Rydyn ni’n ymchwilio i newidiadau yn ein cefnfor deinamig yn y gorffennol, y presennol a'r dyfodol ac yn cysylltu hyn â chymdeithasau dynol.
Mae Ein Cefnfor Byw yn grŵp amlddisgyblaethol deinamig sy'n canolbwyntio ar ddatblygu gwybodaeth am ein cefnfor byd-eang ac ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o stiwardiaid cefnforoedd. Ymhlith y cwestiynau y mae gan ein tîm amrywiol o ymchwilwyr ddiddordeb ynddyn nhw: Beth yw/oedd rôl prosesau cefnforol mewn cylchoedd biogeocemegol yn y gorffennol a'r presennol? Sut gall sgerbydau organebau morol gofnodi gwybodaeth am amodau'r cefnfor yn ogystal â'u ffisioleg? Sut mae'r patrwm mixoplankton newydd ym maes ecoleg forol yn newid ein dealltwriaeth o’r prif bethau sydd yn ysgogi bywyd yn y cefnfor, yn enwedig yn ystod yr argyfwng hinsawdd? Sut gallwn ni wella a meithrin llythrennedd cefnforol i gefnogi cefnfor iach a chynaliadwy ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol?
Mae ein hymchwil yn cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru (2015), nodau Degawd o Wyddor y Môr ar gyfer Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig, Nod Datblygu Cynaliadwy 14 y Cenhedloedd Unedig (Bywyd Dan Ddŵr), yn ogystal â Nodau Datblygu Cynaliadwy eraill ac ymrwymiadau rhyngwladol (e.e. 'Maniffesto Plancton' y Cenhedloedd Unedig).
Mae ein gwaith yn mynd â ni ledled y byd, yn gorfforol ac yn drosiadol, ac mae’n cynnwys defnyddio offerynnau dadansoddi o’r radd flaenaf, data arsylwi a gasglwyd yn ystod mordeithiau gwyddonol, synhwyro o bell, modelau rhifiadol a deinameg system ar ystod o raddfeydd, yn ogystal â methodolegau gwyddor gymdeithasol i ddeall perthnasoedd rhwng pobl a’r cefnfor. Rydyn ni hefyd yn datblygu fframweithiau sefydliadol a pholisi enghreifftiol ac yn cymryd rhan weithredol mewn prosiectau rheoli arfordirol ac aberoedd rhyngwladol, cenedlaethol a lleol, megis Strategaeth Llythrennedd Cefnforol gyntaf Cymru a Strategaeth leol Môr Hafren trwy ein gwaith gyda Phartneriaeth Môr Hafren.
Cwrdd â’r tîm
Staff academaidd
Myfyrwyr ôl-raddedig
Nodau Datblygu Cynaliadwy
Mae ein gwaith yn berthnasol i ddau o Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig:
Ysgolion
Y camau nesaf
Ymchwil o bwys
Mae ein hymchwil yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl wrth i ni weithio mewn disgyblaethau gwahanol i fynd i’r afael â heriau mawr sy’n wynebu cymdeithas, yr economi a’n hamgylchedd.
Ymchwil ôl-raddedig
Mae ein graddau ymchwil yn rhoi’r cyfle i ymchwilio i bwnc penodol yn fanwl ymhlith ymchwilwyr blaenllaw yn y maes.
Effaith ein hymchwil
Mae astudiaethau achos ein hymchwil yn amlygu rhai o’r meysydd lle rydyn ni’n cael effaith gadarnhaol o ran ein hymchwil.