Mae’r grŵp ymchwil SPIN yn dwyn ynghyd Peirianwyr Clinigol a Ffisiotherapyddion sy’n arbenigo ym maes gwyddorau symudiadau clinigol. Mae'r grŵp hwn yn dwyn ynghyd sgiliau a phrofiadau yn y ddwy ddisgyblaeth er mwyn mynd i'r afael â heriau a achosir gan gyflyrau cyhyrysgerbydol a diabetig.
Amcanion
- Gwella ein dealltwriaeth o strategaethau symudiadau dynol a’r defnydd a wneir o ddadansoddiadau biofecanyddol er mwyn gwneud y defnydd gorau o asesiadau symud mewn ymarfer clinigol
- Llunio argymhellion ar sut y gall unigolion â chyflyrau cyhyrysgerbydol elwa o ymarfer corff sy’n seiliedig ar brofion swyddogaethol a gwrthrychol
- Dod o hyd i ffyrdd arloesol o drin unigolion â chyflyrau cyhyrysgerbydol a diabetig gan ddefnyddio technolegau yn y clinig a'r cartref
Ymchwil
Nod grŵp ymchwil SPIN yw defnyddio technoleg ddigidol a gwyddor symud i ddod o hyd i atebion arloesol i wella ansawdd y ddarpariaeth gofal iechyd i'r rhai sy'n byw gyda chyflyrau cyhyr-ysgerbydol a Diabetes.
Mae gennym fynediad at labordai gydag ystod o offer o'r radd flaenaf, sy'n ein galluogi i gwblhau ymchwil o ansawdd uchel mewn dadansoddi symudiadau clinigol a ffisiotherapi.
Er nad yw’n rhestr gyflawn, mae’r offer a’r cyfleusterau sydd ar gael i ni yn cynnwys:
- Llwyfan Grym Podiwm Biobeirianneg BTS ar gyfer casglu data grym, recordio fideo a bio-adborth.
- System Electromyograffeg Diwifr Delsys Trigno (EMG) gan gynnwys synwyryddion Trigno Avanti a Duo ar gyfer mesur y gweithgaredd trydanol a gynhyrchir gan gyhyrau wrth symud.
- Mae system MotekForceLink GRAIL yn gyfleuster o’r radd flaenaf ar gyfer asesu ymchwil, symud ac adsefydlu.
- Offeryn ar y we yw TRAK y gellir ei ddefnyddio i ddarparu dull sy'n canolbwyntio ar y claf trwy rannu gwybodaeth, gwella presgripsiwn ymarfer corff, cael cyngor gan ffisiotherapydd a monitro cynnydd.
- Synwyryddion IMU Xsens Dot
- System Ddadansoddi Xsens MVN sy'n ein galluogi i fesur cinemateg a dynameg cymalau a segmentau corff yn gywir gan ddefnyddio Unedau Mesur Anadweithiol (IMU).
- Gall Xsensor Clinical Insoles ddarparu data pwysedd gwadnol (plantar) ar gyfer tasgau swyddogaethol yn y labordy yn ogystal ag o bell.
Prosiectau
- Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, Datblygu System Realiti Rhithwir Ffisiotherapi-Ddeallus, Chwefror 2021 am 6 mis, (Mohammad Al-Amri (Prif Ymchwilydd) & Kate Button (ymgeisydd))
- Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Raglen INTERREG Ffrainc (Channel) Lloegr, Prosiect Dyfais Wisgadwy Rhybudd Cynnar (EWWD): Datrysiad monitro o bell arloesol sy'n cefnogi cleifion ag anhwylderau cyhyrysgerbydol a diabetes, sydd hefyd yn cynnig effeithlonrwydd o ran rheoli anhwylderau'n glinigol, Mis Hydref 2020 am 30 mis, (Mohammad Al-Amri (Prif Ymchwilydd) a Kate Button (ymgeisydd))
- Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, Personoli’r gwaith o adsefydlu yn achos anafiadau sy'n gysylltiedig â symudiadau’r corff drwy ddyfeisiadau electronig gwisgadwy, Ionawr 2021-Ionawr 2022, (Mohammad Al-Amri (Prif Ymchwilydd) & Kate Button (ymgeisydd))
- Gwobr ymchwil Symudedd a Sgiliau, Cymorth Strategol i Sefydliadau, Ymddiriedolaeth Wellcome, Cydweithrediad Ymchwil ar y Cyd â'r Grŵp Ymchwil ym Mhrifysgol Melbourne: Y graddau y bydd pecyn cymorth realiti rhithwir cludadwy i bobl â phoen pen-glin yn ddefnyddiol ac yn dderbyniol, Ionawr- Mehefin 2020, (Mohammad Al-Amri (Prif Ymchwilydd) a Kate Button (ymgeisydd)
- Dyfarniad Sbarduno Athrofa Peirianneg a Thrwsio Meinwe Caerdydd, "Datblygu gêm ffisiotherapi realiti rhithwir cludadwy er mwyn Adfer y Pen-glin", Awst 2019 – Ionawr 2020, (Mohammad Al-Amri (Prif Ymchwilydd) & Kate Button (ymgeisydd)
- Gwobr Prawf o Gysyniad Ymgysylltu â'r Cyhoedd Cymorth Strategol i Sefydliadau, Ymddiriedolaeth Wellcome, "Gwerthusiad rhanddeiliaid o becyn cymorth symudiadau sy’n seiliedig ar synwyryddion at ddibenion ffisiotherapi cyflyrau’r pen-glin: dull Cymru gyfan", Awst 2018 – Awst 2019, (Mohammad Al-Amri (Prif Ymchwilydd) a Kate Button (ymgeisydd)
