Ewch i’r prif gynnwys

Grŵp Ymchwil Ystadegaeth

Mae'r grŵp yn weithgar o ran cymhwyso technegau ystadegol ac mewn theori.

Mae'r grŵp yn weithgar iawn o ran rhoi technegau ystadegol ar waith ac o ran theori, fel ei gilydd.

Prif feysydd ymchwil y grŵp cyfredol yw:

  • dadansoddi cyfresi amser
  • dadansoddi data aml-amrywedd
  • cymhwyso ymchwil i’r farchnad
  • algorithmau chwilio ac optimeiddio cyffredinol stocastig
  • theori rhif tebygoliaethol
  • dyluniad arbrofol optimaidd
  • prosesau stocastig a hapfeysydd â dibyniaeth wan a chryf
  • prosesau lledaenu a hafaliadau differu rhannol gyda hapddata
  • lledaeniad afreolaidd
  • cynnwrf Burgers a KPZ, hafaliadau ffracsiynol arferol a hafaliadau differu rhannol, a chasgliadau ystadegol gydag uwch-wybodaeth
  • dadansoddi gwerthoedd eithafol

Ystyrir hefyd bynciau amrywiol ym maes pysgodfeydd ac ystadegaeth feddygol, megis cyfeiliornadau yn atchweliadau newidynnau.

Cydweithrediadau

Mae ystadegwyr yn yr Ysgol wedi bod yn flaenllaw o ran cydweithio ag ymchwilwyr mewn disgyblaethau eraill. Ceir cysylltiadau cryf â’r canlynol:

  • yr Ysgol Meddygaeth, o ran gweithio ar gymhwyso ystadegau aml-amrywedd a dadansoddi cyfresi amser ym maes biowybodeg
  • yr Ysgol Peirianneg, ym meysydd prosesu delweddau ac optimeiddio stocastig cyffredinol yn achos systemau cymhleth
  • yr Ysgol Busnes, ym maes dadansoddi cyfresi amser economeg.

Mae yna gydweithrediadau rhyngwladol parhaus yn bodoli â nifer o brifysgolion, gan gynnwys Prifysgolion Columbia, Taiwan, Queensland, Aarhus, Roma, Cleveland, Pau, Hokkaido, Boston, Caen, Calambria, Maine, Trento, Nice, Bratislava, Linz, St. Petersburg, Troyes, Vilnius, Siegen, Mannheim, a Copenhagen.

Nawdd diwydiannol

Cafwyd nawdd diwydiannol sylweddol gan:

  • Procter and Gamble (UDA) yn gweithio ar fodelu ystadegol ym maes ymchwil i'r farchnad
  • Uned Biometreg SmithKline Beecham yn cydweithio ar agweddau gwahanol ar ystadegau fferyllol
  • ACNielsen/BASES (UDA) ar gymhwyso modelau Poisson cymysg wrth astudio ymddygiad defnyddwyr marchnata
  • General Electric HealthCare ar ystadegau amgylcheddol

Ymchwil

Prif feysydd ymchwil y grŵp cyfredol yw:

  • dadansoddi cyfresi amser
  • dadansoddi data aml-amrywedd
  • cymhwyso ymchwil i’r farchnad
  • algorithmau chwilio ac optimeiddio cyffredinol stocastig
  • theori rhif tebygoliaethol
  • dyluniad arbrofol optimaidd
  • prosesau stocastig a hapfeysydd â dibyniaeth wan a chryf
  • prosesau lledaenu a hafaliadau differu rhannol gyda hapddata
  • lledaeniad afreolaidd
  • cynnwrf Burgers a KPZ
  • hafaliadau ffracsiynol arferol a hafaliadau differu rhannol, a chasgliadau ystadegol gydag uwch-wybodaeth

Ffocws

Dadansoddi cyfresi amser

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae techneg bwerus o ddadansoddi cyfresi amser wedi’i datblygu a'i chymhwyso i lawer o broblemau ymarferol. Mae'r dechneg hon yn seiliedig ar y defnydd o ddadelfeniad gwerth hynod matrics y taflwybr, fel y'i gelwir, a gafwyd o'r gyfres amser gychwynnol drwy'r dull oediadau. Ei nod yw ehangu'r gyfres amser wreiddiol yn swm o nifer bach o gydrannau 'annibynnol' a 'deongliadol'.

