Ewch i’r prif gynnwys

Astudiaeth o hanes ac esblygiad bywyd yw palaeobioleg.

Rydym ni'n astudio strwythur, morffoleg, twf a systemateg organebau (tacsonomeg) a'r modd y maent yn rhyngweithio â'i gilydd (ecoleg), gyda'r lithosffer, y moroedd a'r atmosffer (geocemeg).

Rydym ni'n gweithio o raddfa microbau i goed. Rydym ni'n dehongli cofnodion ffosil drwy lens cadwraeth (taffonomeg).

Mae ein hymchwilwyr wedi gwneud cyfraniadau penodol at ddeall:

  • cytrefu cynnar y Ddaear gan blanhigion a choed
  • rôl prosesau cadwraethol wrth ddehongli cofnodion ffosil
  • hanes bywyd a chemeg yn y cefnforoedd cynnar
  • esblygiad micro-organebau morol.

Ymchwil

Palaeobotaneg ac ecosystemau daearol cynnar

Mae'r Grŵp Palaeobotaneg yn astudio’r cyfnodau cynnar yng nghytrefiad bywyd planhigiol ar dir. Rydym yn disgrifio pa mor amrywiol oedd planhigion tir yn ystod y cyfnodau Silwraidd a Defonaidd. Rydym hefyd yn astudio eu dylanwad ar yr amgylchedd, o’r planhigion tir lleiaf i’r coed a’r coedwigoedd cyntaf.

Mae cydnabyddiaeth fyd-eang yn cael ei gwella drwy gydweithredu’n fyd-eang, gan gynnwys yn Tsieina a Gogledd a De America, a thrwy wneud gwaith maes yn yr ardaloedd hyn a'r Arctig.

Rydym yn cydweithio â genetegwyr a biolegwyr datblygiadol i nodi ffylogenedd amser dwfn planhigion tir er mwyn deall esblygiad llinachau daearol sy’n bodoli. Rydym hefyd yn cydweithio â phalaeontolegwyr fertibraidd sy'n nodi cyd-gyrhaeddiad fertebriaid ar dir.

Esblygiad y biosffer cyn-Gambriaidd

Mae ein hymchwil yn canolbwyntio ar y rhyngweithio rhwng bioleg, cemeg palaeo-gefnforol ac esblygiad biogeocemegol y geosffer cynharaf.

Mae’r rhan fwyaf o'n hymchwil yn cael ei hysbrydoli gan ddealltwriaeth ragorol o brosesau biogeocemegol morol modern. Mae’r ddealltwriaeth hon yn ein helpu i ddeall mecanweithiau ffurfio haearn rhesog morol hynafol, dyddodi manganîs, cylchu maetholion dŵr môr hynafol a datblygu rhydocs y system cefnforoedd-atmosffer, gan gynnwys biogeocemeg isotopau. Mae’r rhain yn gysylltiedig ag ysgogiadau a chanlyniadau yn hanes ocsigeneiddio cynnar y Ddaear.

A ninnau’n gweithio mewn maes rhyngddisgyblaethol, rydym yn gweithio’n helaeth gyda microbiolegwyr, geobiolegwyr, geocemegwyr, gwaddodegwyr, palaeontolegwyr a geocemegwyr isotopau.

Cyllid

Berry, C. (Prif Ymchwilydd) Earliest forests of woody trees in Svalbard. National Geographic. 2016, £15,000

ChiFru, E. (Prif Ymchwilydd) Coevolution of life and arsenic in Precambrian oceans. Y Cyngor Ymchwil Ewropeaidd

Edwards, D. (Prif Ymchwilydd) Resolution of anatomy, ontogeny and affinities of Siluro-Devonian Pachytheca. Ymddiriedolaeth Leverhulme. £22000

Edwards, D. (Cyd-Brif Ymchwilydd) The origin of plants. NERC Co PI. 2015, £60,000

Edwards, D. (Prif Ymchwilydd) Investigations on diversity in early land plants. Sefydliad Gatsby. 2014-2016 - £20,000, 2017 - £25.500

Pearson, P. (Prif Ymchwilydd) Expedition 363 West Pacific Warm Pool: planktonic foraminifer biostratigraphy and the evolution of Pulleniatina. Cynnig NERC IODP Moratorium, £43,720, yn cynnwys 2 fis FEC llawn amser ac 1 awr yr wythnos FEC.

Pearson, P. (Cyd-Brif Ymchwilydd) Are adaptive zones important in macroevolution? NERC CoPI. 2015-2018, £70,000

Cwrdd â'r tîm

Arweinydd Tîm

Staff academaidd

Myfyrwyr Ôl-raddedig

Staff cysylltiol

Cyhoeddiadau

Cyfleusterau

Labordy macro-ffotograffiaeth a delweddu

Mae'r labordy hwn yn cynnwys ffotograffiaeth stiwdio SLR digidol Nikon gyda gallu golau plân a chamerâu clymedig, stand macroffoto Leica Aristophot a chyfrifiadur graffeg pwrpasol gyda sgriniau fformat argraffu, Adobe Acrobat Pro a meddalwedd graffeg / cyhoeddi pen desg arall.

Ystafell microsgopeg golau

Mae'r labordy hwn yn cynnwys nifer o ficrosgopau binocwlaidd a chyfansawdd gyda meddalwedd prosesu delweddau Leica ar gyfer sbesimenau biolegol a daearegol.

Rhagor o wybodaeth am yr ystafell microsgopeg golau

Labordy asid hydrofflworig

Defnyddir y labordy hwn ar gyfer paratoi samplau peillegol a samplau eraill yn arbenigol drwy dreulio creigiau gydag asid.

Labordy paratoi ffosiliau

Mae'r labordy ffosiliau'n cynnwys offer ar gyfer paratoi sbesimenau ffosil yn fudr, gan gynnwys unedau echdynnu llwch a chyflau mygdarth, cyfleusterau gwreiddio resin plastig, a gallu cyfyngedig ar gyfer llifio sbesimenau bach yn drachywir.

Microsgop Electron Sganio Amgylcheddol (ESEM)

Mae hwn yn ESEM cydraniad uchel sy'n caniatáu chwyddo hyd at 500,000x ar samplau wedi'u gorchuddio/dargludol ond gall ymdrin hefyd ag ESEM cydraniad uchel ar samplau heb eu gorchuddio a hyd yn oed rhai "gwlyb" heb eu hydradu.

Rhagor o wybodaeth am y cyfleuster ESEM.

Ysgolion

Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Amgylchedd

Rydym wedi ymrwymo i gyrraedd y safonau uchaf mewn ymchwil ac addysg. Rydym yn darparu amgylchedd cyfoethog ac amrywiol lle gall ein holl staff a myfyrwyr gyflawni eu potensial er budd cymdeithas.

Delweddau

Camau nesaf

Ymchwil sy’n gwneud gwahaniaeth

Mae ein hymchwil yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl wrth i ni gweithio ar draws disgyblaethau er mwyn ymgodymu â phrif heriau sy’n wynebu’r gymdeithas, yr economi ac ein hamgylchedd.

Ymchwil ôl-raddedig

Mae ein graddau ymchwil yn rhoi'r rhyddid i chi i archwilio pwnc arbennig mewn dyfnder ymhlith ymchwilwyr blaenllaw.

Ein heffaith ymchwil

Mae'r astudiaethau achos hyn yn rhoi sylw i rai o'r meysydd lle rydym yn cael effaith ymchwil gadarnhaol.