Cyfres o weminarau am Lywio Polisïau
Yn rhan o’n cyfres o weminarau ar lywio polisïau, gall academyddion gynnig gwybodaeth arbenigol am eu meysydd ymchwil i lywio polisïau ar yr heriau cyfoes sy'n wynebu cymdeithas.
Ac yntau wedi’u paratoi gan gadw llunwyr polisïau mewn cof, mae’r holl gweminarau’n canolbwyntio ar ddadl gyfredol benodol ym maes polisi. Ynddynt, bydd ymchwilydd ym Mhrifysgol Caerdydd yn rhoi cyflwyniad byr ar yr hyn y mae’r ymchwil yn ei ddweud wrthym, a bydd ymarferydd allanol yn rhoi ateb byr. Ar ôl hynny, bydd sesiwn holi ac ateb, yn unol â rheolau Chatham House.
Gweminarau diweddar
Mae fideos o’n gweminarau diweddar (heb y sesiynau holi ac ateb) ar gael i'w gwylio isod.
Ansawdd dŵr yn afonydd Cymru a Lloegr
Gweminar Llywio Polisïau: Ansawdd dŵr yn afonydd Cymru a Lloegr
Yn y sesiwn hon a gadeirir gan yr Athro Ian Weeks, mae’r Athro Steve Ormerod o Ysgol y Biowyddorau a Tony Harrington, Cyfarwyddwr yr Amgylchedd Dŵr Cymru, fydd yn edrych ar y dystiolaeth ddiweddaraf sy’n dangos gwelliannau sylweddol yn safon fiolegol afonydd Cymru a Lloegr yn ystod y tri degawd diwethaf, yn enwedig mewn ardaloedd trefol sy’n gwella yn sgil llygredd organig dybryd.
Mae’r sesiwn hon hefyd yn codi cwestiynau pwysig am ddehongli data gollyngiadau yn sgil gorlifoedd cyfunol ar ôl stormydd (CSO) ac yn tynnu sylw at heriau llygredd sy'n dod i'r amlwg oherwydd deunyddiau fferyllol a phlastigau. Nid lleihau pryderon am safon dŵr yw’r nod, ond yn hytrach helpu llunwyr polisïau i flaenoriaethu eu hymdrechion er mwyn iddyn nhw ganolbwyntio ar y materion pwysicaf.
Gofalwyr ifanc
Gweminar Llywio Polisïau: Gofalwyr Ifanc
Bydd Dr Edward Janes o Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru (WISERD) yn ymchwilio i'r sbectrwm ehangach er mwyn cefnogi a nodi yn well y rheiny sydd â chyfrifoldebau problemus. Er bod gofalwyr ifanc wedi cael eu hystyried mewn polisïau ers dros 25 mlynedd, mae heriau o hyd o ran sut rydym yn nodi poblogaeth sy’n aml am aros yn gudd, a’u cefnogi. O ganlyniad i hyn, mae’r rhan fwyaf o ymchwil wedi’i chynnal drwy brosiectau gofalwyr ifanc a gyda'r rheiny sydd angen cymorth fwyaf, gan arwain at ganfyddiad bod gofalwyr ifanc yn grŵp bach sydd â llawer iawn o gyfrifoldebau. Mewn cyferbyniad, mae ymchwil Dr Janes yn canolbwyntio ar pam mae effeithiau gofalu yn amrywio i wahanol blant yn dibynnu ar eu profiadau unigol.
Er y dylai polisïau ganolbwyntio ar gefnogi'r rheiny sydd â’r anghenion mwyaf, bydd y sesiwn hon yn dadlau bod ymchwilio i'r boblogaeth ehangach yn hollbwysig i helpu gweithwyr proffesiynol ysgolion ac iechyd i ddeall yr amrywiaeth o ran anghenion, yn ogystal â’r adegau pan fydd gofalu yn arwain at broblemau. Bydd Dr Tim Bull a Lilli Spires o'r Ymddiriedolaeth Gofalwyr yn rhannu eu gwybodaeth arbenigol.
Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion
Gweminar Llywio Polisïau: Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion
Bydd Dr Rachel Brown o’r Ganolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth er mwyn Gwella Iechyd y Cyhoedd (DECIPHer) yn trafod y broses o weithredu a gwerthuso canllawiau Llywodraeth Cymru ar ddull ysgol gyfan ar gyfer llesiant emosiynol a meddyliol. Nod y rhaglen hon yw cefnogi lleoliadau addysg i weithredu dulliau sy’n cael eu hysgogi gan ddata ledled y system. Y diben yw cynnwys pob un o’r rhanddeiliaid hollbwysig yn y gwaith o greu lleoliadau sy’n hyrwyddo gwell iechyd meddwl a lles yng ngwaith beunyddiol yr ysgol. Mae'r polisi hwn yn defnyddio data’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (SHRN), sef arolwg chwemisol o iechyd a lles disgyblion dan ofal DECIPHer.
