Ewch i’r prif gynnwys

Mae data amlgyfrwng, megis testun, sain, delweddau, animeiddiadau a fideo, wedi dod yn rhan annatod o fywyd bob dydd.

Rydym yn cynnal ymchwil i ddeall, creu, dadansoddi a phrosesu cynnwys amlgyfrwng. Rydym yn canolbwyntio ar ddatblygu technolegau a systemau sy'n gwella profiad a pherfformiad dynol, ac sy'n mynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu’r rhai sy’n darparu gwasanaethau cynnwys ar-lein.

Mae cyfrifiadura amlgyfrwng hefyd o fudd i ystod eang o feysydd, gan gynnwys iechyd, telathrebu, diogelwch ac addysg.

Mae gan y grŵp hanes cryf o gyflawni effaith drwy ymchwil. Mae ein hymchwil yn dod a modelau mathemategol, deallusrwydd artiffisial, technegau dysgu peiriannol, a ffactorau dynol mewn datblygu algorithmau a gwerthuso ynghyd.

Mae ein harbenigedd yn cwmpasu ystod eang o bynciau, gan gynnwys prosesu delweddau, golwg cyfrifiadurol, realiti estynedig/rhithwir, cerddoriaeth gyfrifiadurol, dadansoddi lleferydd, a delweddu. Mae gennym hanes cryf o gydweithio yn y Brifysgol a'r tu allan iddi.

Nodau

  • Datblygu algorithmau ar gyfer dadansoddi, prosesu ac asesu data amlgyfrwng
  • Datblygu systemau sy'n gwella profiad a pherfformiad dynol
  • Datblygu technolegau sy'n datrys heriau deallusol, diwydiannol a chymdeithasol

Ymchwil

Themâu ymchwil

Mae ein hymchwil, yn fras, yn cyd-fynd a’r pynciau canlynol:

Profiadau amlgyfrwng

  • Asesu ansawdd delweddau a fideo
  • Tracio’r llygad a chreu modelu amlygrwydd
  • Asesu ansawdd canfyddiadol delweddau / data 3D

Cynhyrchu a dadansoddi cynnwys amlgyfrwng

  • Cynhyrchu cynnwys ar gyfer delweddau a fideos
  • Cynhyrchu cynnwys data 3D (cymylau pwyntiau, rhwyllau)
  • Cyfosod pobl/wynebau realistig ac darluniadau
  • Cerddoriaeth gyfrifiadurol
  • Dadansoddi lleferydd

Ymgysylltu â defnyddwyr trwy ddefnyddio cyfryngau gwahanol.

  • Arwyddion emosiynol a chymdeithasol
  • Dadansoddi teimladau ar gyfer data amlgyfrwng
  • Technegau realiti rhithwir/realiti estynedig
  • Ffactorau dynol mewn delweddu

Prosiectau

Cyllid

Enw’r prosiect: Cyfuno’r gallu i greu afatar fideo realistig â llwyfan gwybodaeth gofal iechyd sy’n defnyddio deallusrwydd artiffisial
Wedi'i ariannu gan: Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth
Prif ymchwilydd: Yr Athro David Marshall

Enw’r prosiect: Gweld y dyfodol

Prif ymchwilydd: Yr Athro David Marshall

Enw’r prosiect: Ymwybyddiaeth Ansawdd Fideo Amlwg Canfyddiadol trwy Asesiad Ansawdd ar Lefel Golygfa
Wedi'i ariannu gan: Y Gymdeithas Frenhinol
Prif ymchwilydd: Dr Hantao Liu

Cwrdd â’r tîm

Prif ymchwilydd

Picture of Hantao Liu

Yr Athro Hantao Liu

Athro Deallusrwydd Artiffisial Dynol-Ganolog
Cyfarwyddwr Rhyngwladol

Telephone
+44 29208 76557
Email
LiuH35@caerdydd.ac.uk

Staff academaidd

Picture of Dave Marshall

Yr Athro Dave Marshall

Athro Emeritws

Telephone
+44 29208 75318
Email
MarshallAD@caerdydd.ac.uk
Picture of Yipeng Qin

Dr Yipeng Qin

Uwch Ddarlithydd; Dirprwy Gyfarwyddwr Ymchwil

Telephone
+44 29208 75537
Email
QinY16@caerdydd.ac.uk
Picture of Paul Rosin

Yr Athro Paul Rosin

Athro Golwg Cyfrifiadurol

Telephone
+44 29208 75585
Email
RosinPL@caerdydd.ac.uk

Digwyddiadau

Cyflwynir seminarau yn y gyfres seminarau ymchwil cyfrifiadura gweledol.

Y camau nesaf

Ymchwil sy’n gwneud gwahaniaeth

Mae ein hymchwil yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl wrth i ni gweithio ar draws disgyblaethau er mwyn ymgodymu â phrif heriau sy’n wynebu’r gymdeithas, yr economi ac ein hamgylchedd.

Ymchwil ôl-raddedig

Mae ein graddau ymchwil yn rhoi'r rhyddid i chi i archwilio pwnc arbennig mewn dyfnder ymhlith ymchwilwyr blaenllaw.

Ein heffaith ymchwil

Mae'r astudiaethau achos hyn yn rhoi sylw i rai o'r meysydd lle rydym yn cael effaith ymchwil gadarnhaol.