Mae'r grŵp yn weithgar iawn o ran rhoi technegau ystadegol ar waith ac o ran theori, fel ei gilydd.
Prif feysydd ymchwil y grŵp cyfredol yw:
- dadansoddi cyfresi amser
- dadansoddi data aml-amrywedd
- cymhwyso ymchwil i’r farchnad
- algorithmau chwilio ac optimeiddio cyffredinol stocastig
- theori rhif tebygoliaethol
- dyluniad arbrofol optimaidd
- prosesau stocastig a hapfeysydd â dibyniaeth wan a chryf
- prosesau lledaenu a hafaliadau differu rhannol gyda hapddata
- lledaeniad afreolaidd
- cynnwrf Burgers a KPZ, hafaliadau ffracsiynol arferol a hafaliadau differu rhannol, a chasgliadau ystadegol gydag uwch-wybodaeth
- dadansoddi gwerthoedd eithafol
Ystyrir hefyd bynciau amrywiol ym maes pysgodfeydd ac ystadegaeth feddygol, megis cyfeiliornadau yn atchweliadau newidynnau.
Cydweithrediadau
Mae ystadegwyr yn yr Ysgol wedi bod yn flaenllaw o ran cydweithio ag ymchwilwyr mewn disgyblaethau eraill. Ceir cysylltiadau cryf â’r canlynol:
- yr Ysgol Meddygaeth, o ran gweithio ar gymhwyso ystadegau aml-amrywedd a dadansoddi cyfresi amser ym maes biowybodeg
- yr Ysgol Peirianneg, ym meysydd prosesu delweddau ac optimeiddio stocastig cyffredinol yn achos systemau cymhleth
- yr Ysgol Busnes, ym maes dadansoddi cyfresi amser economeg.
Mae yna gydweithrediadau rhyngwladol parhaus yn bodoli â nifer o brifysgolion, gan gynnwys Prifysgolion Columbia, Taiwan, Queensland, Aarhus, Roma, Cleveland, Pau, Hokkaido, Boston, Caen, Calambria, Maine, Trento, Nice, Bratislava, Linz, St. Petersburg, Troyes, Vilnius, Siegen, Mannheim, a Copenhagen.
Nawdd diwydiannol
Cafwyd nawdd diwydiannol sylweddol gan:
- Procter and Gamble (UDA) yn gweithio ar fodelu ystadegol ym maes ymchwil i'r farchnad
- Uned Biometreg SmithKline Beecham yn cydweithio ar agweddau gwahanol ar ystadegau fferyllol
- ACNielsen/BASES (UDA) ar gymhwyso modelau Poisson cymysg wrth astudio ymddygiad defnyddwyr marchnata
- General Electric HealthCare ar ystadegau amgylcheddol
Ymchwil
Prif feysydd ymchwil y grŵp cyfredol yw:
- dadansoddi cyfresi amser
- dadansoddi data aml-amrywedd
- cymhwyso ymchwil i’r farchnad
- algorithmau chwilio ac optimeiddio cyffredinol stocastig
- theori rhif tebygoliaethol
- dyluniad arbrofol optimaidd
- prosesau stocastig a hapfeysydd â dibyniaeth wan a chryf
- prosesau lledaenu a hafaliadau differu rhannol gyda hapddata
- lledaeniad afreolaidd
- cynnwrf Burgers a KPZ
- hafaliadau ffracsiynol arferol a hafaliadau differu rhannol, a chasgliadau ystadegol gydag uwch-wybodaeth
Ffocws
Dadansoddi cyfresi amser
Dros y blynyddoedd diwethaf, mae techneg bwerus o ddadansoddi cyfresi amser wedi’i datblygu a'i chymhwyso i lawer o broblemau ymarferol. Mae'r dechneg hon yn seiliedig ar y defnydd o ddadelfeniad gwerth hynod matrics y taflwybr, fel y'i gelwir, a gafwyd o'r gyfres amser gychwynnol drwy'r dull oediadau. Ei nod yw ehangu'r gyfres amser wreiddiol yn swm o nifer bach o gydrannau 'annibynnol' a 'deongliadol'.
At hynny, datblygwyd cydweddiadau gofodol y gyfres amser stocastig boblogaidd o’r math cyfartaledd newidiol ymatchwelaidd (ARMA) yn seiliedig ar gyffredinoli ffracsiynol matrics Laplace gyda dau indecs ffractal. Mae'r modelau hyn yn disgrifio nodweddion pwysig prosesau lledaeniadau afreolaidd megis dibyniaeth gref a/neu natur ysbeidiol.
Ystadegaeth aml-amrywedd
Yr amcan yw datblygu methodoleg ar gyfer dadansoddiad ymchwiliol o ddata amser-gofod ac iddynt strwythur cymhleth, gyda’r nod terfynol o ddatblygu modelau parametrig addas.
Mae'r cymwysiadau'n cynnwys amrywiaeth o ddata meddygol, biolegol, peiriannol ac economaidd. Cynhaliwyd nifer o brosiectau ymchwil i'r farchnad, lle roedd datblygu modelau ystadegol yn rhan sylweddol ohonyn nhw.
Optimeiddio cyffredinol stocastig
Boed i ƒ fod yn ffwythiant a roddir ar set gryno d-ddimensiynol X, ac sy’n perthyn i ddosbarth ffwythiannol addas F o ffwythiannau parhaus amleithafol.
