Arloesi ac effaith
Mae gennym ddiwylliant ymchwil llewyrchus ac arloesol, un sy'n cysylltu'n hacademyddion â diwydiant, busnes, llywodraeth a'r trydydd sector yng Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol.
O ganlyniad, mae gwir effaith i'n hymchwil ac yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i'r byd. O wrthdroi anrhaith clefyd Alzheimer i leihau troseddau treisiol i gynghori Tsieina ar ei thwf rhyfeddol, mae ein cymuned o ymchwilwyr yn helpu i greu byd cryfach, iachach a mwy cynaliadwy.
Ein nod yw denu academyddion rhyngwladol, y mae eu llwyddiant wedi'i gydnabod gydag anrhydeddau a gwobrau yn cynnwys dau enillydd Gwobr Nobel. Enillodd Syr Martin Evans ei Wobr am Feddygaeth am fod y cyntaf i adnabod bôn-gelloedd embryonig, rhywbeth a ystyrid yn amhosibl 20 mlynedd ynghynt. Mae'r ysbryd arloesol hwn yn parhau i herio credoau confensiynol.
Mae ein hymchwil arloesol yn ceisio ennill enw am ragoriaeth i ni ynghyd â lle yng Ngrŵp Russell y prifysgolion blaenllaw. Mae ein strategaeth yn egluro sut rydym ni'n wynebu'r her i wella'r safle hwn ar lwyfan cynyddol ryngwladol. Mae hyn yn cynnwys datblygu sefydliadau ymchwil rhyngddisgyblaethol a chynyddu ein hincwm ymchwil.
Tanysgrifiwch i’n cylchlythyr i glywed y diweddaraf am ymchwil, newyddion, digwyddiadau, blogiau a mwy, gan Brifysgol Caerdydd.