Ewch i’r prif gynnwys
MEAD logo

Mae Grŵp Ymchwil Ymfudo, Ethnigrwydd, Hil ac Amrywiaeth (MEAD) yn fforwm ymchwil rhyngddisgyblaethol yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol.

Ei nod yw darparu llwyfan cynhwysol ar gyfer dadleuon a thrafodaethau'r ymchwil arloesol diweddaraf ar MEAD yn y DU a thu hwnt.

Er ei fod yn canolbwyntio'n bennaf ar y gwyddorau cymdeithasol a chymdeithasegol, mae ein haelodau hefyd yn cynnwys staff academaidd, cymrodyr ymchwil ôl-ddoethurol, ymchwilwyr doethurol a myfyrwyr gradd meistr o Ysgolion Academaidd eraill megis Pensaernïaeth; Cymraeg, Cyfathrebu ac Athroniaeth; Daearyddiaeth a Chynllunio; Gofal Iechyd; Newyddiaduriaeth, a’r Gyfraith a Gwleidyddiaeth.

Nodau

  • Creu fforwm i gynorthwyo datblygiad ymchwil croestoriadol a rhyngddisgyblaethol sy'n cynnwys gwaith ar fudo, ethnigrwydd, hil, neu amrywiaeth.
  • Darparu cyfleoedd i gyflwyno ymchwil gyfredol.
  • Meithrin gwell gydweithio ar brosiectau ym Mhrifysgol Caerdydd a rhwng y Brifysgol a sefydliadau allanol, gan gynnwys llunwyr polisi, cyrff anllywodraethol a phrifysgolion eraill.
  • Datblygu rhwydwaith o fyfyrwyr, ysgolheigion academaidd, ymarferwyr, llunwyr polisi, cynrychiolwyr cyrff anllywodraethol a phartneriaid sy'n rhannu diddordeb brwd ym meysydd ymchwil MEAD.

I ymuno â'n rhestr bostio, anfonwch ebost atom: mead@caerdydd.ac.uk.

Ymchwil

Nawr ac yn y gorffennol, mae ymchwil ein haelodau yn amrywio o brosesau ceisio lloches, integreiddio mewnfudwyr a ffoaduriaid a phrofiadau setlo, iechyd meddwl a lles, ffydd ac addysg, anghydraddoldebau ethnig a hiliol yn y byd addysg a chyflogaeth, carcharu mamau duon, ac ati.

Rydym yn cynnal seminarau’n rheolaidd er mwyn edrych ar faterion damcaniaethol, methodolegol a pholisïau. Mae gwaith rhyngddisgyblaethol ar y cyd yn cael ei werthfawrogi'n fawr, ynghyd â chyd-greu gwybodaeth â defnyddwyr anacademaidd ein hymchwil.

Blog MEAD

Ewch i'n blog i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am yr ymchwil rydym yn yn ei gynnal i ymfudo, ethnigrwydd, hil ac amrywiaeth.

Ewch i’n blog (Saesneg yn unig)

Cwrdd a'r tîm

Staff academaidd

Picture of Asma Khan

Dr Asma Khan

Cydymaith Ymchwil mewn Astudiaethau Mwslimaidd Prydeinig

Telephone
+44 29208 75069
Email
asmakhan@caerdydd.ac.uk

Myfyrwyr ol-raddedig

Picture of Laiqah Osman

Miss Laiqah Osman

Myfyriwr ymchwil

Email
OsmanL2@caerdydd.ac.uk

Digwyddiadau

Cyfres Seminarau MEAD 2022

Optimistiaeth Greulon Cyfiawnder yn Ymwneud â Hil

Yr Athro Nasar Meer (Prifysgol Caeredin)

Dydd Mercher 12 Hydref, 1-2pm (dros Zoom)

Ewch i Eventbrite am grynodeb, bywgraffiad y siaradwr ac i gofrestru am docyn

Goresgyn Hiliaeth mewn Addysg Uwch: taith bersonol yn erbyn y tueddiadau sy'n bodoli

Yr Athro Urfan Khaliq (Athro Cyfreithiau Rhyngwladol Cyhoeddus ac Ewropeaidd. Rhag Is-Ganghellor a Phennaeth Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol

Yr Athro Sin Yi Cheung (Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol)

Yn y seminar hon, bydd yr Athro Khaliq yn cynnal sesiwn holi ac ateb estynedig.

Dydd Mercher 14 Rhagfyr 12:30-13:45 (seminar wyneb yn wyneb, Ystafell Bwyllgor 2, Adeilad Morgannwg)

Rhagor o fanylion gan gynnwys dolen gofrestru i ddilyn.

Cynhadledd MEAD 2022

Cynhadledd MEAD 2022: Ymfudo, Hil, Ethnigrwydd ac Amrywiaeth ym Mhrydain ar ôl Brexit a’r Pandemig

Dyddiad

Dydd Mercher 13 Gorffennaf 2022

Lleoliad

Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Ystafell Bwyllgor 1 a 2, Adeilad Morgannwg, Prifysgol Caerdydd, Rhodfa'r Brenin Edward VII, Caerdydd, CF10 3WT.

Mae'n bleser gennym gyhoeddi manylion ar gyfer ein Cynhadledd MEAD 2022. Hwn fydd ein digwyddiad wyneb yn wyneb cyntaf ers y pandemig. Edrychwn ymlaen yn fawr at weld llawer ohonoch yno!

Rhannwch y wybodaeth hon trwy eich rhwydweithiau.

Gair o Groeso

Professor Urfan Khaliq, Rhag Is-Ganghellor, Pennaeth Coleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol

Prif Siaradwyr

Michelle Alexis, (Aelod o Banel Siarter Cydraddoldeb Hiliol (DU), Advance HE; Cydymaith EDI ar gyfer Cyngor Celfyddydau Cymru; cyn Gadeirydd Grŵp Llywio Cydraddoldeb Hiliol, Prifysgol Caerdydd
'O Maisonette i'r Prif Adeilad: Mynd i'r afael ag anghydraddoldebau o'r tu mewn'

Yr Athro Steve Garner, Pennaeth yr Adran Gymdeithaseg, Prifysgol A&M Texas, UDA
"Gweithredoedd Croes: sefydliadau’n rhwystro datblygiadau gwrth-hiliol yn oes y diwylliant canslo"

Dr Katy Greenland, Darllenydd yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd
‘Ffiniau Diffiniadol Gwahaniaethu’

Gwirfoddolwyr Pwyllgor y Gynhadledd

Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i ymuno â phwyllgor y gynhadledd.

Os hoffech ddysgu sut i drefnu cynhadledd, anfonwch ebost atom: mead@caerdydd.ac.uk

Bwrsariaethau Myfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig

Mae gennym gyllideb deithio gymedrol i gefnogi myfyrwyr ymchwil y tu allan i Gaerdydd.

I gael ffurflen gais cais, ebostiwch: mead@caerdydd.ac.uk.

Enw cyswllt MEAD

Contact us with any queries.

Email us