Integreiddio dyluniad, synthesis a nodweddu moleciwlau organig ac anorganig.
Yr adran ymchwil Synthesis Moleciwlaidd yw un o'r adrannau mwyaf yn yr Ysgol. A ninnau â deg adran ymchwil sy'n weithredol yn annibynnol, rydyn ni’n canolbwyntio ar ddatblygu dulliau, moleciwlau a deunyddiau newydd sy'n cwmpasu amrediad eang o gymwysiadau sydd â phwysigrwydd yn y gymdeithas fodern. Mae ein gweithgareddau’n amrywio ac yn mynd y tu hwnt i’r ffiniau traddodiadol ym meysydd cemeg anorganig ac organig, yn aml o fewn cyd-destun amlddisgyblaethol. Yn sail i’r ymchwil yw cydweithio ag adrannau a disgyblaethau gwyddonol eraill o ddiddordeb (gan gynnwys bioleg, fferylliaeth, meddygaeth, peirianneg a ffiseg), yn ogystal â chysylltiadau uniongyrchol â sawl un o’n partneriaid yn y diwydiant.
Ymchwil
Mae'r grŵp yn cwmpasu ystod eang o weithgareddau sy’n syrthio o fewn cylch gorchwyl Synthesis Moleciwlaidd, gan gynnwys gwaith ar systemau organig ac anorganig. Mae cyfuno ymchwil sylfaenol a chymhwysol â thechnegau nodweddu uwch wedi caniatáu i nifer o themâu ymchwil ddatblygu. Dyma’r meysydd prosiect mewn Synthesis Moleciwlaidd sy’n deillio o’n diddordebau:
Methodoleg at ddibenion darganfod moleciwlau newydd:
- Datblygu adweithydd yn seiliedig ar ïodin hyperfalent ac electroffiliau seleniwm
- Ligandau newydd ar gyfer ïonau metel bloc-s, bloc-d a bloc-f
- Datblygu adweithyddion cirol newydd, gan gynnwys ffosffinau a charbenau N-heterogylchol
- Catalysis unffurf gan ddefnyddio cymhlygau metel, sy’n cynnwys metelau daear alcalïaidd a phrif grŵp o asidau Lewis.
- Parau Lewis rhwystredig
- Ymchwilio i ffiniau newydd ym maes organocatalysis
O roi gwerth ar fiomas i fân-gemegau a chemegau arbenigol
Synthesis yng nghyd-destun Bioleg a Meddygaeth:
- Chwiledyddion wedi'u labelu i'w defnyddio i fod yn genosynwyryddion wrth rwymo DNA
- Cyfryngau bioddelweddu aml-foddol
- Diagnosteg foleciwlaidd a synwyryddion
- Nanoronynnau metel paramagnetig ar gyfer MRI
Synthesis yng nghyd-destun Fferylliaeth:
- Motiffau organo-fflworin newydd
- Therapiwteg fetelogyffur
- Cymhlygau metel gwrthficrobaidd
Synthesis yng nghyd-destun Peirianneg:
- Meicroadweithyddion
- Cemeg llif parhaus a thechnolegau galluogi eraill
Synthesis yng nghyd-destun Deunyddiau:
- Datblygiad sylfaenol a dealltwriaeth o syrffactyddion fel cyfryngau canfod a diheintio
- Atebion miselaidd i'w defnyddio’n gatalyddion coloidaidd
Cewch chi hyd i ragor o fanylion am aelodau’r grŵp a’u diddordebau ymchwil drwy edrych ar eu proffiliau unigol o dan y tab Pobl.
Cwrdd â’r tîm
Arweinydd grŵp
Staff academaidd
Camau nesaf
Ymchwil sy’n gwneud gwahaniaeth
Mae ein hymchwil yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl wrth i ni gweithio ar draws disgyblaethau er mwyn ymgodymu â phrif heriau sy’n wynebu’r gymdeithas, yr economi ac ein hamgylchedd.
Ymchwil ôl-raddedig
Mae ein graddau ymchwil yn rhoi'r rhyddid i chi i archwilio pwnc arbennig mewn dyfnder ymhlith ymchwilwyr blaenllaw.
Ein heffaith ymchwil
Mae'r astudiaethau achos hyn yn rhoi sylw i rai o'r meysydd lle rydym yn cael effaith ymchwil gadarnhaol.