At hynny, datblygwyd cydweddiadau gofodol y gyfres amser stocastig boblogaidd o’r math cyfartaledd newidiol ymatchwelaidd (ARMA) yn seiliedig ar gyffredinoli ffracsiynol matrics Laplace gyda dau indecs ffractal. Mae'r modelau hyn yn disgrifio nodweddion pwysig prosesau lledaeniadau afreolaidd megis dibyniaeth gref a/neu natur ysbeidiol.

Ystadegaeth aml-amrywedd

Yr amcan yw datblygu methodoleg ar gyfer dadansoddiad ymchwiliol o ddata amser-gofod ac iddynt strwythur cymhleth, gyda’r nod terfynol o ddatblygu modelau parametrig addas.

Mae'r cymwysiadau'n cynnwys amrywiaeth o ddata meddygol, biolegol, peiriannol ac economaidd. Cynhaliwyd nifer o brosiectau ymchwil i'r farchnad, lle roedd datblygu modelau ystadegol yn rhan sylweddol ohonyn nhw.

Optimeiddio cyffredinol stocastig

Boed i ƒ fod yn ffwythiant a roddir ar set gryno d-ddimensiynol X, ac sy’n perthyn i ddosbarth ffwythiannol addas F o ffwythiannau parhaus amleithafol.

Rydyn ni’n ystyried y broblem o'i lleihau, hynny yw brasamcanu pwynt x' fel bod ƒ(x')=min ƒ(x), gan ddefnyddio enrhifiadau o ƒ ar bwyntiau a ddewisir yn arbennig.

Dulliau tebygoliaethol mewn theorïau chwilio a rhif

Gellir mynegi sawl nodwedd ddiddorol o gywirdeb brasamcanion dioffantaidd yn nhermau tebygoliaethol.

Mae nifer o algorithmau brasamcanu dioffantaidd yn cynhyrchu cyfres o setiau F(n), a fynegeir gan n, o rifau cymarebol p/q yn [0,1]. Enghreifftiau enwog o F(n) yw'r dilyniant Farey, y casgliad o rifau cymarebol p/q yn [0,1] gyda q

Prosesau stocastig

Mae dosbarthiadau newydd o brosesau stocastig â dosraniadau myfyrwyr a mathau amrywiol o strwythur dibyniaeth wedi’u cyflwyno a’u hastudio. Cymhelliant penodol yw’r broses o fodelu asedau risg sydd â dibyniaeth gref drwy amser gweithgarwch ffractalau.

Cafodd y ddamcaniaeth asymptotig o amcangyfrif paramedrau prosesau stocastig a hapfeysydd eu datblygu gan ddefnyddio uwch-wybodaeth (hynny yw, gwybodaeth sydd ar yr uwch-sbectra croniadau). Mae’r ddamcaniaeth hon yn caniatáu inni ddadansoddi modelau aflinol a modelau nad ydyn nhw’n rhai Gaussaidd yn achos dibyniaeth cyrhaeddiad byr a phellgyrhaeddol, fel ei gilydd.

Problem cynnwrf Burgers

Mae datrysiadau dadansoddol penodol o hafaliad Burgers â photensial cwadratig wedi cael eu deillio a'u defnyddio i ymdrin â chanlyniadau deddfau graddio ar gyfer problem cynnwrf Burgers â photensial cwadratig a hapamodau cychwynnol o’r math Ornstein-Uhlenbeck a yrrir gan sŵn Lévy.

Mae gan y canlyniadau dichonadwy botensial sylweddol ar gyfer y dull stocastig o fodelu cyfresi arsylwadol o amryw o feysydd, er enghraifft cynnwrf neu ledaeniad afreolaidd.

Pynciau ym maes ystadegaeth feddygol

Mae nifer o bynciau wedi bod yn gysylltiedig ag ystadegaeth feddygol, ac yr ymchwilir iddyn nhw ym Mhrifysgol Caerdydd ar hyn o bryd, gan gynnwys ystodau cyfeirio amser-benodol, yn ogystal â chyfeiliornadau yn atchweiladau newidynnau. Mae ymchwil gyfredol yn canolbwyntio ar chwilio am fethodoleg a dull unedig o fynd i’r afael â’r cyfeiliornadau mewn problemau sy’n cynnwys newidynnau.

