Ewch i’r prif gynnwys

Delweddu

Rydym yn canolbwyntio ar ddatgloi pŵer delweddu i wella gwybyddiaeth, integreiddio deallusrwydd, a hwyluso gwneud penderfyniadau.

Er mwyn gwireddu deallusrwydd artiffisial, mae'n rhaid i ni integreiddio deallusrwydd peirianyddol a deallusrwydd dynol. Mae’r broses o ddelweddu yn defnyddio cynrychioliadau gweledol rhyngweithiol o ddata i wella gwybyddiaeth trwy ddefnyddio galluoedd canfyddiadol y llygad dynol. Yn oes data mawr, mae'n chwarae rhan hanfodol gan ei fod yn ein helpu i wneud synnwyr o lawer iawn o wybodaeth gymhleth. Mae dadansoddeg weledol yn defnyddio technegau a rhyngwynebau delweddu i greu amgylchedd dadansoddol sy’n ymdrochol. Mae hyn yn ein galluogi i ddefnyddio dealltwriaeth weledol a dealltwriaeth beiriannol fel dull cyflenwol er mwyn cyfuno deallusrwydd dynol a pheiriannol. Mewn senarios dadansoddi a gwneud penderfyniadau sy'n canolbwyntio ar bobl, megis diogelwch, milwrol, ac atal a lliniaru trychinebau, bydd dadansoddi gweledol rhyngweithiol a deallus yn dod yn ddull dadansoddol craidd.

Nodau

  • Gwneud gwaith ymchwil dwys ym maes technegau delweddu a dadansoddeg weledol
  • Dod i hyd i gymwysiadau rhyngddisgyblaethol ar gyfer delweddu a dadansoddeg weledol

Ymchwil

Technegau delweddu cyffredinol

  • Graffeg Gyfrifiadurol
  • Animeiddio a rendro
  • Prosesu delweddau a signalau
  • Dylunio, modelu a phrosesu geometrig
  • Realiti Estynedig (AR)/Realiti Rhithwir (VR) / arddangosiadau ymdrochol

Sylfeini mathemategol ac algorithmau dysgu peirianyddol

  • Clystyru a chyfuno data
  • Lleihau dimensiynoldeb
  • Darganfod, echdynnu, olrhain a thrawsnewid nodweddion.
  • Technegau dysgu peirianyddol
  • Dulliau rhifiadol

Meysydd lle gallwch chi ddefnyddio delweddu a dadansoddeg gweledol

  • Dysgu Peirianyddol
  • Iechyd a Chymdeithas
  • Peirianneg a Roboteg
  • Y Gwyddorau Cymdeithasol

Prosiectau cyfredol

  • Datgelu "greddfau" modelau cynhyrchiol dwfn at ddibenion creu cynnwys gweledol sy’n deg a diduedd. Cyllid o tua £72,922. Partneriaethau Hyfforddiant Doethurol EPSRC

Cwrdd â’r tîm

Digwyddiadau

Cyflwynir seminarau gan aelodau ac ymwelwyr yn y gyfres seminarau ymchwil cyfrifiadura gweledol.

Cyhoeddiadau

Y camau nesaf

Ymchwil sy’n gwneud gwahaniaeth

Mae ein hymchwil yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl wrth i ni gweithio ar draws disgyblaethau er mwyn ymgodymu â phrif heriau sy’n wynebu’r gymdeithas, yr economi ac ein hamgylchedd.

Ymchwil ôl-raddedig

Mae ein graddau ymchwil yn rhoi'r rhyddid i chi i archwilio pwnc arbennig mewn dyfnder ymhlith ymchwilwyr blaenllaw.

Ein heffaith ymchwil

Mae'r astudiaethau achos hyn yn rhoi sylw i rai o'r meysydd lle rydym yn cael effaith ymchwil gadarnhaol.