Ewch i’r prif gynnwys

Rydym yn gymuned ymchwil weithredol o fwy na 20 o academyddion, cymrodyr, ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa a myfyrwyr sydd â diddordebau cyffredin mewn planhigion a’u rôl yn ein bywyd bob dydd.

Mae planhigion yn hanfodol i'n hecosystem, gan ddarparu sicrwydd bwyd a phorthiant i ni, yn ogystal â llawer o adnoddau hanfodol eraill megis deunyddiau adeiladu, ffibrau a fferyllol. Gyda phoblogaeth byd sy'n tyfu a hinsawdd sy’n newid, mae’n fwyfwy pwysig ein bod yn deall y genynnau sy'n rheoli eu datblygiad ac sy’n pennu pensaernïaeth planhigion, y mecanweithiau sy'n rheoli eu hatgynhyrchiad, sut maen nhw'n cyfathrebu â'u hamgylchedd ac yn ymateb i straen.

Amcanion

Ein nod yw dod ag ymchwil bioleg planhigion at ei gilydd yng Nghaerdydd i gwmpasu ystod gyfan o raddfeydd, o rannu celloedd i ecosystemau, gan rannu arbenigedd o dechnegau modelu moleciwlaidd, ffisiolegol a biocemegol newydd.

Rydym wedi sicrhau miliynau o bunnoedd mewn cyllid gan gynghorau ymchwil, y diwydiant ac elusennau er mwyn ymchwilio i bynciau sy’n amrywio o fioleg celloedd sylfaenol, gwydnwch cnydau, straen yn dilyn cynaeafu a dulliau newydd o gynhyrchu cynhyrchion naturiol gwerth uchel yn Affrica Is-Sahara.

Mae ein hymchwil yn cael ei chefnogi gan Hyb Technoleg Twf Planhigion pwrpasol a’i dosbarthu’n ddeg grŵp sy’n cael eu harwain gan:

Rydym yn croesawu ffyrdd darpar gymrodyr a myfyrwyr PhD a ariennir o gynnal eu hymchwil ac ehangu ein hymchwil hanfodol ar blanhigion.

Ymchwil

Rydym yn cynnal ymchwil ynghylch:

  • rheoleiddio datblygiadol meristemau planhigion gan ddefnyddio Arabidopsis a phatrymau twf modelu
  • rheoleiddio genynnau a heneiddedd dail a blodau ac ymatebion straen
  • cyfathrebu rhwng paill a phistil yn ystod atgynhyrchu mewn planhigion
  • sut mae lipidau planhigion yn cael eu syntheseiddio a ffactorau sy'n rheoleiddio eu ffurfiant
  • sut mae planhigion yn rhyngweithio â'u hamgylchedd, gan ganolbwyntio ar addasrwydd atgenhedlu
  • newidiadau mewn mynegiant genynnau a chyfansoddion organig anweddol yn ystod heneiddedd ôl-gynhaeaf
  • defnyddio rhywogaethau aromatig yn erbyn fectorau pryfed o glefydau dynol
  • deall sut y gellir defnyddio algâu i wella maeth ac fel biodanwyddau
  • rheoli genynnau’n epigenetig wrth ddatblygu.

Prosiectau

Mae ein prosiectau’n cynnwys:

