Ewch i’r prif gynnwys

Rydym yn defnyddio technegau synhwyro o bell blaengar i ddadansoddi setiau data mawr, gan ddatgloi gwybodaeth newydd ar gyfer monitro amgylcheddol a meysydd eraill.

Mae ein grŵp ymchwil yn canolbwyntio ar ddatblygu technegau arloesol ar gyfer dadansoddi a dehongli delweddau a data synhwyro o bell. Mae ein hymchwil yn pontio’r bwlch rhwng uwch-ddulliau cyfrifiadurol a chymwysiadau go iawn, gan sbarduno cynnydd mewn meysydd fel monitro amgylcheddol, monitro arfordirol a morol, bioamrywiaeth, a gwybodeg bywyd gwyllt.

Nodau

  • Uwch-dechnolegau Synhwyro o Bell: Arloesi algorithmau a methodolegau newydd sy'n gwella cywirdeb ac effeithlonrwydd dadansoddiadau data synhwyro o bell.
  • Effaith Go Iawn: Cymhwyso ymchwil flaengar i ddatrys heriau byd-eang hollbwysig, fel newid hinsawdd, cadwraeth ecosystemau arfordirol a morol, a chadwraeth bioamrywiaeth, trwy benderfyniadau gwell sy'n cael eu llywio gan ddata.
  • Cydweithio Rhyngddisgyblaethol: Meithrin partneriaethau gyda rhanddeiliaid academaidd, llywodraethol a diwydiannol, gan sicrhau bod ein hymchwil yn berthnasol o safbwynt academaidd ac ymarferol.
  • Diogelwch Deallusrwydd Artiffisial (AI) ac AI Cyfrifol: Datblygu a hyrwyddo arferion AI diogel a chyfrifol mewn synhwyro o bell, gan sicrhau bod ein harloesiadau’n foesegol, yn ddeongladwy, yn dryloyw ac yn fuddiol i gymdeithas.

Ymchwil

Monitro Arfordirol a Morol

  • Canfod llongau a'u holion, adnabod llongau
  • Canfod malurion morol
  • Dadansoddi llanw arfordirol, paratoi ar gyfer trychinebau ac ymateb iddynt
  • Modelu wyneb y môr a thonnau yn ystadegol

Synhwyro o Bell Aml-foddol

  • Dadansoddi a mapio ansawdd aer
  • Rhagfynegi cynnyrch cnwd
  • Dosbarthu gorchudd tir a defnydd tir

Bioamrywiaeth, Bywyd Gwyllt a Choedwigoedd

  • Arsyllfa Coedwig – dadansoddi iechyd coedwigoedd a datgoedwigo
  • Dadansoddi goferu milheintiol
  • Dadansoddi effeithiau gwrthrychau dynol ar fudo anifeiliaid a llwybrau bwydo
  • Monitro newid a dirywiad bioamrywiaeth

Dadansoddi Delweddau Uwch

  • Ychydig o oruchwyliaeth
  • Dysgu peirianyddol sy'n canolbwyntio ar ddata
  • Dysgu dan oruchwyliaeth rannol
  • Cymwysiadau model sylfaenol (e.e. SAM) ar gyfer ymateb i drychinebau
  • AI Cyfrifol – algorithmau deongliadol a chyfrifol gydag ansicrwydd wedi’i fesur

Prosiectau

  • Chwyldroi Rhagfynegi Epidemigau: Integreiddiad Newydd Delweddaeth Lloeren a Gwyddor Gymdeithasol ar gyfer Rhagweld Digwyddiadau Goferu Milheintiol yn y Cyfnod o Newid Anthropogenig - Efrydiaeth CDT OneZoo (Cydweithrediad gyda BIOSC ac ONS) - 2024 - parhaus
  • Synhwyro o bell aml-raddfa a yrrir gan AI: o’r unigolyn i’r ecosystem ac yn ôl etoCyllid Sbarduno Caerdydd-Wyoming (Cydweithrediad gyda Phrifysgol Wyoming) – 2023 – 2024

Prif ymchwilydd

Staff academaidd

Picture of Omer Rana

Yr Athro Omer Rana

Deon Rhyngwladol y Dwyrain Canol
Athro Peirianneg Perfformiad

Telephone
+44 29208 75542
Email
RanaOF@caerdydd.ac.uk
Picture of Paul Rosin

Yr Athro Paul Rosin

Athro Golwg Cyfrifiadurol

Telephone
+44 29208 75585
Email
RosinPL@caerdydd.ac.uk
Picture of Kirill Sidorov

Dr Kirill Sidorov

Uwch Ddarlithydd mewn Cyfrifiadureg, Dirprwy Gyfarwyddwr Ymchwil Ôl-raddedig

Telephone
+44 29208 76925
Email
SidorovK@caerdydd.ac.uk

Myfyrwyr ôl-raddedig

Camau nesaf

Ymchwil sy’n gwneud gwahaniaeth

Mae ein hymchwil yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl wrth i ni gweithio ar draws disgyblaethau er mwyn ymgodymu â phrif heriau sy’n wynebu’r gymdeithas, yr economi ac ein hamgylchedd.

Ymchwil ôl-raddedig

Mae ein graddau ymchwil yn rhoi'r rhyddid i chi i archwilio pwnc arbennig mewn dyfnder ymhlith ymchwilwyr blaenllaw.

Ein heffaith ymchwil

Mae'r astudiaethau achos hyn yn rhoi sylw i rai o'r meysydd lle rydym yn cael effaith ymchwil gadarnhaol.