Jenny Kidd
Cyn symud i'r byd academaidd roeddwn yn olygydd ac yn ddylunydd y we. Mae elfen greadigol wedi bod i'm gwaith erioed.
Mae fy ngwaith ymchwil yn ymdrin â'r cyfryngau digidol, diwydiannau creadigol a'r sector creadigol. Mae gennyf ddiddordeb mewn cynrychiolaeth a sut rydym yn cael profiad o hanes a diwylliant. Mae'n bosibl nad yw hyn yn ymddangos fel y cefndir arferol ar gyfer arloesedd, ond byddem yn eich annog i gael golwg manylach.
Mae gwaith ymchwil ym maes y celfyddydau a'r dyniaethau yn ystyried natur creadigrwydd, ffyrdd newydd o weld, a'r ffordd rydym yn croesawu trafodaeth a chydweithio – beth sy'n fwy perthnasol i arloesedd?
Yn 2013, gofynnodd asiantaeth marchnata greadigol yello brick i mi ddod yn bartner ar gyfer prosiect Economi Greadigol AHRC REACT. Roeddwn yn gweithio gyda nifer o sefydliadau diwylliannol ledled y DU, ond yn awyddus i gydweithio â'r sector yng Nghaerdydd. Amgueddfeydd yw un o fy meysydd ymchwil, a'u defnydd nhw o'r cyfryngau digidol, felly roedd hyn yn edrych fel cyfle gwych.
Cawsom gyllid dichonoldeb gan REACT i weithio ar brofiad treftadaeth ddigidol. Enw'r arbrawf oedd 'With New Eyes I See,' ac roedd yn defnyddio deunyddiau archifol i ddweud straeon 'yn y gwyllt.'
Bu i'r prosiect gyd-daro â chanmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf yn 2014, a thrawsnewidiwyd Canolfan Ddinesig Caerdydd. Cafodd deunyddiau archifol anhygyrch heb eu gweld o'r blaen eu dangos ar adeiladau a'r amgylchedd naturiol, a'u dylanwadu ganddynt.
Mae llawer o'r adborth wedi nodi pa mor gynnil oedd y profiad, ac roeddem am edrych ar hyn yn fwy manwl. Ariannwyd y prosiect newydd, 'Olion', gan Wobr Cyflymu Effaith ESRC. Mae'r bartneriaeth rhwng yello brick, y Brifysgol ac Amgueddfa Cymru, yn tywys pobl ar daith rhwng gerddi castell Sain Ffagan, gan symud rhwng ffaith a ffuglen, y gorffennol a'r presennol.
Cafodd ei greu er mwyn i ymwelwyr gael profiad ar eu pen eu hunain neu mewn parau, ac mae'r ap dwyieithog a rhad ac am ddim yn seiliedig ar ddeunydd archifol o gasgliad yr amgueddfa. Mae'r stori'n canolbwyntio ar gymeriadau a fyddai wedi byw yn y castell a'r gerddi o bosibl neu wedi mynd yno ar ddechrau'r ugeinfed ganrif.
Nid canllaw sain na chanllaw i ymwelwyr mohono, ond cydymaith sy'n dweud stori am brofiadau tameidiog gan gydblethu ffaith a ffuglen. Cafodd yr ap ei ysbrydoli gan Sain Ffagan, y lleoliad, ei straeon a'r archifau, ac mae ar gyfer y rhai sy'n barod i ymgolli mewn stori.
Mae gweithio gyda yello brick wedi fy nhywys i lawr llwybr creadigol iawn, gan fy ngalluogi i ymgysylltu â'r cyhoedd mewn ffyrdd annisgwyl. Dyma ystyr arloesedd i mi: edrych ar y pethau rydym yn eu cymryd yn ganiataol mewn ffyrdd gwahanol, archwilio ffyrdd newydd o edrych ar hen syniadau a dod o hyd i fylchau mewn straeon adnabyddus.
We have a longstanding reputation for the impact of our research that regularly informs national policy and practice.