Bydd y sesiwn hon yn trafod seilwaith data’r Rhwydwaith o ran iechyd a lles yng Nghymru, gan gynnwys cyfraniadau at weithio’n rhan o bartneriaeth gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Tlodi a chynhwysiant cymdeithasol
Bydd Amanda Hill-Dixon, Uwch-gymrawd Ymchwil a Dan Bristow, Cyfarwyddwr Polisïau ac Ymarfer Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn trafod tlodi ac allgáu cymdeithasol. Mae tua 25% o boblogaeth Cymru wedi bod yn byw mewn tlodi ers 20 mlynedd, ond dydyn ni ddim yn gwybod hyd yn hyn sut mae'r argyfwng o ran costau byw yn effeithio ar gyfraddau tlodi. Nod eu hymchwil yw torri drwy farweidd-dra a dirywio drwy amlinellu 'ffordd ymlaen' ar gyfer tlodi yng Nghymru, a’r goblygiadau ar gyfer y DU yn fwy cyffredinol. Bydd Ellie Harwood, Rheolwr Datblygu Cymru yn y Grŵp Gweithredu Tllodi Plant (CPAG) yn ymuno â'r gweminar hwn hefyd. Yn rhan o’i gwaith, mae Ellie yn arbenigo mewn helpu ysgolion i fod yn fwy cynhwysol i blant o deuluoedd incwm isel.
Bydd y sesiwn hon, a fydd yn cael ei chadeirio gan Sally Holland, cyn-Gomisiynydd Plant Cymru, yn amlinellu profiadau allweddol yn sgil tystiolaeth ryngwladol, dadansoddiadau meintiol a thystiolaeth profiadau byw ynghylch 'yr hyn sy'n gweithio' o ran mynd i'r afael â thlodi ac allgáu cymdeithasol ar draws 12 maes allweddol, a sut orau y gellir llunio a gweithredu strategaeth hollgynhwysfawr fydd yn cydlynu’r ymdrechion i sicrhau eu bod yn arwain at newidiadau go iawn. Deilliodd y gwaith hwn yn sgîl gwaith ar y cyd am ddwy flynedd rhwng arbenigwyr blaenllaw ym maes tlodi, gan gynnwys y Ganolfan Dadansoddi Allgáu Cymdeithasol yn LSE, y Sefydliad Polisïau Newydd, Sefydliad Bevan a Chanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru.
Prydau ysgol am ddim yng Nghymru
Bydd yr Athro Kevin Morgan yn mynd ati i drafod y cynllun prydau ysgol am ddim i bob plentyn yng Nghymru. Dyma un o'r polisïau mwyaf uchelgeisiol a ddaeth i'r amlwg o'r Cytundeb Cydweithredu rhwng Llywodraeth Llafur Cymru a Phlaid Cymru. Y polisi hwn hefyd oedd yr ymrwymiad i gynnig prydau ysgol am ddim i bob plentyn mewn ysgolion cynradd yng Nghymru.
Hefyd, bydd Judith Gregory, Cadeirydd Rhanbarthol LACA yn rhannu ei gwybodaeth arbenigol. Er bod yr ymrwymiad hwn i bolisi newydd yn hynod ganmoladwy, mae hefyd yn heriol iawn pan fo awdurdodau lleol eisoes yn ei chael hi'n anodd parhau i ddarparu gwasanaethau presennol o ganlyniad i bwysau deuol – cyllidebau tynn, a chostau sy’n cynyddu’n gyflym o ran bwyd a thanwydd. Bydd y cyflwyniad hwn yn mynd i'r afael â dimensiynau amrywiol yr her sy’n gysylltiedig â chynnig prydau ysgol am ddim i bob plentyn. Bydd yn canolbwyntio'n benodol ar y tair problem fwyaf cyffredin – yr isadeiledd (ceginau ac ystafelloedd bwyta), sy’n gorfod bod yn ddigon mawr ar gyfer nifer fwy o blant; y broblem o ran cyflogi rhagor o weithwyr neu gynnig oriau ychwanegol i staff arlwyo presennol; a chaffael bwyd maethlon.
Pan na fydd modd cael deupen llinyn ynghyd: gwerthuso ymateb polisïau i'r argyfwng costau byw
Yn y sesiwn hon, bydd Cian Siôn o Ganolfan Llywodraethiant Cymru yn trafod y pwnc ‘Pan na fydd modd cael deupen llinyn ynghyd: gwerthuso ymateb polisïau i'r argyfwng costau byw’. Bydd y sesiwn yn tynnu sylw at y ffactorau sy'n gyfrifol am y wasgfa ddiweddaraf ar gostau byw ac yn taflu goleuni ar effaith ddosraniadol polisïau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Bydd hefyd yn ymchwilio i effeithiolrwydd tebygol y mesurau hyn o ran lliniaru'r effaith ar gyllidebau aelwydydd yng Nghymru.