  • Rheoliad agoriad blodau mewn lilis a sut y gallwn reoli hyn i wella ansawdd ôl cynaeafu (Ysgoloriaeth Ymchwil SWBio DTP – Yr Athro Hilary Rogers)
  • Rheolaeth epigeneteg o fetaboledd eilaidd mefus - ffrwythau bach gyda genom cymhleth (Ysgoloriaeth Ymchwil SWBio DTP - Yr Athro Hilary Rogers)
  • Future Forages: goblygiadau addasu porthiant i newid hinsawdd ar gyfer cynhyrchu anifeiliaid cnoi cil (BBSRC – Yr Athro Hilary Rogers)
  • Cof Straen: Mecanweithiau i reoleiddio effeithiau straen cyn-gynaeafu ar ansawdd salad roced ôl-gynaeafu. (Prosiect PhD, Llywodraeth Saudi Arabia– Yr Athro Hilary Rogers)
  • Datblygu adnodd cynorthwyo ar benderfyniadau i leihau blaenau asbaragws yn y DU (Innovate UK – Yr Athro Hilary Rogers)
  • Dull aml-nodwedd o wella ansawdd ffrwythau mewn amodau storio ôl-gynhaeaf (FRUITY) (Fondazione del Sud – Yr Eidal – Yr Athro Hilary Rogers)
  • Cyfathrebu Paill-Pistil: mae'n cymryd dau, o adnabod i ffrwythloni a gosod hadau (Dr Barend de Graaf)
  • Swyddogaeth homologau S-Protein (SPHs) - grŵp mawr o beptidau signalau hynod amrywiol mewn planhigion - yn ystod Atgenhedlu Planhigion (Dr Barend de Graaf)
  • Dadorchuddio rôl miRNA sy'n benodol i rywogaethau mewn datblygiad blodau ac yn ystod Atgenhedlu Planhigion (Dr Barend de Graaf)
  • Mae maint yn bwysig: dull systemau o ddeall rheoli maint celloedd mewn meinwe sy'n datblygu (BBSRC – Yr Athro Jim Murray, Dr Angharad Jones)
  • Y Meristem mewn Cyd-destun: dull systemau aml-lefel o wella twf planhigion o dan amgylcheddau sy’n newid (UKRI FLF – Dr Angharad Jones)
  • Size Matters: a systems approach to understanding cell size control in a developing tissue (BBSRC – Professor Jim Murray, Dr Angharad Jones)
  • The Meristem in Context: a multilevel systems approach to improving plant growth under changeable environments  (UKRI FLF – Dr Angharad Jones)
  • Trin cnydau i gynhyrchu mwy o olew (Prifysgol Fedyddiedig Hong Kong (Baptist University of Hong Kong - Yr Athro John Harwood, Dr Simon Scofield)
  • Asidau brasterog planhigol ac algaidd er iechyd gwell (Swyddfa Ymchwil Amaethyddol, Ynysoedd Philippines, Philippines - Y Athro John Harwood)
  • Newidiadau mewn mynegiant genynnau wrth ddatblygu ffrwythau olew palmwydd (Bwrdd Olew Palmwydd Malaysia - Yr Athro John Harwood)
  • Halogi salad â listeria – gwella diogelwch bwyd drwy ddeall sut mae planhigion a bacteria’n rhyngweithio â’i gilydd a datblygu dulliau canfod newydd (ysgoloriaeth Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol SWBio - Yr Athro Hilary Rogers, Dr Cedric Berger, Dr Carsten Müller)
  • Cysylltu cellraniadau a gwaith hormonau i sicrhau morffogenesis mewn planhigion (Dr Walter Dewitte)
  • Swyddogaeth syclinau math D yn y llinach stomataidd (Dr Walter Dewitte)
  • Bioleg systemau i ddeall dynameg rhwydwaith G1/S (Dr Walter Dewitte)
  • Peirianneg fetabolaidd mewn planhigion mintys: cynhyrchu mwy o olew naws drwy drin llwybrau biosynthetig yn enetig (Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol SWBio y Cyngor Ymchwil Biodechnoleg a’r Gwyddorau Biolegol - Dr Simon Scofield, yr Athro John Pickett)
  • Gwneud y mwyaf o fetabolion mintys er mwyn gwella iechyd a ffyniant economaidd yn Uganda (Cronfa Ymchwil Heriau Byd-eang Ymchwil ac Arloesedd y DU – Dr Simon Scofield)
  • Transcriptional landscaping in plant stem cells: from chromatin to gene regulatory networks (BBSRC SWBIO DTP - Dr Simon Scofield, Dr Tamara Lechón Gómez, yr athro Jim Murray)
  • Astudio biosynthesis asid brasterog mewn rêp drwy ddefnyddio dulliau proffilio trosiadol a thrin trawsenynnol (Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol SWBio y Cyngor Ymchwil Biodechnoleg a’r Gwyddorau Biolegol – Dr Simon Scofield, yr athro John HarwoodDr Tamara Lechón Gómez)
  • Datblygu planhigion fel system fynegiant ar gyfer sianeli ïonau mamalaidd (Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol SWBio y Cyngor Ymchwil Biodechnoleg a’r Gwyddorau Biolegol - Dr Mark Young, Dr Simon Scofield)

Ysgolion

Ysgol y Biowyddorau

Mae Ysgol y Biowyddorau yn cynnig amgylchedd deinamig ac ysgogol ar gyfer dysgu ac ymchwil. Mae gennym gyfleusterau modern o safon yn ogystal â staff o'r radd flaenaf.

Camau nesaf

Ymchwil sy’n gwneud gwahaniaeth

Mae ein hymchwil yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl wrth i ni gweithio ar draws disgyblaethau er mwyn ymgodymu â phrif heriau sy’n wynebu’r gymdeithas, yr economi ac ein hamgylchedd.

Ymchwil ôl-raddedig

Mae ein graddau ymchwil yn rhoi'r rhyddid i chi i archwilio pwnc arbennig mewn dyfnder ymhlith ymchwilwyr blaenllaw.

Ein heffaith ymchwil

Mae'r astudiaethau achos hyn yn rhoi sylw i rai o'r meysydd lle rydym yn cael effaith ymchwil gadarnhaol.