Ewch i’r prif gynnwys

Wales Autism Research Centre

Advancing the scientific understanding of autism to create positive change.

Cafodd Canolfan Ymchwil Awtistiaeth Cymru (WARC) ei chreu drwy gydweithrediad unigryw rhwng Autism Cymru ac Autisticayr Ysgol Seicoleg, Prifysgol Caerdydd a Llywodraeth Cymru. Fe’i sefydlwyd â chefnogaeth rhoddion hael gan y sefydliadau uchod, yn ogystal â gan Autism InitiativesCronfa Elusennol Baily ThomasSefydliad Waterloo, Sefydliad Jane Hodge, Research AutismPhrif Elusen y Seiri Rhyddion.

Lansiwyd WARC yn swyddogol ym mis Medi 2010 gan y Cyfarwyddwr sefydlu, yr Athro Sue Leekam, a hon oedd y ganolfan genedlaethol gyntaf ar gyfer ymchwil awtistiaeth yn y Deyrnas Unedig. Mae ein hymchwil yn chwarae rhan allweddol yn y gymuned awtistiaeth, gydag enw da am drosi i mewn i bolisi ac arfer.

Ers mis Ebrill 2019, mae’r ganolfan wedi bod dan arweiniad Dr Catherine Jones, ac mae’n cynnwys grŵp craidd o staff academaidd, staff ôl-ddoethuriaeth a myfyrwyr PhD. Rydyn ni wedi ein lleoli yn yr Ysgol Seicoleg ac rydyn ni’n rhan o Ganolfan Gwyddoniaeth Datblygiad Dynol Prifysgol Caerdydd (CUCHDS).

Yn 2020, dathlodd WARC ei deng mlwyddiant, ac ar dudalennau gwe ymgysylltu yr Ysgol Seicoleg, gallwch weld deg carreg filltir allweddol y Ganolfan.

Y ffordd orau o glywed am ein newyddion diweddaraf yw ein dilyn ni ar FacebookTwitter.

Amcanion

Drwy ein hymchwil a gaiff ei chydnabod yn rhyngwladol a’n cysylltiadau agos gyda’r gymuned awtistig, ein nod yw datblygu’r ddealltwriaeth wyddonol o awtistiaeth er mwyn dylanwadu’n gadarnhaol ar arfer, polisi ac ymwybyddiaeth y cyhoedd.

Research

Mae ein hymchwil yn cynnwys tair thema:

  • Ymddygiad a Diagnosis
  • Prosesau Biolegol a Gwybyddol
  • Cyfathrebu, Teuluoedd a Pherthnasoedd

Ymddygiad a diagnosis

Rydyn ni’n cynnal gwaith i gefnogi ac i wella diagnosis, cydnabyddiaeth a dealltwriaeth o awtistiaeth. Mae hyn yn cynnwys gwaith ar y Cyfweliad Diagnostig ar gyfer Anhwylderau Cyfathrebu Cymdeithasol (DISCO) a datblygu teclynnau hyfforddi ac ymwybyddiaeth, gan gynnwys ffilm Y Parti Pen-blwydd a gafodd ei dylunio i helpu gweithwyr rheng flaen i nodi arwyddion o awtistiaeth mewn plant.

Rydyn ni hefyd yn ymchwilio i ddiagnosis ymhlith oedolion a’r llwybr ôl-ddiagnostig i blant awtistig a sut gellid ei wella. Mae ymchwil ar gyfathrebu cymdeithasol ac ymddygiadau ailadroddus, mewn perthynas â nodweddion sy’n cyd-ddigwydd (e.e. gorbryder ac iechyd meddwl), hefyd yn cael ei gynnal.

Prosesau biolegol a gwybyddol

Mae ganddon ni ddiddordeb yn y ffyrdd mae pobl awtistig yn meddwl ac yn gweld y byd o’u cymharu â phobl nad ydynt yn awtistig. Hoffen ni ddeall sut mae pobl awtistig yn prosesu arwyddion cymdeithasol fel wynebau a chyswllt llygaid, gan gynnwys archwilio signalau’r ymennydd sy’n sail i’r prosesau hyn, yn ogystal â pha mor dda gall pobl awtistig ddeall meddyliau pobl eraill.

