Ein gweledigaeth yw cael gwared ar anghydraddoldebau yn iechyd a llesiant merched, menywod, a phobl a bennwyd yn fenywaidd adeg eu geni.
Rydyn ni’n ganolfan ymchwil Cymru gyfan sy’n gwbl ymroddedig i iechyd menywod, wedi’i hariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
Amcanion
Er mwyn gwella iechyd a gofal cymdeithasol menywod yng Nghymru, byddwn yn:
1. Datblygu portffolio ymchwil effeithiol, rhyngddisgyblaethol a methodolegol trylwyr
2. Creu man gwrthdaro ar gyfer partneriaethau diwydiant academaidd, i sbarduno arloesedd a masnacheiddio
3. Hwyluso cylchoedd hirhoedlog o gydgynhyrchu a gosod blaenoriaeth sy’n cynnwys llunwyr polisi, staff y GIG, y cyhoedd, a’r trydydd sector
4. Datblygu polisi derbyniol a dichonadwy i integreiddio rhyw a rhywedd i ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol Cymru
5. Adeiladu rhwydwaith ffyniannus o arbenigwyr i ddod yn ymchwilwyr, ymarferwyr, llunwyr polisi, arweinwyr y trydydd sector a diwydiant yn iechyd menywod yn y dyfodol
Ymchwil
Bydd ein hymchwil yn canolbwyntio ar bedwar maes thematig:
Trawsnewidiadau iach/iachus ar draws rhychwant oes: risg a chymedroli clefydau, gan gynnwys trawsnewidiadau biolegol, sgrinio ac atal i wella iechyd menywod a sicrhau trawsnewidiadau iachus.
Cyflyrau cychwyn cynnar a chyflyrau gydol oes: rheoli cyflyrau iechyd sy’n effeithio’n unigryw neu'n anghymesur ar fenywod na ellir eu hatal ond y gellir eu rheoli.
Cyflyrau prin a rhai a gaiff eu stigmateiddio: effeithiau rhyw a rhywedd mewn clefydau prin a chyflyrau a gaiff eu stigmateiddio gan nad ydynt yn deall y rhain yn iawn o'u cymharu â chyflyrau eraill.
Grwpiau menywod a dangynrychiolir: croestoriad o hunaniaethau cymdeithasol a sut maen nhw’n cymedroli achosion, amlygiad a dilyniant clefydau, a mynediad ac ymateb i ofal iechyd.
Pobl
Prifysgol Caerdydd
Prifysgol Abertawe
- Natalie Brown, Cyd-arweinydd Trawsnewidiadau Iach/Iachus
- Ashra Khanom, Arweinydd cynhwysiant iechyd ac ymgysylltu â chleifion a’r cyhoedd, a chyd-arweinydd cymunedau heb wasanaeth digonol
- Cathy Thornton, Mentora personol, biosamplu, pethau gwisgadwy
Prifysgol Bangor
- Jane Noyes, Cymysg, realydd a dulliau ansoddol
- Carys Stringer, Economeg Iechyd
Prifysgol De Cymru
- Deborah Lancastle, Cofnodi symptomau, technoleg merched
Cynnwys ac Ymgysylltu â Chleifion a’r Cyhoedd (PPIE)
- Clymblaid Iechyd Menywod Cymru o dros 60 o elusennau, sefydliadau ymbarél ledled y DU, Colegau Brenhinol a chynrychiolwyr cleifion
- Debbie Shaffer, Triniaeth Deg i Ferched Cymru
Camau nesaf
Ymchwil sy’n gwneud gwahaniaeth
Mae ein hymchwil yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl wrth i ni gweithio ar draws disgyblaethau er mwyn ymgodymu â phrif heriau sy’n wynebu’r gymdeithas, yr economi ac ein hamgylchedd.
Ymchwil ôl-raddedig
Mae ein graddau ymchwil yn rhoi'r rhyddid i chi i archwilio pwnc arbennig mewn dyfnder ymhlith ymchwilwyr blaenllaw.
Ein heffaith ymchwil
Mae'r astudiaethau achos hyn yn rhoi sylw i rai o'r meysydd lle rydym yn cael effaith ymchwil gadarnhaol.