Ewch i’r prif gynnwys

PACCFINTAX: Grŵp Ymchwil Cyfrifeg, Cyllid a Threthiant y Sector Cyhoeddus

Mae'r Grŵp Ymchwil Cyfrifeg, Cyllid a Threthiant y Sector Cyhoeddus (PACCFINTAX) yn gwasanaethu fel adnodd i ymchwilwyr a llunwyr polisi sydd â diddordeb mewn materion cyfrifeg/cyllid y sector cyhoeddus.

Mae PACCFINTAX wedi'i leoli yn adran Cyfrifeg a Chyllid Ysgol Busnes Caerdydd, gydag aelodau'r grŵp yn deillio o bob rhan o'r Ysgol a thu hwnt. Mae'r grŵp yn cael ei gydlynu ar y cyd gan Dr Dennis De Widt a'r Athro Carla Edgley.

Ymchwil

Mae ymchwil y grŵp yn cwmpasu'r ystod eang o weithgareddau sydd â'r nod o sicrhau defnydd a chasglu arian cyhoeddus yn effeithlon, effeithiol, cynaliadwy ac atebol. Mae aelodau'r grŵp ymchwil yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau ymchwil i gynhyrchu ymchwil ysgolheigaidd a pherthnasol i bolisi o ansawdd uchel, gan gynnwys defnyddio dadansoddiadau cymharol ryngddisgyblaethol rhyngwladol yn aml.

Gan gefnogi athroniaeth Gwerth Cyhoeddus Ysgol Busnes Caerdydd, nod y grŵp ymchwil yw cyfrannu at ddatblygu polisïau ac arferion sy'n gwella llywodraethu a gweinyddu arian cyhoeddus, gan wella ansawdd a hygyrchedd gwasanaethau cyhoeddus yn y pen draw.

Mae meysydd ymchwil allweddol PACCFINTAX yn cynnwys:

  • Cyfrifeg sector cyhoeddus ac archwiliad sector cyhoeddus
  • Cyllid y sector cyhoeddus a rheolaeth ariannol y sector cyhoeddus
  • Llunio polisi treth a gweinyddu treth

Cwrdd â'r tîm

Staff academaidd

Picture of Leighton Andrews

Yr Athro Leighton Andrews

Athro Ymarfer mewn Arweinyddiaeth ac Arloesi Gwasanaethau Cyhoeddus

Telephone
+44 29208 76564
Email
AndrewsL7@caerdydd.ac.uk
Picture of Dennis De Widt

Dr Dennis De Widt

Darllenydd mewn Cyfrifeg a Chyllid

Telephone
+44 29208 76569
Email
DeWidtD@caerdydd.ac.uk
Picture of Carla Edgley

Yr Athro Carla Edgley

Athro Cyfrifeg a Chyllid, Dirprwy Bennaeth Adran (Dysgu ac Addysgu)

Telephone
+44 29208 76567
Email
EdgleyCR@caerdydd.ac.uk
Picture of Kevin Holland

Yr Athro Kevin Holland

Athro Cyfrifeg a Threthiant

Telephone
+44 29208 75725
Email
HollandK2@caerdydd.ac.uk
Picture of Simon Norton

Dr Simon Norton

Uwch Ddarlithydd mewn Cyfrifeg

Telephone
+44 29208 76675
Email
NortonSD@caerdydd.ac.uk
Picture of Shuo Sun

Dr Shuo Sun

Cydymaith Ymchwil

Email
SunS7@caerdydd.ac.uk

Cyfrifeg sector cyhoeddus ac archwiliad sector cyhoeddus

Cyllid y sector cyhoeddus a rheolaeth ariannol y sector cyhoeddus

Llunio polisi treth a gweinyddu treth

Digwyddiadau

Cynhadledd y Rhwydwaith Ymchwil Trethi – Ysgol Busnes Caerdydd, Prifysgol Caerdydd

Dyddiadau’r gynhadledd: 9-10 Medi 2024
Diwrnod Addysg Trethi: 11 Medi

Canolfan Addysgu Ôl-raddedigion, Ysgol Busnes Caerdydd

Cofrestru

Mae cofrestru ar gyfer y gynhadledd ar agor a cheir manylion ar dudalen we Rhwydwaith Ymchwil y Dreth.

Gwybodaeth am y gynhadledd

Cynhelir y gynhadledd hon yn y Ganolfan Addysgu Ôl-raddedigion, Ysgol Busnes Caerdydd rhwng 9 a 11 Medi. Bydd yn gynhadledd wyneb-yn-wyneb, ond bydd modd i’r rhai na allant deithio i Gaerdydd ymuno â’r gynhadledd yn rhithwir. Yn ôl yr arfer, bydd y ddau ddiwrnod cyntaf yn canolbwyntio ar ymchwil, tra bydd y trydydd diwrnod ar 11 Medi yn cael ei neilltuo i’r Diwrnod Addysg Trethi.

Bydd sesiynau cydamserol yn ystod y gynhadledd er mwyn ymdrin â’r papurau a gyflwynwyd. Bydd y sesiynau rhithwir yn cael eu cynnal dros Microsoft Teams, a bydd y dolenni ar gyfer pob sesiwn yn cael eu rhannu cyn y gynhadledd.

Yn y gynhadledd, bydd nifer gyfyngedig o ysgoloriaethau ffioedd a bwrsariaethau teithio’n cael eu cynnig i fyfyrwyr PhD a chydweithwyr ymchwil/addysgu ar ddechrau eu gyrfa. Hefyd, ein gobaith yw y bydd hyn a hyn o gyllid ar gael i gefnogi costau gofal plant. Bydd rhagor o fanylion ar gael unwaith y bydd y cyfnod cofrestru wedi dechrau.

Cinio’r gynhadledd

Cynhelir cinio’r gynhadledd nos Lun, 9 Medi yng Nghastell Caerdydd – safle treftadaeth nodedig sy’n agos i’r Brifysgol. Bydd y cinio’n dechrau gyda derbyniad diodydd yn Llyfrgell y Castell, wedi’i ddilyn gan swper yn y Neuadd Wledda ysblennydd.

Mae'r alwad am bapurau bellach ar gau

Bydd rhagor o wybodaeth am y digwyddiad hwn ar gael ar wefan y Rhwydwaith Ymchwil Trethi maes o law.

Edrychwn ymlaen at eich gweld yng Nghaerdydd.

Camau nesaf

Ymchwil sy’n gwneud gwahaniaeth

Mae ein hymchwil yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl wrth i ni gweithio ar draws disgyblaethau er mwyn ymgodymu â phrif heriau sy’n wynebu’r gymdeithas, yr economi ac ein hamgylchedd.

Ymchwil ôl-raddedig

Mae ein graddau ymchwil yn rhoi'r rhyddid i chi i archwilio pwnc arbennig mewn dyfnder ymhlith ymchwilwyr blaenllaw.

Ein heffaith ymchwil

Mae'r astudiaethau achos hyn yn rhoi sylw i rai o'r meysydd lle rydym yn cael effaith ymchwil gadarnhaol.