Katherine Shelton
Mewn gwirionedd, dechreuodd fy mywyd arloesol gyda galwad ffôn.
Yn 2009, roedd ein tîm newydd gyhoeddi adroddiad ar brofiadau pobl ifanc yn yr Unol Daleithiau a oedd wedi bod yn ddigartref. Ffoniodd Frances Beecher, Prif Weithredwr elusen genedlaethol Llamau, i ddweud pa mor ddiddorol oedd darllen am ein gwaith ymchwil yn y Western Mail.
Dilynwyd hyn gan saib, cyn "rwyt ti'n sylweddoli ein bod ni ond hanner milltir o'ch swyddfa; beth am i chi ddod i siarad â ni?" Ar ôl ychydig o gyfarfodydd, sawl paned o de a llawer o fisgedi, gwnaethom sylweddoli bod cyfle i gydweithio mewn ffordd arloesol.
Roedd ebyst am Bartneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth ar led yn y Brifysgol ar y pryd. Roedd gan staff yn Llamau ddiddordeb mewn partneriaeth a allai ei helpu wrth fynd i'r afael â defnydd aneffeithiol o adnoddau, a oedd yn cael effaith ar ddarparu gwasanaethau a chefnogi pobl sy'n agored i niwed.
Defnyddiwyd ein canfyddiadau i ddatblygu pecyn cymorth i alluogi Llamau i nodi a oedd defnyddwyr gwasanaethau'n agored i broblemau iechyd meddwl, a galluogi staff i gynyddu'r gwasanaethau cefnogi ac eirioli ar gyfer pobl ifanc. Ar ben hynny, o ganlyniad i gynnal y cyfweliadau ymchwil, cyfeiriwyd o leiaf un unigolyn ifanc ar unwaith at wasanaethau cefnogi.
Mae bod yn rhan o drafodaethau ynghylch sut dylid dehongli ein canfyddiadau ymchwil mewn lleoliad ymarferol wedi rhoi boddhad personol i mi hefyd. Mae gweithio gyda Llamau wedi rhoi'r hyder i mi ystyried sut gall fy ngwaith fod o werth i sefydliadau allanol cyn i'r gwaith ddwyn ffrwyth ar ffurf cyhoeddiadau.
Yn wir, mae gweithio mewn ffordd arloesol yn gwella ansawdd gwaith ymchwil, gan fod defnyddwyr yn rhan o'r broses o ddatrys problemau, gan agor drysau a helpu i ddeall natur sensitif prosiectau a chwestiynau ymchwil penodol.
Rwy'n credu'n gryf mai drwy ymdrechion parhaus i sefydlu partneriaethau gwaith ystyrlon, y gellir cyflawni gwaith ymchwil arloesol o ansawdd uchel, sy'n berthnasol i'r cymunedau y mae am eu gwasanaethu.
Byddwch yn geffyl blaen trwy gydweithio gyda'n hacademyddion a defnyddiwch ein cyfleusterau trwy Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth.