Mae Canolfan Gofal Seiliedig ar Dystiolaeth Cymru (WCEBC) yn hyrwyddo ymarfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth drwy ddatblygu a gwerthuso systemau rhyngwladol rhagorol ar gyfer arfarnu, cyfieithu a defnyddio tystiolaeth.
Fel Endid Cydweithredu'r JBI, mae gennym ymagwedd gynhwysol at dystiolaeth er mwyn cynhyrchu canllawiau clinigol "byd go iawn" y gellir eu defnyddio.
Rydym yn cynnig ymgynghoriaeth ac arweiniad ar gynhyrchu adolygiadau systematig a phrosiectau gweithredu gan ddefnyddio offer gwerthuso, gweithredu a rheoli JBI.
Mae'r rhain wedi'u cynllunio'n benodol i gynorthwyo gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i weithredu ymarfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth a darparu'r gofal gorau posibl i gleifion. Gallwn ddarparu rhaglen hyfforddi undydd bwrpasol, ar gyfer o leiaf chwe chynadleddwr, 'Cyfieithu tystiolaeth i Ymarfer', y gellir ei chyflwyno yn eich gweithle.
Cydweithio
Rydym yn gweithio'n agos gyda'r sefydliadau canlynol:
Cwrdd â'r tîm
Staff academaidd
Dr Deborah Edwards
- edwardsdj@cardiff.ac.uk
- +44 (0)29 225 10703
Dr Clare Bennett
- bennettcl3@cardiff.ac.uk
- +44 (0)29 225 10818
Dr Judit Csontos
- csontosjk@cardiff.ac.uk
- +44 (0)29 225 11882
Elizabeth Gillen
- gillenec@cardiff.ac.uk
- +44 (0)29 206 88151
Cwestiynau
Cysylltwch â Deborah Edwards gydag unrhyw gwestiynau.
Y cyfleoedd hyfforddiant rydym yn eu cynnig
Rhaglen Hyfforddiant JBI ar gyfer Gweithredu Tystiolaeth
Mae Rhaglen Hyfforddiant JBI ar gyfer Gweithredu Tystiolaeth yn cyflwyno dulliau profedig i glinigwyr, rheolwyr, llunwyr polisïau a rheolwyr ansawdd ym maes gofal iechyd, o roi tystiolaeth ar waith yn eu hymarfer. Gellir cyflwyno’r hyfforddiant mewn modd sydd wedi’i lunio’n bwrpasol ar eich cyfer, ac yn ystod y rhaglen bydd cyfranogwyr yn:
- datblygu eu sgiliau a’u cryfderau o ran arweinyddiaeth glinigol ymhellach
- cynnal archwiliadau clinigol ac yn ymgymryd â phrosesau gwella ansawdd
- ymgyfarwyddo â fframweithiau a meddalwedd i roi ymchwil a thystiolaeth glinigol ar waith yn ymarferol
- datblygu a gweithredu strategaethau i roi ymarfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar waith yn eu hamgylchedd gwaith eu hunain.
Dyddiad: Ar gais
Lleoliad: Prifysgol Caerdydd (rhithwir)
Pris: I’w gadarnhau
Gweithdy JBI ar gyfer Arweinyddiaeth Glinigol
Mae'r Gweithdy Arweinyddiaeth Glinigol yn weithdy undydd deinamig a rhyngweithiol sy'n seiliedig ar y dystiolaeth orau sydd ar gael ynghylch arweinyddiaeth glinigol. Mae’r gweithdy trawsnewidiol hwn gan JBI yn agored i arweinwyr clinigol a darpar arweinwyr o bob disgyblaeth gofal iechyd. Mae’n cyflwyno gwybodaeth a thechnegau ymarferol i weithwyr gofal iechyd, er mwyn meithrin diwylliant mwy cadarnhaol, personol a phroffesiynol yn y gweithle.
Lleoliad: Prifysgol Caerdydd
Pris: £230
Rhaglen Hyfforddiant JBI ar gyfer Adolygu Systematig Cynhwysfawr (CSR)
Mae Rhaglen Hyfforddiant JBI ar gyfer Adolygu Systematig Cynhwysfawr (CSR) yn gwrs hyfforddi adolygu systematig blaenllaw a gynlluniwyd ar gyfer ymchwilwyr a chlinigwyr. Bydd y cwrs ar-lein hwn yn rhoi'r sgiliau i gyfranogwyr ddatblygu, cynnal ac adrodd adolygiadau systematig o dystiolaeth ansoddol a meintiol gan ddefnyddio'r dull JBI. Mae'r rhaglen hon yn ymgorffori gweithgareddau rhyngweithiol ar ffurf gweithdy, gan ddarparu'r offer a'r arbenigedd sydd eu hangen i ragori mewn synthesis tystiolaeth.
