Ewch i’r prif gynnwys

Mae ein hymchwil yn rhychwantu niwroddirywio a heneiddio, datblygiadau ocwlar ac o ran y golwg a bôn-gelloedd, atffurfio ac atgyweirio, a gweithrediad y llygaid.

Ein nod yw archwilio’r mecanweithiau genetig, moleciwlaidd, biocemegol, microstrwythurol, a chellol sy'n sail i niwroddirywio yn y retina a'r nerf optig.  Rydym yn nodi nodweddion dangosyddion biolegol (biofarcwyr) sy'n gysylltiedig â'r prosesau hyn ac yn cymhwyso'r wybodaeth hon i strategaethau atffurfio a therapiwteg.

Rydym yn grŵp rhyngddisgyblaethol; mae ein diddordebau ymchwil yn amrywio o niwroddirywio, imiwnedd, mitocondria, therapiwteg ocwlar, ecsosomau, strwythur y nerf optig a’i swyddogaeth / delweddu / electroffisioleg, astudiaethau ar anifeiliaid, astudiaethau ar fodau dynol, hyn gan ganolbwyntio'n gyffredinol ar y gell a’r ystyriaeth foleciwlaidd ond gan gynnwys technegau clinigol. Ymhlith ein technegau mae gwyddoniaeth sylfaenol ym maes bioleg y gell a moleciwlaidd: celloedd / proteinau / DNA-RNA / ecosomau ar feinweoedd y llygad in vitro ac ex vivo, ac ar fodelau sy’n anifeiliaid a chymwysiadau yn y clinig in vivo.

Nodau

Gwella ansawdd bywyd trwy ddatblygu technolegau newydd ar gyfer canfod problemau â’r llygaid sy'n gysylltiedig â'r system nerfol, yn gynnar, ynghyd â gwell monitro a thriniaeth effeithiol ar gyfer hyn.

Rydym hefyd yn anelu at niwrowyddoniaeth moleciwlaidd sy'n cael effaith gymdeithasol, hyn o eneteg a genomeg i gysylltomeg, gyda ffocws ar y retina mewnol a niwral a'r nerf optig, ac rydym yn rhychwantu delweddu a seicoffiseg (rhyngweithio rhwng systemau / graddfeydd). Er enghraifft, micro i macro, retina i'r ymennydd. Mae dau o'n haelodau yn offthalmolegwyr sy’n ymarferwyr clinigol, ac mae un yn optometrydd, ac rydym wedi'n gwreiddio’n gadarn mewn ymchwil drosi.

Mae ein hymchwil yn cael ei gwella gan ein cysylltiadau cryf â Sefydliad Ymchwil y Niwrowyddorau ac Iechyd Meddwl, Canolfan Ymchwil Delweddu'r Ymennydd Prifysgol Caerdydd (CUBRIC), a'r Ysgol Seicoleg

Ymchwil

Mae ein hymchwil yn ymdrin â nifer o themâu, pob un yn mynd i'r afael â niwroddirywio yn y retina a'r nerf optig. Ymhlith y themâu mae glawcoma, camweithredu mitocondriaidd yn y llygad, dirywio yn y retina ac atffurfio.

Glawcoma

Ym maes glawcoma a niwropatheg optig etifeddol, rydym yn ymchwilio i gyfryngau therapiwtig newydd, gan gynnwys bôn-gelloedd llawn dwf, yn ogystal â'r rhannau o’r bôn-gelloedd hyn sy’n gysylltiedig â secretu (e.e. ecosomau). Rydym yn profi'r strategaethau therapiwtig niwro-amddiffynnol newydd hyn mewn modelau modern in vitro ac in vivo, a meithrinaidau retinaidd sy'n deillio o fôn-gelloedd embryonig dynol.

Rydym hefyd yn cyfuno technegau seicoffisegol a niwroddelweddu i ymchwilio i effaith dirywiad glawctomaidd y retina ar weithrediad ar sail hierarchaethau niwral lluosog, hyn o'r retina i'r canolfannau gweledol rhesog ac all-resog yn yr ymennydd, er mwyn cael gwell dealltwriaeth o effaith glawcoma ar y ffordd mae pobl yn gweld golygfeydd o ran bywyd bob dydd.

Mitocondria a’r Golwg

Mae'r thema ymchwil Mitocondria a’r Golwg yn mynd i'r afael â rôl camweithrediad mitocondriaidd yn sgîl mwtaniad mewn nifer cynyddol o enynnau, ym mhathoffisioleg dirywiad y retina a niwropatheg optig etifeddol. Mae ein dull gweithredu wedi rhoi pwyslais ar gynhyrchu systemau enghreifftiol i astudio coll o ran celloedd ganglion y retina (RGC) a dirywiad y retina mewnol er mwyn egluro mecanweithiau a phathoffisioleg clefydau ymhellach.

Mae niwropathegau optig mitocondriaidd cynradd, fel niwropatheg optig etifeddol Leber (LHON) ac atroffi optig dominyddol awtosomal (ADOA)), yn achosion sylweddol nam ar y golwg sydd heb wellhad (tua 1 o bob 10,000 person). Mae niwropathegau optig mitocondriaidd yn debyg o ran bod camweithrediad mitocondriaidd yn y nerf optig yn rhan o hyn yn ogystal â difrod i rannau penodol a choll o ran celloedd ganglion y retina. Mae angen clinigol sydd heb ei ddiwallu o ran ymyriadau therapiwtig newydd.