Dadansoddi Gwerthoedd Eithafol

Mae dadansoddi gwerthoedd eithafol yn gangen o debygolrwydd ac ystadegaeth sy'n darparu gweithdrefnau nad ydyn nhw’n barametrig ar gyfer allosod y tu hwnt i ystod y data (mae hefyd yn fater pwysig gwybod beth yw’r terfynau, a hynny gystal â phosibl ac yn dibynnu ar ansawdd y data). Mae ei ddulliau fel arfer yn berthnasol i sefydliadau sy'n wynebu risgiau uchel, er enghraifft gwasanaethau ariannol a chwmnïau yswiriant neu sefydliadau peirianneg amgylcheddol.

Dyma’r tîm

No picture for Ahlam Alghamdi

Ahlam Alghamdi

Myfyriwr ymchwil

Email
AlghamdiAS4@caerdydd.ac.uk
No picture for Amal Saeed S Alqarni Alqarni

Mrs Amal Saeed S Alqarni Alqarni

Myfyriwr ymchwil

Email
AlqarniA8@caerdydd.ac.uk
Picture of Jonathan Gillard

Yr Athro Jonathan Gillard

Athro Ystadegau/Gwyddor Data
Dirprwy Bennaeth yr Ysgol

Telephone
+44 29208 70619
Email
GillardJW@caerdydd.ac.uk
Picture of Daniel Hambly

Mr Daniel Hambly

Arddangoswr Graddedig

Email
HamblyDJ@caerdydd.ac.uk
No picture for Manuel Leal Diez Leal Diez

Mr Manuel Leal Diez Leal Diez

Myfyriwr ymchwil

Email
LealDiezM@caerdydd.ac.uk
No picture for Xiangyun Meng Meng

Mr Xiangyun Meng Meng

Myfyriwr ymchwil

Email
MengX10@caerdydd.ac.uk
Picture of Kirstin Strokorb

Dr Kirstin Strokorb

Uwch Ddarlithydd; Dirprwy Gyfarwyddwr Ymchwil Ôl-raddedig

Telephone
+44 29206 88833
Email
StrokorbK@caerdydd.ac.uk

Digwyddiadau

Seminarau

Bydd pob seminar yn cael ei chynnal ar-lein dros Zoom ac yn dechrau am 14:10 bob dydd Iau (oni nodir fel arall).

Bwriwch olwg ar galendr y seminarau Ystadegau a’r grŵp Ymchwil Agored.

Caiff y calendr ei gynnal gan aelodau o’r grwpiau ymchwil yn annibynnol.

I gael rhagor o wybodaeth am Ymchwil Weithredol neu ddarlithoedd Sefydliad Gwyddorau Cyfrifiadurol a Mathemategol Cymru (WIMCS), cysylltwch â Dr Mark Tuson. Am fanylion ynghylch y darlithoedd ystadegaeth, cysylltwch â Bertrand Gauthier a Kirstin Strokorb.

Digwyddiadau yn y gorffennol

Seminarau blaenorol 2019-20

Seminarau blaenorol 2018-19

Seminarau blaenorol 2017-18

Seminarau blaenorol 2016-17

Seminarau blaenorol 2015-16

Camau nesaf

Ymchwil sy’n gwneud gwahaniaeth

Mae ein hymchwil yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl wrth i ni gweithio ar draws disgyblaethau er mwyn ymgodymu â phrif heriau sy’n wynebu’r gymdeithas, yr economi ac ein hamgylchedd.

Ymchwil ôl-raddedig

Mae ein graddau ymchwil yn rhoi'r rhyddid i chi i archwilio pwnc arbennig mewn dyfnder ymhlith ymchwilwyr blaenllaw.

Ein heffaith ymchwil

Mae'r astudiaethau achos hyn yn rhoi sylw i rai o'r meysydd lle rydym yn cael effaith ymchwil gadarnhaol.