Dyddiadau:
Modiwl 1 (Cyflwyniad i adolygiadau systematig): 12 Mai 2025
Modiwl 2 (Synthesis o dystiolaeth feintiol): 13 i 16 Mai 2025
Modiwl 3 (Synthesis o dystiolaeth feintiol): 19 i 21 Mai 2025
Pris: £1045
Lleoliad: Prifysgol Caerdydd (Rhithwir)
Gweithdy JBI ar gyfer Creu Adolygiadau Cwmpasu
Mae'r cwrs hyfforddi adolygu cwmpasu deuddydd hwn yn galluogi cyfranogwyr i archwilio'r damcaniaethau a'r cysyniadau sy'n ymwneud ag adolygiadau cwmpasu a mathau eraill o synthesis tystiolaeth. Bydd y cwrs ar-lein hwn yn rhoi'r wybodaeth a'r offer sydd eu hangen ar gyfranogwyr i gynllunio'n llwyddiannus ar gyfer ac ymgymryd ag adolygiad cwmpasu yn dilyn dull y JBI.
Dyddiad: 3 a 4 Mawrth 2025
Pris: £240
Lleoliad: Prifysgol Caerdydd (Rhithwir)
Cyflwyniad i adolygiadau cyflym
Mae ein cwrs hyfforddi adolygu cyflym tridiau wedi'i gynllunio i ddarparu'r sgiliau a'r wybodaeth hanfodol sydd eu hangen ar gyfranogwyr i gynnal adolygiadau cyflym effeithlon ac o ansawdd uchel. Mae'r cwrs ar-lein hwn yn cynnig cyflwyniad trylwyr i fethodoleg adolygu cyflym, gan gwmpasu camau allweddol megis llunio cwestiynau ymchwil, perfformio chwiliadau llenyddiaeth â ffocws, cymhwyso dulliau sy'n cyflymu'r broses adolygu, a chyfosod canfyddiadau yn gyflym. Wedi'i gyflwyno mewn fformat deniadol, arddull gweithdy, mae'r cwrs hwn yn arfogi cyfranogwyr ag offer ymarferol ac arbenigedd ar gyfer cynnal adolygiadau cyflym.
Dyddiad: 16 i 18 Mehefin 2025
Pris: £450
Lleoliad: Prifysgol Caerdydd (Rhithwir)
Ymgynghoriaeth un-i-un
I'r rhai sy'n ceisio arweiniad personol ar brosiectau synthesis tystiolaeth (er enghraifft, adolygiadau systematig, ymbarél, cwmpasu a chyflym), mae sesiwn ymgynghori ar-lein un i un ar gael gydag arbenigwr gwybodaeth neu fethodolegydd synthesis tystiolaeth. Gall ein harbenigwr gwybodaeth helpu i chwilio a datblygu cwestiwn ymchwil ar gyfer prosiect synthesis tystiolaeth. Gall ein methodolegydd synthesis tystiolaeth ddarparu arweiniad arbenigol i'r rhai sydd angen cymorth gydag agweddau eraill ar eu prosiect synthesis tystiolaeth, megis datblygu protocol, rheoli prosiectau, defnyddio gwahanol feddalwedd synthesis tystiolaeth, a mwy.
Dyddiadau: Ar gais
Pris: £250
Lleoliad: Prifysgol Caerdydd (Rhithwir)
Ysgolion
Camau nesaf
Ymchwil sy’n gwneud gwahaniaeth
Mae ein hymchwil yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl wrth i ni gweithio ar draws disgyblaethau er mwyn ymgodymu â phrif heriau sy’n wynebu’r gymdeithas, yr economi ac ein hamgylchedd.
Ymchwil ôl-raddedig
Mae ein graddau ymchwil yn rhoi'r rhyddid i chi i archwilio pwnc arbennig mewn dyfnder ymhlith ymchwilwyr blaenllaw.
Ein heffaith ymchwil
Mae'r astudiaethau achos hyn yn rhoi sylw i rai o'r meysydd lle rydym yn cael effaith ymchwil gadarnhaol.