Ewch i’r prif gynnwys

Ein nod a’n cenhadaeth

Cynhyrchu gwybodaeth economaidd ranbarthol am Gymru a cheisio gwella dealltwriaeth o’r cyfleoedd a’r heriau sy’n wynebu’r economi gyfoes.

Yr hyn a wnawn

  • Darparu dadansoddiad economaidd ar bob agwedd ar economi Cymru.
  • Darparu ymchwil economaidd ac arbenigedd gwerthuso i ystod eang o gwmnïau, sefydliadau a’r trydydd sector yng Nghymru.
  • Ymgymryd â modelu economaidd rhanbarthol o economi Cymru.
  • Cyhoeddi Adolygiad Economaidd Cymru sy’n cynnig fforwm ar gyfer dadansoddi'r economi ranbarthol.
  • Cydweithio â phartneriaid yn ein hymchwil, gan gynnwys y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector.

Sut rydyn ni’n gwneud hynny

  • Dulliau ymchwil economaidd amrywiol, gan gynnwys dulliau ymchwil meintiol ac ansoddol.
  • Defnyddio ystadegau economaidd am economi Cymru, a chynhyrchu ystadegau ar gyfer ein partneriaid.
  • Meithrin cysylltiadau â diwydiant a llywodraeth ar ôl dros 30 mlynedd o weithio’n rhanbarthol.
  • Cyllid grant gan Ymchwil ac Arloesedd y DU (UKRI), llywodraeth ranbarthol, diwydiant a'r trydydd sector.

Ymchwil

Adolygiad Economaidd Cymru

Yr Uned sy’n cynhyrchu, gweinyddu a chyhoeddi Adolygiad Economaidd Cymru, sydd wedi bod ar waith ers dros 30 mlynedd erbyn hyn. Mae Adolygiad Economaidd Cymru yn darparu sylwebaeth a dadansoddiad o economi Cymru mewn modd sy'n hyrwyddo dealltwriaeth. Mae hefyd yn llywio penderfyniadau ac yn fodd o ymgysylltu â chymuned fusnes ac academaidd Cymru.

Mae’r deunydd cyfredol yn Adolygiad Economaidd Cymru ar gyfer Cyfrol 30 2025 ar gael drwy fynediad agored yn Adolygiad Economaidd Cymru (cardiffuniversitypress.org)

Copïau o fersiynau blaenorol o Adolygiad Economaidd Cymru.

Prosiect Band Eang Cyflym Iawn

Fe wnaethom gynnal ymchwil am y manteision economaidd sy'n gysylltiedig â busnesau yng Nghymru yn defnyddio technolegau cyflym iawn wedi'u galluogi gan fand eang. Nod ein hymchwil oedd helpu i wneud yn siŵr bod cynifer o bobl â phosibl yn manteisio ar wasanaethau cyflym iawn a alluogir gan fand eang, yn ogystal ag asesu effaith economaidd y gwasanaethau hyn.

Rhagor o wybodaeth am ein Prosiect Band Eang Cyflym Iawn.

Ymchwil gydweithredol

Mae WERU yn rhan o Barc Ymchwil Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd – y cyntaf o’i fath yn y byd.

Dirnad Economi Cymru

Mae Uned Ymchwil Economi Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â Banc Datblygu Cymru, y Swyddfa Ystadegau Gwladol, Ysgol Busnes Bangor, a’r Ganolfan Ymchwil Menter. Mae Dirnad Economi Cymru yn coladu ac yn dadansoddi data i greu dealltwriaeth annibynnol, cadarn a dibynadwy i helpu i ddeall a gwella economi Cymru yn well.

Mae dadansoddiadau ac adroddiadau diweddar ar gael yn:

Dirnad Economi Cymru | Banc Datblygu Cymru

Ymchwil a Gwerthuso CSconnected

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi’r don gyntaf o gyllid drwy Gronfa Cryfder mewn Lleoedd blaenllaw Ymchwil ac Arloesedd y DU. Mae prosiect gwerth £43.74m ar gyfer clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd de Cymru wedi’i gymeradwyo yn rhan o’r buddsoddiad hwn, a bydd yn cael £25.44m o gronfa Cryfder mewn Lleoedd.

