Treuliwyd y ganrif ddiwethaf yn ceisio deall egwyddorion mecaneg cwantwm. Yn y ganrif nesaf, bydd yr egwyddorion hynny’n cael eu harneisio, eu rheoli a’u defnyddio ar gyfer cymwysiadau ymarferol.
Bydd yr astudiaeth sylfaenol o effeithiau mecanyddol cwantwm mewn deunyddiau sylfaenol, ffotoneg, a dyfeisiau electronig yn sail i baradeimau'r dyfodol megis prosesu gwybodaeth cwantwm, cryptograffeg cwantwm, ac electroneg y dyfodol.
Bydd cymhwyso egwyddorion mecaneg cwantwm a’u profi’n drylwyr yn parhau i wella ein dealltwriaeth o ddeunyddiau cwantwm ac yn ein galluogi i ddarganfod sut y byddai modd eu defnyddio, ac nid yw’r cyfyngiadau ar hynny’n hysbys eto.
Mae ein hymchwil yn trin a thrafod potensial deunyddiau cwantwm yn y dyfodol a sut y gall eu priodweddau gael eu defnyddio. Rydyn ni’n anelu i’n gwaith fod ar flaen y gad yn y maes cyffrous hwn ac yn gobeithio y bydd iddo oblygiadau dwys i’r gymuned wyddonol a’n dealltwriaeth o’r bydysawd.
Wedi’u lleoli yn y cyfleusterau ymchwil rhagorol yn yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth, mae ein staff yn ymwneud â nifer o brosiectau ymchwil parhaus ar hyn o bryd, yn ogystal â chefnogi’r ymchwil ôl-raddedig hynod weithgar yn yr Ysgol.
Prosiectau
- Cydlynu a Chyplu Dotiau Cwantwm Unigol
- Diraddio ym maes Dotiau Cwantwm
- Datblygu dyfais metaddeunydd ar gyfer dyfeisiau lled-optegol
- Dyfeisiau Cwantwm sy’n Seiliedig ar Droelli a Gwefru
- Dargludiad Moleciwlau Unigol
- Ffiseg Laserau Dotiau Cwantwm InAs
- Electrodynameg Ceudodau Cwantwm gyda Dotiau Cwantwm
- Magnetedd rhwystredig
Cwrdd â’r tîm
Academyddion
Yr Athro Wolfgang Langbein
Head of Condensed Matter and Photonics
Yr Athro Stephen Lynch
Dirprwy Bennaeth yr Ysgol
Grŵp Deunyddiau Quantum
Dr Sam Shutts
Uwch Ddarlithydd
Grŵp Mater Cyddwysedig a Ffotoneg
Yr Athro Peter Smowton
Rheolwr Gyfarwyddwr Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd
Yr Athro Carole Tucker
Astronomy Instrumentation Group
Cardiff Hub for Astrophysics Research and Technology
Yr Athro Oliver Williams
Cadair
Grŵp Mater Cyddwysedig a Ffotoneg
Staff cysylltiedig
Professor Peter Ade
Emeritus Professor
Astronomy Instrumentation Group
Cardiff Hub for Astrophysics Research and Technology
Professor Peter Blood
Honorary Distinguished Professor
Unedau ymchwil
Ysgolion
Delweddau
Camau nesaf
Ymchwil sy’n gwneud gwahaniaeth
Mae ein hymchwil yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl wrth i ni gweithio ar draws disgyblaethau er mwyn ymgodymu â phrif heriau sy’n wynebu’r gymdeithas, yr economi ac ein hamgylchedd.
Ymchwil ôl-raddedig
Mae ein graddau ymchwil yn rhoi'r rhyddid i chi i archwilio pwnc arbennig mewn dyfnder ymhlith ymchwilwyr blaenllaw.
Ein heffaith ymchwil
Mae'r astudiaethau achos hyn yn rhoi sylw i rai o'r meysydd lle rydym yn cael effaith ymchwil gadarnhaol.