Keith Harding
Dechreuodd fy niddordeb mewn gwella clwyfau pan oeddwn yn fyfyriwr meddygaeth. Ers hynny rydw i wedi dilyn llwybr gyrfa anghonfensiynol iawn.
Fel myfyriwr meddygaeth blwyddyn olaf yn Birmingham cefais gyfle i dreulio tri mis yn ceisio dangos a oedd gwrth-dolchi’n dylanwadu ar wella clwyfau. Er bod canlyniadau'r ymchwil yn dangos dim effaith andwyol, roedd y chwiw wedi cydio ynof i.
Ar ôl cymhwyso dychwelais i Gaerdydd. Roedd Athro Llawfeddygaeth blaenorol, Les Hughes, wedi sefydlu clinig clwyfau yn Ysbyty Athrofaol Cymru. Fe’i hagorwyd yn 1972 i gynnal gwerthusiadau clinigol o gynnyrch newydd a ddyfeisiwyd ganddo ar gyfer clwyfau. Roedd angen rhywun ar yr Athro Hughes i gydgysylltu’r ymchwil clinigol a gofal am gleifion â chlwyfau ac, oherwydd fy mhrofiad fel myfyriwr, gwirfoddolais i wneud y gwaith hwn.
Des i ddeall hyd a lled y problemau clinigol sy'n gysylltiedig â chlwyfau. Er syndod i mi, gwelais fod y sail academaidd ar gyfer gwella clwyfau yn fach iawn a bod cleifion yn cael trafferth dod o hyd i glinigwyr oedd ag arbenigedd. Symudais i weithio fel meddyg teulu a pharhau i ofalu am y clinig ar sail wirfoddol ran-amser am 10 mlynedd. Ar ddiwedd y cyfnod hwn roeddwn yn uwch bartner mewn practis yn y ddinas ac yn drefnydd ôl-raddedig ar ran yr ysbyty.
Y cam anarferol nesaf yn fy ngyrfa oedd cymryd cyfnod sabothol o chwe mis i adolygu prosesau gwella clwyfau ac addysg feddygol yng Ngogledd America. Yn ystod y cyfnod hwnnw, sylweddolais fod gennym bractis clinigol mawr yn trin cleifion â chlwyfau ond gweithgarwch academaidd cyfyngedig o ran addysgu ac ymchwil. Fy awgrym oedd y dylai Adran Llawfeddygaeth y Brifysgol sefydlu grŵp academaidd i ddatblygu'r maes hwn o ymarfer clinigol.
Agorodd yr Uned Ymchwil Gwella Clwyfau tua 25 mlynedd yn ôl. Ers hynny, rydym ni wedi datblygu’r cwrs Meistr cyntaf mewn Gwella Clwyfau, y pecyn Ansawdd Bywyd cyntaf yn benodol i glefydau ar gyfer clwyfau coesau cronig ac rydym ni wedi sicrhau nifer o batentau (gan gynnwys llofnod genynnol sy'n rhagweld y clwyfau a fydd yn iachau a nifer o asiantau therapiwtig a all helpu i iachau).
Rydym ni wedi gweithio gyda thros 60 o gwmnïau, cynnal 200 o dreialon clinigol, ennill gwobrau cenedlaethol ar ran yr ysbyty a sefydlu nifer o fentrau a chymdeithasau Prifysgol, fel Athrofa Peirianneg a Thrwsio Meinwe Caerdydd a Phanel Cynghori Wlser Pwyso Ewrop.
Cynhaliwyd ein twf dros nifer o flynyddoedd ond, yn fwy diweddar, dechreuodd arafu. Sylweddolon ni fod angen i ni geisio sefydlu dull Cymru gyfan er mwyn manteisio i'r eithaf ar ein cyfleoedd a gwella gofal cleifion clinigol. Ym mis Medi 2014, agorwyd y Canolfan Arloesedd Clwyfau Cymru (WWIC) yn Llantrisant. Dyma’r ganolfan clwyfau genedlaethol gyntaf yn y byd, a'i nod yw cydgysylltu gofal clinigol ac academaidd i gleifion â chlwyfau ledled Cymru.
Mae cydgysylltu gweithgareddau’n caniatáu inni gefnogi busnesau clwyfau cyfredol yng Nghymru, sy'n darparu tua 2500 o swyddi, ac ar yr un pryd gweithredu fel tynfa ar gyfer buddsoddi sy’n golygu y gallwn hawlio bod Cymru’n ganolfan fyd-eang ar gyfer gwella clwyfau. Mae gan WWIC hefyd y gallu i godi cyfraddau gwella drwy dargedu addysg a hyfforddiant.
Rydym eisoes yn gweld manteision y dull hwn gyda'r archwiliad cenedlaethol cyntaf o gleifion clwyfau yn dangos bod problemau clwyfau’n cyfrif am 6% o wariant y GIG yng Nghymru. Rydym hefyd wedi denu diddordeb o wledydd gan gynnwys Awstralia, Canada a Singapore, gyda phob un yn dymuno ail-greu ein model.
Mae wedi bod yn fraint i mi gael cyfle i wneud rhywbeth gwahanol. Mae’r cynnydd diweddar o ran ffocws ar arloesedd yn y Brifysgol a'r Bwrdd Iechyd wedi caniatáu imi gael labordy byw o arloesi clinigol sy'n rhan o fenter gyffrous fawr yn y Brifysgol.
Mae ein hymchwil yn creu buddion ar draws maes iechyd, y gymdeithas, a'r economi.