Ewch i’r prif gynnwys

Roedd Richard Price yn un o benseiri’r byd modern—athronydd, meddylwr gwleidyddol a pholymath.

Awgrymodd ei gofiant y byddai’n cael ei gofio ochr yn ochr â Jefferson, Lafayette, a Washington. Ef yw meddylwr mwyaf Cymru, ac yn dilyn dathliadau tri chanmlwyddiant ei eni yn 2023, mae Prifysgol Caerdydd wedi mabwysiadu cymdeithas yn ei enw.

Bydd gweithgareddau’r Gymdeithas yn adlewyrchu ysbryd gyrfa Price fel deallusyn cyhoeddus, gan gyfrannu at ddatblygiadau ar draws sawl disgyblaeth. Bydd yn gweithredu fel canolfan ar gyfer ymchwil rhyngddisgyblaethol sy’n canolbwyntio ar bolisi, gyda golwg athronyddol, beirniadol, gan edrych i’r dyfodol. Bydd ymgysylltu cyhoeddus yn ganolog i’w genhadaeth, gan ategu a chydweithio gyda chyrff eraill sy’n canolbwyntio ar bolisi yng Nghymru, i feithrin meddwl gwreiddiol ac arloesol.

Ar yr un pryd, bydd y Gymdeithas yn gweithredu fel canolbwynt ar gyfer astudio academaidd a chof cyhoeddus Richard Price, gan hyrwyddo trafodaeth ac ymchwil ar hanes deallusol Cymru a’i berthnasedd i faterion polisi cyfoes.

I gyflawni’r nodau hyn, bydd y Gymdeithas yn cynnal Darlith Flynyddol Richard Price, gan fynd i’r afael â materion cyfoes drwy lens hanes deallusol Cymru a’r disgyblaethau a ddylanwadwyd gan Price. Bydd hefyd yn cynhyrchu Cylchlythyr Blog Richard Price a rhestr e-bost gysylltiedig, gan ledaenu’r ymchwil ddiweddaraf ar Price a newyddion am weithgareddau’r Gymdeithas.