Rydyn ni’n ystyried y broblem o'i lleihau, hynny yw brasamcanu pwynt x' fel bod ƒ(x')=min ƒ(x), gan ddefnyddio enrhifiadau o ƒ ar bwyntiau a ddewisir yn arbennig.
Dulliau tebygoliaethol mewn theorïau chwilio a rhif
Gellir mynegi sawl nodwedd ddiddorol o gywirdeb brasamcanion dioffantaidd yn nhermau tebygoliaethol.
Mae nifer o algorithmau brasamcanu dioffantaidd yn cynhyrchu cyfres o setiau F(n), a fynegeir gan n, o rifau cymarebol p/q yn [0,1]. Enghreifftiau enwog o F(n) yw'r dilyniant Farey, y casgliad o rifau cymarebol p/q yn [0,1] gyda q
Prosesau stocastig
Mae dosbarthiadau newydd o brosesau stocastig â dosraniadau myfyrwyr a mathau amrywiol o strwythur dibyniaeth wedi’u cyflwyno a’u hastudio. Cymhelliant penodol yw’r broses o fodelu asedau risg sydd â dibyniaeth gref drwy amser gweithgarwch ffractalau.
Cafodd y ddamcaniaeth asymptotig o amcangyfrif paramedrau prosesau stocastig a hapfeysydd eu datblygu gan ddefnyddio uwch-wybodaeth (hynny yw, gwybodaeth sydd ar yr uwch-sbectra croniadau). Mae’r ddamcaniaeth hon yn caniatáu inni ddadansoddi modelau aflinol a modelau nad ydyn nhw’n rhai Gaussaidd yn achos dibyniaeth cyrhaeddiad byr a phellgyrhaeddol, fel ei gilydd.
Problem cynnwrf Burgers
Mae datrysiadau dadansoddol penodol o hafaliad Burgers â photensial cwadratig wedi cael eu deillio a'u defnyddio i ymdrin â chanlyniadau deddfau graddio ar gyfer problem cynnwrf Burgers â photensial cwadratig a hapamodau cychwynnol o’r math Ornstein-Uhlenbeck a yrrir gan sŵn Lévy.
Mae gan y canlyniadau dichonadwy botensial sylweddol ar gyfer y dull stocastig o fodelu cyfresi arsylwadol o amryw o feysydd, er enghraifft cynnwrf neu ledaeniad afreolaidd.
Pynciau ym maes ystadegaeth feddygol
Mae nifer o bynciau wedi bod yn gysylltiedig ag ystadegaeth feddygol, ac yr ymchwilir iddyn nhw ym Mhrifysgol Caerdydd ar hyn o bryd, gan gynnwys ystodau cyfeirio amser-benodol, yn ogystal â chyfeiliornadau yn atchweiladau newidynnau. Mae ymchwil gyfredol yn canolbwyntio ar chwilio am fethodoleg a dull unedig o fynd i’r afael â’r cyfeiliornadau mewn problemau sy’n cynnwys newidynnau.
Dadansoddi Gwerthoedd Eithafol
Mae dadansoddi gwerthoedd eithafol yn gangen o debygolrwydd ac ystadegaeth sy'n darparu gweithdrefnau nad ydyn nhw’n barametrig ar gyfer allosod y tu hwnt i ystod y data (mae hefyd yn fater pwysig gwybod beth yw’r terfynau, a hynny gystal â phosibl ac yn dibynnu ar ansawdd y data). Mae ei ddulliau fel arfer yn berthnasol i sefydliadau sy'n wynebu risgiau uchel, er enghraifft gwasanaethau ariannol a chwmnïau yswiriant neu sefydliadau peirianneg amgylcheddol.
Dyma’r tîm
Yr Athro Jon Gillard
Athro Ystadegau a Gwyddor Data
Dirprwy Bennaeth yr Ysgol
Dr Kirstin Strokorb
Uwch Ddarlithydd; Dirprwy Gyfarwyddwr Ymchwil Ôl-raddedig
Digwyddiadau
Seminarau
Bydd pob seminar yn cael ei chynnal ar-lein dros Zoom ac yn dechrau am 14:10 bob dydd Iau (oni nodir fel arall).
Bwriwch olwg ar galendr y seminarau Ystadegau a’r grŵp Ymchwil Agored.
Caiff y calendr ei gynnal gan aelodau o’r grwpiau ymchwil yn annibynnol.
I gael rhagor o wybodaeth am Ymchwil Weithredol neu ddarlithoedd Sefydliad Gwyddorau Cyfrifiadurol a Mathemategol Cymru (WIMCS), cysylltwch â Dr Mark Tuson. Am fanylion ynghylch y darlithoedd ystadegaeth, cysylltwch â Bertrand Gauthier a Kirstin Strokorb.
Digwyddiadau yn y gorffennol
Camau nesaf
Ymchwil sy’n gwneud gwahaniaeth
Mae ein hymchwil yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl wrth i ni gweithio ar draws disgyblaethau er mwyn ymgodymu â phrif heriau sy’n wynebu’r gymdeithas, yr economi ac ein hamgylchedd.
Ymchwil ôl-raddedig
Mae ein graddau ymchwil yn rhoi'r rhyddid i chi i archwilio pwnc arbennig mewn dyfnder ymhlith ymchwilwyr blaenllaw.
Ein heffaith ymchwil
Mae'r astudiaethau achos hyn yn rhoi sylw i rai o'r meysydd lle rydym yn cael effaith ymchwil gadarnhaol.