Ewch i’r prif gynnwys

Nodau

Ein prif nodau yw adeiladu partneriaethau a chydweithrediadau newydd, rhannu adnoddau, hyrwyddo cyfnewid gwybodaeth, grymuso cymunedau lleol, hyrwyddo gwybodaeth flaengar ynghylch darparu, dylunio, defnyddio a rheoli mannau cyhoeddus, a llywio damcaniaethau, arferion a pholisïau cysylltiedig.

Ymchwil

Mae mannau cyhoeddus yn chwarae rhan allweddol yn yr Agenda Drefol Newydd. Mae cydnabyddiaeth fyd-eang gynyddol bod mannau cyhoeddus yn agwedd sylweddol ar ansawdd bywyd trefol ac mae'n elfen allweddol o ddatblygu trefol cynaliadwy.

Fodd bynnag, gyda globaleiddio, datblygiadau technolegol newydd, a chynyddu amrywiaeth gymdeithasol, mae mannau cyhoeddus yn datblygu ffurfiau, ystyron a rolau newydd, sy'n creu anghenion a gofynion newydd, ac yn newid y ffyrdd y mae bywyd cyhoeddus yn cael ei brofi a'i drafod.

Mae'r cyd-destun newidiol a chymhleth hwn yn dod â heriau newydd i ymchwilwyr, dylunwyr a llunwyr polisi mannau cyhoeddus, gan alw am ragor o ymchwil ac ymarfer i archwilio potensial newydd gofod cyhoeddus ac i ddatblygu rhagor o arferion a pholisïau wedi’u seilio ar ymchwil sy’n ystyried materion cymdeithasol-ddiwylliannol mewn ffordd sensitif, a hynny mewn perthynas â darparu, dylunio, defnyddio a rheoli mannau cyhoeddus.

Prosiectau

Enw’r prosiectAriannwrYmchwilydd(wyr)
Mannau cyhoeddus Llundain yn seilwaith cymdeithasol, a’u rôl yn y gwaith o gefnogi cydlyniant cymdeithasol (2023-2025)Prosiect ar y cyd ag Awdurdod Llundain Fwyaf (2023-25)

Dr Patricia Lopes Simoes Aelbrecht

Professor Gary Bridge

Graffiti yn Trawsnewid Lleoedd Trefol

Cynllun Interniaethau ar y Campws (2023-24)

Dr Hesam Kamalipour

Simon Garnett

Creu naratifau am leoedd ar y cydCyfrif Cyflymu Effaith wedi’i Gysoni UKRI (2023-24)

Dr Nastaran Peimani

Dr Hesam Kamalipour

Yaseen Rehman

Bywyd Cyhoeddus mewn Mannau Trefol sy’n NewidCynllun Interniaethau ar y Campws (2022-23)

Dr Hesam Kamalipour

Dr Nastaran Peimani

Kimberly Yong

Srivrinda Ladha

Trefoldeb Anweledig/Gweladwy: Fframio Mannau Cyhoeddus mewn Cyd-destun Byd-eangCronfa Cymuned GEOPL (2022-23)

Dr Hesam Kamalipour

Cyfiawnder Mannau Cyhoeddus, Cydlyniant Cymdeithasol a Deialog RyngddiwylliannolLleoliadau gwaith yr Academi Dysgu ac Addysgu dros yr haf: Cynllun Interniaethau ar y Campws (2022-23)

Dr Patricia Lopes Simoes Aelbrecht

Jessica Richmond

Pecyn Cymorth Creu Lleoedd i Gymru: Gwella'r amgylchfyd cyhoeddus yn ein trefi a'n dinasoedd'Arloesedd i Bawb’, CCAUC (2021-23)

Dr Patricia Lopes Simoes Aelbrecht

Dr Francesca Sartorio

Dr Wesley Aelbrecht

Michael Corr

Dr Richard Gale

Jessica Richmond

Sanjeev Kumar

Sam Rule

Dylunio Trefol a Mannau CyfarfodCronfa Sbarduno’r Ganolfan Ymchwil Dinasoedd, grant cyfnewid RMIT a chyllid ERCIAA (2018-23)

Dr Patricia Lopes Simoes Aelbrecht

Dr Richard Gale

Professor Gary Bridge

Dr Quentin Stevens

Bywyd Trefol a Dylunio Mannau CyhoeddusCynllun Interniaethau ar y Campws (2021-22)

Dr Hesam Kamalipour

Dr Nastaran Peimani

Naina Manglik

Ymgyrch gofod cyhoeddus Fy Nghaerdydd/Dy GaerdyddLleoliadau gwaith yr Academi Dysgu ac Addysgu dros yr haf: Cynllun Interniaethau ar y Campws (2021-22)

Dr Patricia Lopes Simoes Aelbrecht

Dr Wesley Aelbrecht

Negodi Bywoliaeth a Hawliau mewn Gofod Trefol DadleuolHEFCW Cronfa Ymchwil Heriau Byd-eang (GCRF) (GCRF) 2020

Dr Hesam Kamalipour

Dr Nastaran Peimani

Dr Debdulal Saha

Rhaglenni Dylunio Mannau Cyhoeddus Ewropeaidd gyda Chydlyniant Cymdeithasol a Deialog Ryngddiwylliannol mewn GolwgCUROP 2017 a 2018

Seminar Canolfan Ymchwil Dinasoedd 2017

Grant Cyfnewid RMIT 2018

Dr Patricia Lopes Simoes Aelbrecht

Dr Richard Gale

Yr Athro Gary Bridge

Dr Quentin Stevens

Dr Tuna Tasan-Kok

Yr Athro Tom Nielsen

Cwrdd â’r tîm

Staff academaidd

Cyhoeddiadau

Digwyddiadau’r gorffennol

‘Pam bod mannau cyhoeddus yn cyfr’

Dydd Mercher 21 Chwefror 2024

Siaradwr: Yr Athro Setha Low, Athro Seicoleg Amgylcheddol, Daearyddiaeth, Anthropoleg ac Astudiaethau Menywod, The City University of New York (CUNY), Efrog Newydd

Mae ‘Why Public Space Matters’ yn archwilio i sut mae mannau cyhoeddus yn cyfrannu at lewyrchiant unigol a chymdeithasol.  Yn seiliedig ar 35 mlynedd o waith maes ethnograffig ar fannau casglu, llwybrau cerdded, parciau, marchnadoedd a thraethau yn yr Unol Daleithiau, Costa Rica, yr Ariannin, India, Kenya a Ffrainc, mae'n cyflwyno dealltwriaeth newydd o rôl cyswllt cymdeithasol, diwylliant cyhoeddus ac awyrgylch affeithiol wrth greu lleoedd sy'n hanfodol i fywyd trefol bob dydd. Mae'r ymchwiliad amlddull hwn yn pwysleisio pwysigrwydd mannau cyhoeddus i gyfiawnder cymdeithasol ac arferion democrataidd trwy brofiadau phobl o gynrychiolaeth, cydnabyddiaeth o wahaniaeth, cynhwysiant, a gofal, yn ogystal â chyfleoedd i gystadlu a gwrthsefyll.

Darlith gwestai rhyngwladol gan Dr Redento B. Recio ‘Trefoleddau (Ôl)pandemig yn Asia: Mesurau gwladwriaethol, ymatebion lawr gwlad, a goblygiadau ar gyfer adferiad trefol'

Lleoliad: Ystafell 1.75, Adeilad Morgannwg (De), Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio, Prifysgol Caerdydd

Dyddiad: Dydd Mercher, 15 Tachwedd 2023, 12:00 – 13:00 BST

Crynodeb: Yn fyd-eang, mae cyfyngiadau symudedd a mesurau eraill wedi effeithio ar tua 1.6 biliwn o weithwyr anffurfiol i fynd i'r afael â phandemig COVID-19. Mae'r seminar hon yn archwilio effeithiau'r pandemig ar weithwyr anffurfiol mewn pum megaddinas Asiaidd: Dhaka (Bangladesh), Hyderabad (India), Karachi (Pacistan), Jakarta (Jakarta), a Manila (Philippines). Mae'n esbonio rhai canfyddiadau ymchwil allweddol ar fesurau COVID-19 a arweinir gan y wladwriaeth, gan ddadbacio eu bylchau a'r gwersi a ddysgwyd wrth fynd i'r afael ag anghenion gweithwyr anffurfiol. Mae'r cyflwyniad hefyd yn taflu goleuni ar arferion undod llawr gwlad sydd wedi clustogi effeithiau dinistriol yr argyfwng. Mae'n nodi goblygiadau ymyriadau gwladwriaethol o'r fath, strategaethau adfer, ac ymatebion dan arweiniad dinasyddion ar gyfer cynllunio ar ôl y pandemig, llywodraethu trefol, a damcaniaethu ysgolheigaidd ar ddinasoedd Asiaidd mewn oes o adferiad.

Trefnir y digwyddiad hwn ar y cyd gan y Ganolfan Ymchwil Arsyllfa Mannau Cyhoeddus ac Arsyllfa Ymchwil Anffurfioldeb Prifysgol Caerdydd.

Darlith ryngwladol gan Dr Elek Pafka o'r enw 'Tools for Urbanities: from static density to dynamic intensities'

Lleoliad: Siambr Cyngor Adeilad Morgannwg, Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio, Prifysgol Caerdydd

Dyddiad: Dydd Llun 16 Hydref 2023

Crynodeb: Yn rhan o'r pecynnau cymorth a ddefnyddiwn i lunio amgylcheddau trefol mae metrigau, mapiau, a diagramau a damcaniaethau. Ynghlwm wrth y rhain mae ystod eang o fesurau a chysyniadau ynghylch dwysedd sydd yn aml heb gael eu deall a'u defnyddio'n dda. Mae'r seminar hon yn beirniadu'r diffyg cynnydd o ran datblygu dealltwriaeth o gysyniadau dwysedd penodol mewn perthynas â’r deilliannau cymdeithasol ac amgylcheddol a ddymunir. Wedyn, mae'n amlinellu agenda ymchwil ar ddwysedd trefol sy'n gymesur â'r heriau byd-eang sydd o'n blaenau.

Mae'r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal ar y cyd gan y Grŵp Ymchwil ac Ysgoloriaeth Trefolaeth (WSA) a'r Ganolfan Ymchwil Arsyllfa Mannau Cyhoeddus ym Mhrifysgol Caerdydd.

Trefoldeb Anweledig/Gweladwy (Arddangosfa ffotograffiaeth drefol)

Lleoliad: Cyntedd a choridor canolog Adeilad Morgannwg, Prifysgol Caerdydd

Dyddiad: Mawrth 2023 - Ebrill 2023

Mae'r arddangosfa'n cyflwyno archwiliad gweledol o sut mae lleoedd a mannau cyhoeddus yn cael eu gwneud, eu dadwneud a'u hail-wneud mewn cyd-destun byd-eang. Mae'n cynnwys casgliad wedi'i guradu o ffotograffau du a gwyn a dynnwyd gan Dr Hesam Kamalipour fel rhan o'i brosiect ffotograffiaeth drefol sy'n adrodd straeon, yn archwilio ffurfiau ar drefoldeb ar draws dinasoedd yn y Gogledd a'r De byd-eang.

Cefnogir yr arddangosfa gan Gronfa Gymunedol GEOPL 2022-23.

Fframio Mannau Cyhoeddus mewn Cyd-destun Byd-eang (Digwyddiad trafod ac ymgysylltu)

Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor 1 a 2, Adeilad Morgannwg, Prifysgol Caerdydd

Dyddiad: 25 Ebrill 2023

Bydd arddangosfa Trefoldeb Anweledig/Gweladwy yn dod i ben gyda thrafodaeth banel a digwyddiad ymgysylltu a fydd yn cael ei gynnal rhwng 4pm a 5:30pm ddydd Mawrth 25 Ebrill 2023 yn Ystafelloedd Pwyllgor 1 a 2 Adeilad Morgannwg.

Mae tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn yn rhad ac am ddim ond rhaid eu harchebu ymlaen llaw. Cefnogir y digwyddiad gan Gronfa Gymunedol GEOPL 2022-23.

Ymgyrch Mannau Cyhoeddus Fy Nghaerdydd/Dy Gaerdydd (Digwyddiad Cyhoeddus Prifysgol Caerdydd a drefnwyd gan Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol Abertawe)

Lleoliad: Canolfan Gelfyddydau Chapter, Caerdydd

Dyddiad: 28 Chwefror 2020

Rhoddodd Patricia Aelbrecht, Hesam Kamalipour a Nastaran Peimani gyflwyniad ar Ymgyrch Mannau Cyhoeddus Caerdydd. Nod yr ymgyrch yw codi ymwybyddiaeth y cyhoedd am werth mannau cyhoeddus sydd wedi'u cynllunio a'u defnyddio'n dda.

Y nod yw cael effaith hirdymor ar arferion a pholisïau dylunio, datblygu a rheoli gofod cyhoeddus Caerdydd. Mae hefyd yn bwriadu newid tirwedd a diwylliant ffisegol gofod cyhoeddus Caerdydd a llawer o ddinasoedd eraill Prydain yn y blynyddoedd i ddod.

Darlith ryngwladol gan Dr Debdulal Saha o'r enw ‘Legislating street vending: challenges and alternative development’

Lleoliad: Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio, Prifysgol Caerdydd

Dyddiad: 20 Chwefror 2020

Ystyrir mai gwerthwyr stryd yw un o'r grŵp o weithwyr sy'n fwyaf ymylol, tlawd ac agored i niwed yn yr economi drefol anffurfiol. Mae eu gweithgarwch yn cael ei nodweddu'n fras gan fynediad hawdd, rhwydwaith cymdeithasol cryf, goruchafiaeth y farchnad credyd anffurfiol a chwilio lawer am rent.

Gyda phasio Ddeddf Gwerthwyr Stryd (Diogelu Bywoliaeth a Gwerthu ar y Stryd), 2014, byddai'r gweithgaredd yn cael ei reoleiddio, ei ddiogelu a'i ddwyn o dan y gyfraith. Gyda'r cyfreithlondeb, y cwestiwn yw a fydd y gweithgarwch yn dod yn rhan o'r economi ffurfiol neu a fydd gwerthwyr yn parhau i fodoli mewn ffrâm gyfreithiol ychwanegol?

Gan dynnu ar astudiaeth hydredol ym Mumbai, roedd y sgwrs wedi archwilio'r newidiadau strwythurol y mae'r farchnad strydoedd wedi'u cael, yn bennaf o yrru gan alw i yrru gan gyflenwad.

Darlith ryngwladol gan Dr Debdulal Saha o'r enw 'Public space, politics and survival strategies: Street vendors in urban India’.

Lleoliad: Ysgol Pensaernïaeth Cymru, Prifysgol Caerdydd

Dyddiad: 20 Chwefror 2020

Mae’r broblem a’r drafferth greiddiol i fywoliaeth fregus gwerthwyr stryd yn seiliedig ar sut y defnyddir gofod cyhoeddus. Ar sail data cynradd a gasglwyd ym Mumbai, mae’n trafod sut mae gwerthwyr stryd yn ennill bywoliaeth er gwaethaf diffyg fframweithiau cyfreithiol a sefydliadol priodol, drwy drefniadau yn ôl yr angen, gan greu sefydliadau anffurfiol a thrafod gydag asiantau ffurfiol ac anffurfiol yn yr economi drefol.

Mae gwerthwr stryd yn ymarfer dau fath o fargeinio â’r gofod – un economaidd ac un cymdeithasol. Mae unigolyddiaeth gyda rhesymoledd yn cael ei hymarfer wrth fargeinio’n economaidd i drafod cyfraddau llog ar gredyd a’r cyfraddau llwgrwobrwyo. Mae bargeinio cymdeithasol yn cael ei roi ar waith drwy gyfunoliaeth i feithrin cyd-berthynas gymdeithasol ag asiantau, megis cwsmeriaid, cyd-werthwyr stryd a benthycwyr arian.

Cysylltu â ni

Gallwch gysylltu â ni drwy ebostio pso@caerdydd.ac.uk.

Ysgolion

Yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio

Ysgol daearyddiaeth ddynol gymhwysol ac astudiaethau trefol amlddisgyblaeth ydyn ni.

Y camau nesaf

Ymchwil sy’n gwneud gwahaniaeth

Mae ein hymchwil yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl wrth i ni gweithio ar draws disgyblaethau er mwyn ymgodymu â phrif heriau sy’n wynebu’r gymdeithas, yr economi ac ein hamgylchedd.

Ymchwil ôl-raddedig

Mae ein graddau ymchwil yn rhoi'r rhyddid i chi i archwilio pwnc arbennig mewn dyfnder ymhlith ymchwilwyr blaenllaw.

Ein heffaith ymchwil

Mae'r astudiaethau achos hyn yn rhoi sylw i rai o'r meysydd lle rydym yn cael effaith ymchwil gadarnhaol.