Rydym yn cydweithio â Chydlynydd Epidemioleg Deintyddol Cymru, Gwasanaethau Deintyddol Cymunedol a Llywodraeth Cymru i gynnal yr arolygon.
Mae’r dull tîm integredig hwn yn sicrhau bod y safonau sicrhau ansawdd uchaf yn cael eu cyflawni yn y rhaglen epidemioleg plentyndod.
Amcanion
Mae ein huned yn darparu’r canlynol ar ran Llywodraeth Cymru, wedi’u comisiynu drwy Iechyd Cyhoeddus Cymru:
- cyngor proffesiynol annibynnol
- sicrhau ansawdd
- glanhau data
- dilysu data
- dadansoddi data
- gwasanaeth adrodd
Prosiectau
Rhaglen epidemioleg geneuol
Mae arolygu iechyd y geg plant ac oedolion yn helpu i lywio’r gwaith o gynllunio a gwerthuso gwasanaethau.
Mae’r arolygon rydym yn eu cefnogi yn gymaradwy ledled Cymru ag arolygon blaenorol diweddar ac ardaloedd eraill o’r DU lle mae arolygon tebyg yn cael eu cynnal trwy ddilyn canllawiau’r Gymdeithas Brydeinig ar gyfer Astudio Deintyddiaeth Gymunedol (BASCD).
Arolwg o blant blwyddyn un
Casglodd arolwg Cymru gyfan 2022/23 ddata clinigol ar nifer yr achosion o bydredd mewn sampl o blant ysgol blwyddyn un o bob rhan o Gymru, a difrifoldeb yr achosion hyn, rhwng hydref 2022 a gwanwyn 2023:
Grŵp oedran | Blwyddyn yr arolwg | Dogfen |
---|---|---|
Plant 5 oed | 2022/23 | Adroddiad arolwg |
Cynhaliwyd arolwg hefyd yn 2015/16, a cheir rhagor o wybodaeth am hyn isod:
Grŵp oedran | Blwyddyn yr arolwg | Dogfen |
---|---|---|
Plant 5 oed | 2015/16 | Adroddiad arolwg |
Plant 5 oed | 2015/16 | Protocol arolwg |
Plant 5 oed | 2015/16 | Adroddiad data |
Arolwg o blant blwyddyn saith
Mae cynlluniau ar y gweill ar hyn o bryd ar gyfer yr arolwg iechyd y geg Cymru gyfan nesaf a fydd yn canolbwyntio ar blant ym mlwyddyn saith mewn ysgolion canol neu uwchradd ledled Cymru, rhwng hydref 2023 a gwanwyn 2024.
Cynhaliwyd arolwg hefyd yn 2016/17, a cheir rhagor o wybodaeth am hyn isod:
Grŵp oedran | Blwyddyn yr arolwg | Dogfen | |
---|---|---|---|
Plant 12 oed | 2016/17 | Adroddiad arolwg | |
Plant 12 oed | 2016/17 | Protocol arolwg | |
Plant 12 oed | 2016/17 | Adroddiad data |
Ein tîm
Adroddiadau blynyddol wedi'u harchifo
Adroddiadau blynyddol y rhaglen epidemioleg geneuol
Grŵp oedran | Blwyddyn | Dogfen |
---|---|---|
Pobl ifanc rhwng 18 ac 15 oed | 2020 | Adroddiad llawn |
Pobl ifanc rhwng 18 ac 15 oed | 2019 | Adroddiad llawn |
Plant pump oed | 2014/15 | Adroddiad llawn |
Plant pump oed | 2011/12 | Adroddiad llawn |
Plant tair oed | 2013/14 | Adroddiad llawn |
Plant pump oed | 2007/08 | Adroddiad llawn |
Plant pump oed | 2005/06 | Adroddiad llawn |
Plant pump oed | 2003/04 | Adroddiad llawn |
Plant deuddeg oed | 2008/09 | Adroddiad lawn |
Plant deuddeg oed | 2004/5 | Adroddiad llawn |
Plant deuddeg oed | 2012/13 | Adroddiad llawn |
Proffiliau iechyd y geg Byrddau Iechyd 2014
Gwnaethom baratoi proffiliau ar gyfer data iechyd y geg plant ym mlwyddyn ysgol un ym mhob Bwrdd Iechyd Lleol yng Nghymru. Gwnaethom gymharu canlyniadau arolygon a gwblhawyd yn 2007/2008 a 2011/2012:
Proffiliau iechyd y geg Byrddau Iechyd 2012
Mae’r proffiliau iechyd y geg hyn yn rhoi trosolwg o iechyd y geg ar gyfer y saith bwrdd iechyd lleol ledled Cymru.
Maent yn cynnwys tueddiadau mewn clefyd y geg a phydredd dannedd ymhlith plant 5-12 oed, anghydraddoldebau o ran iechyd y geg ymhlith plant, Cynllun Gwên, iechyd y geg mewn oedolion a'r defnydd presennol o wasanaethau mewn perthynas ag angen.
Adroddiadau monitro blynyddol y Cynllun Gwên
Blwyddyn | Dogfen |
---|---|
2018/19 | Adroddiad |
2017/18 | Adroddiad |
2016/17 | Adroddiad |
2015/16 | Adroddiad |
2014/15 | Adroddiad |
2013/14 | Adroddiad |
Arolwg Deintyddol Cartrefi Gofal Cymru
Dilynodd arolwg 2010-2011 o breswylwyr cartrefi gofal yng Nghymru arolwg 2006-2007 o reolwyr cartrefi gofal drwy archwilio sampl o breswylwyr i gael data ar nifer yr achosion o glefydau deintyddol, y mathau o ymyriadau y gallent elwa arnynt a’r anawsterau o ran darparu’r gofal deintyddol sydd ei angen.
Fe'i cynlluniwyd i fod yn arolwg atodol i'r Arolwg Iechyd Deintyddol Oedolion Cenedlaethol (ADHS) 2009 a, lle bynnag y bo'n bosibl, defnyddiodd yr un meini prawf methodolegol.
Diben yr adroddiad yw cefnogi byrddau iechyd lleol yng Nghymru i ddefnyddio gwybodaeth o'r arolwg i gynllunio’r ddarpariaeth gwasanaethau deintyddol.
Camau nesaf
Ymchwil sy’n gwneud gwahaniaeth
Mae ein hymchwil yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl wrth i ni gweithio ar draws disgyblaethau er mwyn ymgodymu â phrif heriau sy’n wynebu’r gymdeithas, yr economi ac ein hamgylchedd.
Ymchwil ôl-raddedig
Mae ein graddau ymchwil yn rhoi'r rhyddid i chi i archwilio pwnc arbennig mewn dyfnder ymhlith ymchwilwyr blaenllaw.
Ein heffaith ymchwil
Mae'r astudiaethau achos hyn yn rhoi sylw i rai o'r meysydd lle rydym yn cael effaith ymchwil gadarnhaol.