Ewch i’r prif gynnwys

Mae ein grŵp yn canolbwyntio ar wahanol agweddau ar Brosesu Iaith Naturiol, yn ddamcaniaethol ac yn gymhwysol. Un o is-feysydd Deallusrwydd Artiffisial yw Prosesu Iaith Naturiol, sy'n ymwneud â’r ffordd y mae cyfrifiaduron yn delio ag iaith. Mae'n ddiwydiant byd-eang sy'n tyfu, gyda gwaith ymchwil yn mynd rhagddo i sawl cyfeiriad gwahanol.

Rydyn ni’n credu mai pwnc rhyngddisgyblaethol ei natur yw Prosesu Iaith Naturiol a gellir gweld hyn yn niddordeb ein grŵp mewn arbenigwyr ym maes Prosesu Iaith Naturiol a meysydd eraill, sy’n gallu datblygu’r maes a sicrhau effaith mewn cymwysiadau sydd o bwys.

Nodau

  • Deall sut mae cyfrifiaduron yn delio ag iaith a thestun.
  • Gwella adnoddau awtomatig sy’n delio ag iaith.
  • Rhoi systemau Prosesu Iaith Naturiol ar waith mewn cymwysiadau a gaiff effaith gymdeithasol.

Ymchwil

Rydyn ni’n gwneud gwaith ymchwil i bynciau amrywiol sy’n ymwneud â Phrosesu Iaith Naturiol, gan gynnwys:

  • semanteg eiriol
  • rhesymu synnwyr cyffredin
  • cyfryngau cymdeithasol
  • Prosesu Iaith Naturiol amlieithog
  • cymwysiadau sy'n gysylltiedig ag iechyd.

Prosiectau

Caiff ein prosiectau Prosesu Iaith Naturiol ryngddisgyblaethol eu hariannu gan Gyngor Ymchwil Ewrop (ERC), Llywodraeth Cymru, Ymchwil ac Arloesedd y DU (UKRI), Cyngor Ymchwil y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg (EPSRC), y diwydiant (megis Google, Snap) ac eraill.

Dyma sampl fach o allbynnau rhai o'n prosiectau:

  • TweetEval: meincnod unedig ar gyfer dosbarthu trydariadau + modelau iaith parod ar gyfer Twitter
  • Meemi: mewnosodiadau geiriau trawsieithog (côd+modelau parod). Hefyd ar gael ar gyfer Twitter
  • Mewnosodiadau perthnasau: pecynnau i ddysgu mewnosodiadau perthnasau (SeVeN a RELATIVE)
  • T-NER: llyfrgell Python ffynhonnell agored ar gyfer Adnabod Endidau a Enwir.

Cwrdd â’r tîm

Prif ymchwilydd

Staff academaidd

No picture for Helene De Ribaupierre

Dr Helene De Ribaupierre

Darlithydd er Anrhydedd

Email
deRibaupierreH@caerdydd.ac.uk
No picture for Christopher Jones

Yr Athro Christopher Jones

Athro Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol

Telephone
+44 29208 74796
Email
JonesCB2@caerdydd.ac.uk
No picture for Federico Liberatore

Dr Federico Liberatore

Uwch Ddarlithydd mewn Deallusrwydd Artiffisial a Dadansoddi Data

Telephone
+44 29225 11736
Email
LiberatoreF@caerdydd.ac.uk
Picture of Dave Marshall

Yr Athro Dave Marshall

Athro Emeritws

Telephone
+44 29208 75318
Email
MarshallAD@caerdydd.ac.uk
No picture for Nedjma Ousidhoum

Dr Nedjma Ousidhoum

Darlithydd

Telephone
+44 29225 14939
Email
OusidhoumN@caerdydd.ac.uk
Picture of Alun Preece

Yr Athro Alun Preece

Athro Cyd-Gyfarwyddwr Systemau Deallus y Sefydliad Arloesi Diogelwch, Trosedd a Chudd-wybodaeth

Telephone
+44 29208 74653
Email
PreeceAD@caerdydd.ac.uk

Digwyddiadau

Rydyn ni’n trefnu sesiynau wythnosol bob dydd Iau am 13:00 (GMT).

Mae'r sesiynau hyn yn cynnwys grwpiau darllen neu sgyrsiau gan siaradwyr mewnol ac allanol, ymhlith eraill. Mae rhai sesiynau ar agor i bobl o’r tu allan i’r brifysgol mewn rhai achosion.

Gweler yr amserlen ddiweddaraf o weithgareddau.

Camau nesaf

Ymchwil sy’n gwneud gwahaniaeth

Mae ein hymchwil yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl wrth i ni gweithio ar draws disgyblaethau er mwyn ymgodymu â phrif heriau sy’n wynebu’r gymdeithas, yr economi ac ein hamgylchedd.

Ymchwil ôl-raddedig

Mae ein graddau ymchwil yn rhoi'r rhyddid i chi i archwilio pwnc arbennig mewn dyfnder ymhlith ymchwilwyr blaenllaw.

Ein heffaith ymchwil

Mae'r astudiaethau achos hyn yn rhoi sylw i rai o'r meysydd lle rydym yn cael effaith ymchwil gadarnhaol.