- Gwaith ar y cyd i feithrin capasiti ymchwil yng Nghymru, "Profiad cleifion o ffisiotherapi sy’n defnyddio dull o roi adborth am symudiadau biofecanyddol drwy ddefnyddio technoleg synwyryddion gwisgadwy", Gorffennaf 2018 – Mehefin 2019, (Kate Button (Prif Ymchwilydd))
Cwrdd â'r tîm
Arweinydd yr Uned
Dr Mohammad Al-Amri
- al-amrim@cardiff.ac.uk
- +44 (0)29 206 87115
Staff academaidd
Yr Athro Kate Button
- buttonk@cardiff.ac.uk
- +44 (0)29 206 87734
Cyhoeddiadau
- Holden, M. A. et al., 2021. Guidance for implementing best practice therapeutic exercise for people with knee and hip osteoarthritis: what does the current evidence base tell us?. Arthritis Care and Research 73 (12), pp.1746-1753. (10.1002/acr.24434)
- Cudejko, T. et al. 2021. Applications of wearable technology in a real-life setting in people with knee osteoarthritis: a systematic scoping review. Journal of Clinical Medicine 10 (23) 5645. (10.3390/jcm10235645)
- Islam, R. et al., 2020. Non-proprietary movement analysis software using wearable inertial measurement units on both healthy participants and those with anterior cruciate ligament reconstruction across a range of complex tasks: validation study. JMIR mHealth and uHealth 8 (6) e17872. (10.2196/17872)
- Abdallat, R. et al., 2020. Dual-task effects on performance of gait and balance in people with knee pain: a systematic scoping review. Journal of Clinical Medicine 9 (5) 1554. (10.3390/jcm9051554)
- Wan, Y. et al., 2019. Effect of visual feedback on the performance of the star excursion balance test. Journal of Rehabilitation and Assistive Technologies Engineering 6 , pp.1-6. (10.1177/2055668319862139)
- Nicholas, K. et al. 2019. A qualitative evaluation of physiotherapists acceptability of a clinical sensor based approach to movement feedback rehabilitation. Osteoarthritis and Cartilage 27 (S1), pp.S447-S448. (10.1016/j.joca.2019.02.483)
- Al-Amri, M. and Button, K. 2019. Transforming physiotherapy rehabilitation: development of a sensor based portable movement analysis intervention. Presented at: 17th Asian Federation of Sports Medicine Congress Riyadh, Saudi Arabia 13-15th December 2019. , pp.-.
- Felemban, M. et al. 2019. Comparison of joint kinematics measurements during single leg distance hop by using body-worn sensors and video camera motion analysis.. Presented at: Physiotherapy UK Birmingham 1-2 November 2019. , pp.-.
- Wan, Y. et al., 2019. Effect of slope squat on lower-extremity muscle activity. Presented at: ISPGR World Congress Edinburgh, Scotland, U.K. 30 June - 4th July 2019. , pp.-.
- Al-Amri, M. et al. 2018. Inertial measurement units for clinical movement analysis: reliability and concurrent validity. Sensors 18 (3) 719. (10.3390/s18030719)
- Nicholas, K. et al. 2018. Sensor-informed physiotherapy following anterior cruciate ligament reconstruction: a case report. Presented at: 17th Annual Meeting of the Clinical Movement Analysis Society Dublin 12-13 April 2018.
Digwyddiadau
Technoleg Gymhwysol wrth Ddadansoddi Symudiadau Dynol Clinigol: Nod y cwrs dau ddiwrnod hwn yw rhoi hyfforddiant cynhwysfawr am egwyddorion technoleg glinigol sy'n hanfodol i ddatblygiad ffisiotherapi.
Newyddion
Gweler ein 'tudalen Blog SPIN' i gael y newyddion diweddaraf am ein hymchwil.
Twitter: @SPINCardiff
Ysgolion
Delweddau
Camau nesaf
Ymchwil sy’n gwneud gwahaniaeth
Mae ein hymchwil yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl wrth i ni gweithio ar draws disgyblaethau er mwyn ymgodymu â phrif heriau sy’n wynebu’r gymdeithas, yr economi ac ein hamgylchedd.
Ymchwil ôl-raddedig
Mae ein graddau ymchwil yn rhoi'r rhyddid i chi i archwilio pwnc arbennig mewn dyfnder ymhlith ymchwilwyr blaenllaw.
Ein heffaith ymchwil
Mae'r astudiaethau achos hyn yn rhoi sylw i rai o'r meysydd lle rydym yn cael effaith ymchwil gadarnhaol.