0.0 | 0.0 |
UA 36 Astudiaethau Cyfathrebu, Diwylliant a'r Cyfryngau, Rheoli Llyfrgelloedd a Gwybodaeth | 61.0 | 28.0 | 10.0 | 1.0 | 0.0 |