Mae prosiect “CSConnected”, yn seiliedig ar integreiddio rhagoriaeth ymchwil â’r gadwyni gyflenwi ranbarthol unigryw ym maes Gweithgynhyrchu Lled-ddargludyddion uwch. Mae WERU yn arwain ar ddatblygu data economaidd i gynorthwyo deilliannau'r prosiect yn ogystal â helpu i’w gwerthuso. Mae rhagor o fanylion am weithgaredd CSconnected ar gael yn CSconnected – Gyrru technolegau yfory

Ymchwil Lagŵn Llanw

Yn rhan o Her Ymchwil Morlyn Llanw Llywodraeth Cymru gwerth £750k, mae Prifysgol Caerdydd, mewn partneriaeth â Western Gateway a British Hydropower Association Ltd, yn datblygu’r Cynlluniau Morlyn Llanw: Prosiect Perchnogaeth, Tegwch a Chyllid.

Mae’r ymchwil hon yn edrych ar sut y gallai gwahanol fodelau perchnogaeth a datblygu/ariannu ar gyfer morlynnoedd llanw fod o fudd i economi Cymru.

Cwrdd â’r tîm

Cydlynydd

Picture of Maxim Munday

Yr Athro Maxim Munday

Cyfarwyddwr Uned Ymchwil Economi Cymru

Telephone
+44 29208 75089
Email
MundayMC@caerdydd.ac.uk

Staff academaidd

Picture of Dylan Henderson

Dr Dylan Henderson

Darlithydd mewn Arloesi a Threfniadaeth

Telephone
+44 29208 76928
Email
HendersonD3@caerdydd.ac.uk
Picture of Mark Lang

Dr Mark Lang

Cydymaith Ymchwil, WERU

Email
LangM3@caerdydd.ac.uk
Picture of Laura Reynolds

Dr Laura Reynolds

Uwch Ddarlithydd mewn Marchnata

Telephone
+44 29208 75704
Email
ReynoldsL4@caerdydd.ac.uk
Picture of Neil Roche

Neil Roche

Cydymaith Ymchwil, Uned Ymchwil Economi Cymru

Telephone
+44 29208 76648
Email
RocheND1@caerdydd.ac.uk

Cyhoeddiadau

Adnoddau

Trefniadau pontio gyda'r UE - Rhagolygon masnachu ar gyfer sectorau allweddol Cymru

Cynhyrchwyd yr adroddiad hwn ar gyfer Llywodraeth Cymru yn rhan o brosiect “Deall goblygiadau Masnach Fyd-eang a Datgarboneiddio ar ôl Brexit.” Mae deall y risgiau a’r cyfleoedd i fasnach yng Nghymru yn ystod cyfnod gweithredu'r trefniadau pontio gyda'r UE ac yn y cyfnod sy’n dilyn yn hanfodol i lywio trafodaethau Llywodraeth Cymru â Llywodraeth y DU.

Tablau Mewnbwn-Allbwn Cymru 2007

Tablau Mewnbwn-Allbwn Cymru 2007

Y camau nesaf

academic-school

Ymchwil sy’n gwneud gwahaniaeth

Mae ein hymchwil yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl wrth i ni gweithio ar draws disgyblaethau er mwyn ymgodymu â phrif heriau sy’n wynebu’r gymdeithas, yr economi ac ein hamgylchedd.

Ymchwil ôl-raddedig

Mae ein graddau ymchwil yn rhoi'r rhyddid i chi i archwilio pwnc arbennig mewn dyfnder ymhlith ymchwilwyr blaenllaw.

Ein heffaith ymchwil

Mae'r astudiaethau achos hyn yn rhoi sylw i rai o'r meysydd lle rydym yn cael effaith ymchwil gadarnhaol.