Prosiectau

Y prosiectau sydd ar waith ar hyn o bryd dan arweiniad ein Prif Ymchwilwyr (PI) yn nhrefn yr wyddor yw:

Dr Julie Albon

ProsiectAriannwr
Dull amlddisgyblaethol o ganfod glawcoma yn gynnar a nodi’r camau yn ei ddatblygiadYmddiriedolaeth Wellcome
Herio dallineb yn Affrica Is-Sahara: Astudiaeth beilot Ghana GlaucomaY Gronfa Ymchwil ar Heriau Byd-eang (GCRF)
Microstrwythur y nerf optig: dangosydd pwysig o ran difrifoldeb clefydauDyfarniad Ysgoloriaeth Iechyd, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru/ Llywodraeth Cymru.
Haen amddiffynnol ostracod yn ddeunydd tryloyw newyddY Labordy Gwyddoniaeth a Thechnoleg Amddiffyn (DSTL)

Dr Ben Mead

ProsiectAriannwr
Cyflenwi ecosomau i fodelau o afiechydon ar y llygadFight for Sight
Cymhwyso ecsosomau yn therapiwtig fellyHorizon2020 Marie Curie

Yr Athro James Morgan

ProsiectAriannwr
Rôl mecanweithiau imiwnedd ym maes glawcoma arbrofol.Ysgoloriaeth Fight for Sight
Therapi Nicotinamid Adenin Deuniwcleotid (NAD) ym maes glawcomaYsgoloriaeth Fight for Sight
Rôl Ffactor Niwrodroffig sy’n Deillio o’r Ymennydd (BDNF) o blatennau wrth reoli glawcoma arbrofolGrant Fight for Sight ar gyfer Prosiectau Bach / Tweadie Bequest
 Datblygu adnodd archwilio ar gyfer monitro newidiadau o ran pwysedd yn y llygad ym maes glawcoma yn dilyn Llawdriniaeth Microymwthiol ar Glawcoma (MIGS)Santen Inc (heb gyfyngiad)

Dr Tony Redmond

ProsiectAriannwr
Herio dallineb yn Affrica Is-Sahara: Astudiaeth beilot Ghana GlaucomaY Gronfa er Ymchwil ar Heriau Byd-eang (GCRF)
Pentyrru ynghlwm â glawcomaYsgoloriaeth PhD Coleg yr Optometryddion
Cyfuno o ran gofod ac amser ym maes clefyd y macwla o’r math sy'n gysylltiedig ag oedranYsgoloriaeth PhD Macular Society
Newidiadau yng nghortecs y llygad a’u rôl o ran adfer y llygad: astudiaeth Delweddu Cyseiniant Magnetig gweithredol (fMRI)Ysgoloriaeth PhD Fight for Sight

Dr Malgorzata Rozanowska

ProsiectAriannwr
Profi cyn-glinigol ar therapi golau bron yn isgoch mewn model sy’n llygoden ar gyfer atroffi optig awtosomaidd trechol (ADOA)Ymddiriedolaeth Wellcome
Fformwleiddiadau sy’n rhyddhau’n barhaus ar gyfer cyffuriau newydd wrth drin niwropathegau optig mitocondriaiddY Ganolfan Genedlaethol Er Ymchwil ar y Llygaid
Therapi golau bron yn is-goch yn gynllun o ran therapiwteg ar gyfer niwropatheg optig etifeddolCymrodoriaeth Ryngwladol Newton Academi’r Gwyddorau Meddygol

Yr Athro Marcela Votruba

ProsiectAriannwr
Fformwleiddiadau sy’n rhyddhau’n barhaus ar gyfer cyffuriau newydd wrth drin niwropathegau optig mitocondriaiddY Ganolfan Genedlaethol Er Ymchwil ar y Llygaid
Light for Sight – niwroamddiffyn ym maes niwropatheg optig mitocondriaiddGwobr Trawsddisgyblaethol Cronfa Cefnogaeth Strategol Sefydliadol 3 (ISSF3) Ymddiriedolaeth Wellcome
Therapïau ar sail moleciwlau bychainGwobr Atgyfnerthu ISSF3 Ymddiriedolaeth Wellcome
Therapi golau bron yn is-goch yn gynllun o ran therapiwteg ar gyfer niwropatheg optig etifeddolCymrodoriaeth Ryngwladol Newton Academi’r Gwyddorau Meddygol

Ysgolion

Yr Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol

Rydym yn un o ysgolion fferylliaeth gorau'r DU ac mae gennym enw da yn rhyngwladol am safon ein hymchwil.

Y camau nesaf

Ymchwil sy’n gwneud gwahaniaeth

Mae ein hymchwil yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl wrth i ni gweithio ar draws disgyblaethau er mwyn ymgodymu â phrif heriau sy’n wynebu’r gymdeithas, yr economi ac ein hamgylchedd.

Ymchwil ôl-raddedig

Mae ein graddau ymchwil yn rhoi'r rhyddid i chi i archwilio pwnc arbennig mewn dyfnder ymhlith ymchwilwyr blaenllaw.

Ein heffaith ymchwil

Mae'r astudiaethau achos hyn yn rhoi sylw i rai o'r meysydd lle rydym yn cael effaith ymchwil gadarnhaol.