Yn ein hystafell synhwyraidd bwrpasol, rydyn ni hefyd wedi bod yn archwilio sut mae plant awtistig yn defnyddio ystafelloedd synhwyraidd ac yn ymateb i ysgogiadau synhwyraidd. Mae ganddon ni hefyd ddiddordeb mewn sut gallai ffyrdd o feddwl pobl awtistig effeithio ar iechyd meddwl, ac mae’r Astudiaeth o Anhwylderau Bwyta mewn Merched Awtistig yn edrych ar anorecsia nerfosa mewn merched awtistig a pham ei fod yn datblygu ac yn parhau.

Cyfathrebu, teuluoedd a pherthnasoedd

Rydyn ni hefyd yn cynnal ymchwil i’r ffordd mae pobl awtistig yn cyfathrebu â’i gilydd a gyda phobl nad ydynt yn awtistig a sut gallai’r cyfathrebu effeithio ar yr unigolyn, eu teuluoedd a’u perthnasoedd. Rydyn ni wedi bod yn edrych ar y cyfathrebu tair ffordd rhwng plant awtistig, eu rhieni a’u therapyddion mewn lleoliad therapiwtig, yn ogystal ag ystyried cyfathrebu yn ystod cymorth ar ôl diagnosis. Mae ganddon ni raglen o waith arbrofol hefyd, sy’n ymchwilio i sut mae plant awtistig yn amseru eu hymddygiadau cymdeithasol, yn ogystal â gwaith yn darganfod sut mae pobl awtistig yn defnyddio strategaethau cydadferol mewn bywyd bob dydd.

Resources

Canllaw Ystafell Synhwyraidd Prifysgol Caerdydd

Mae ein Canllaw Ystafell Synhwyraidd wedi’i ddylunio ar gyfer ymarferwyr sy’n gweithio â phlant awtistig mewn ystafelloedd synhwyraidd. Mae’n seiliedig ar ganfyddiadau ein hymchwil, ac fe’i crëwyd gyda mewnbwn gan randdeiliaid.

Ewch i’n tudalen effaith Canllaw Synhwyraidd i ddysgu mwy ac i lawrlwytho’r Canllaw.

Holiadur Ymddygiad Ailadroddus - 3 (RBQ-3)

Prifysgol Caerdydd luniodd yr Holiadur Ymddygiad Ailadroddus - 3. Mae'r RBQ-3 yn mesur ymddygiadau ailadroddus ar hyd oes mewn fformatau hunan-adrodd ac adroddiadau gan rieni/gofalwyr.

Ewch i'n tudalen Holiadur Ymddygiad Ailadroddus-3 (RBQ-3) i gael rhagor o wybodaeth ac i lawrlwytho'r holiadur.

Ffilm Y Parti Pen-blwydd

Datblygwyd ffilm Y Parti Pen-blwydd gyda phartneriaid ymchwil a Llywodraeth Cymru fel teclyn hyfforddi ar gyfer gweithwyr rheng flaen proffesiynol. Gall unrhyw un ei gwylio neu ei defnyddio mewn hyfforddiant ac addysg berthnasol.

Ewch i’n tudalen effaith Parti Pen-blwydd i ddysgu mwy ac i weld y ffilm.

Camau nesaf

Ymchwil sy’n gwneud gwahaniaeth

Mae ein hymchwil yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl wrth i ni gweithio ar draws disgyblaethau er mwyn ymgodymu â phrif heriau sy’n wynebu’r gymdeithas, yr economi ac ein hamgylchedd.

Ymchwil ôl-raddedig

Mae ein graddau ymchwil yn rhoi'r rhyddid i chi i archwilio pwnc arbennig mewn dyfnder ymhlith ymchwilwyr blaenllaw.

Ein heffaith ymchwil

Mae'r astudiaethau achos hyn yn rhoi sylw i rai o'r meysydd lle rydym yn cael effaith ymchwil gadarnhaol.