Steffan Evans o Sefydliad Bevan sy’n cynnig yr arbenigedd a’r dystiolaeth.
Lled-ddargludyddion Cyfansawdd
Llywio Polisïau gyda Phrifysgol Caerdydd Lled-ddargludyddion Cyfansawdd – YouTube
Wrth i ddiwydiant y DU chwilio am atebion sero net, mae'r gweminar hwn ar led-ddargludyddion cyfansawdd yn dwyn ynghyd yr Athro Max Munday o Ysgol Busnes Caerdydd, Chris Meadows, sy’n arbenigo yn y diwydiant, a’r lluniwr polisïau rhanbarthol Peter Davies o Gyngor Sir Fynwy er mwyn trafod sut y gall technolegau lled-ddargludyddion cyfansawdd lywio cymdeithas.
Bydd y panel yn esbonio sut mae clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd cyntaf y byd – CSconnected – yn helpu i sicrhau mai Caerdydd yw arweinydd y DU ac Ewrop ym maes ymchwil drosi i dechnolegau lled-ddargludyddion cyfansawdd.
Yn y sesiwn hon, dan gadeiryddiaeth y cyn-Brif Weinidog Carwyn Jones, byddwn yn trafod sut mae ymchwilwyr a’r diwydiant yn gweithio gyda'i gilydd i ateb y galw ymhlith defnyddwyr drwy ddatblygu ymchwil academaidd hyd nes y gellir ei chyflwyno mewn ffordd ddibynadwy a chyflym i’r amgylchedd cynhyrchu.
Gweithredu Model Caerdydd ar gyfer Atal Trais yng Nghymru
Cyfres o weminarau ar lywio polisïau – Model Caerdydd ar gyfer Atal Trais – YouTube
Yr Athro Jonathan Shepherd CBE a fydd yn trafod Model Caerdydd ar gyfer Atal Trais. Dyma gyd-strategaeth iechyd cyhoeddus i atal trais. Mae'n dibynnu ar y defnydd strategol o wybodaeth gan sefydliadau iechyd a gorfodi'r gyfraith i wella rhaglenni plismona ac atal trais yn y gymuned. Mae'r model wedi’i roi ar waith yn eang ledled Lloegr ac mewn dinasoedd yn yr Unol Daleithiau, Awstralia, De Affrica, De America a Jamaica.
Bydd Jonathan Drake, Cyfarwyddwr yr Uned Atal Trais, yn ymuno â'r Athro Shepherd. Tîm aml-asiantaeth bach yw'r Uned Atal Trais, a'i nod yw atal trais ledled Cymru drwy ddefnyddio dull iechyd cyhoeddus. Mae'r uned yn gwneud gwaith sy’n amrywio o gomisiynu gwasanaethau'n uniongyrchol, er mwyn dargyfeirio pobl ifanc oddi wrth drais, i ymchwilio i’r hyn sy'n gweithio i atal mathau gwahanol o drais.
The Welsh Criminal Justice System: On the Jagged Edge
Cyfres o weminarau ar lywio polisïau – The Welsh Criminal Justice System
Yr Athro Richard Wyn Jones a Dr Robert Jones o Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth a fydd yn trafod eu llyfr newydd, ‘The Welsh Criminal Justice System: On the Jagged Edge’.
Yn y sesiwn hon, bydd ein hacademyddion yn trafod system cyfiawnder troseddol Cymru a’i sefyllfa unigryw. Mae gan Gymru ei llywodraeth a'i senedd ddatganoledig ei hun. Serch hynny, nid oes system cyfiawnder yng Nghymru sy’n cyfateb i rai’r Alban a Gogledd Iwerddon.
Mae cyfrifoldebau helaeth sefydliadau datganoledig Cymru'n sicrhau eu bod o reidrwydd yn chwarae rhan sylweddol ym maes cyfiawnder troseddol. O ganlyniad i hyn, mae system cyfiawnder troseddol Cymru’n gweithredu ar 'ymyl danheddog' y pwerau a’r cyfrifoldebau sydd wedi’u datganoli a'r rhai sydd wedi’u cadw yn ôl. Y llyfr hwn yw’r un cyntaf i roi esboniad academaidd o’r system hon. Mae'n dangos nid yn unig fod canlyniadau Cymru ym maes cyfiawnder troseddol ymhlith y gwaethaf yng ngorllewin Ewrop, ond y byddai sail gyfansoddiadol bresennol y system yng Nghymru’n ei gwneud yn amhosibl bron iawn i geisio mynd i'r afael â'r problemau hyn, hyd yn oed pe bai’r ewyllys yn bodoli i wneud hynny. Mae’r llyfr, sy’n seiliedig ar ddata swyddogol a chyfweliadau manwl, yn un heriol y mae mawr ei angen, a bydd unrhyw un sydd â diddordeb yng ngwleidyddiaeth a chymdeithas Cymru’n awyddus i’w ddarllen.