Ewch i’r prif gynnwys

Cyfrifiadura delwedd feddygol

Rydyn ni’n dwyn ynghyd arbenigedd mewn cyfrifiadureg, ffiseg a meddygaeth i fynd i'r afael â heriau allweddol ym maes gofal iechyd.

Ein gweledigaeth yw paratoi’r ffordd ar gyfer delweddu meddygol a thechnegau cyfrifiadurol y genhedlaeth nesaf, gan ddefnyddio algorithmau datblygedig a Deallusrwydd Artiffisial (AI) i wneud newidiadau sylweddol i ddiagnosis meddygol, cynllunio triniaethau, a darparu gofal iechyd.

Amcanion

Dyma ein hamcanion:

  • gwella canlyniadau i gleifion
  • gwella llif y gwaith clinigol
  • cyfrannu at ddatblygu gofal iechyd yn fyd-eang

Ymchwil

Rydyn ni’n cynnal gwaith ymchwil weithredol i bynciau amrywiol sy’n ymwneud a chyfrifiadura delweddau meddygol (MIC), gan gynnwys:

  • cael gafael ar ddelweddau, a’u hail-greu
  • prosesu a dadansoddi delweddau
  • rheoli ansawdd yn awtomataidd
  • delweddu microstrwythurol
  • efelychu rhifiadol
  • casgliad Bayesaidd
  • data mawr
  • integreiddio data yn amlfodd
  • cywasgu data

Prosiectau

Mae ein prosiectau cyfrifiadura delweddau meddygol (MIC) rhyngddisgyblaethol yn cael eu hariannu gan Ymchwil ac Arloesedd y Deyrnas Gyfunol (UKRI), Ymchwil Canser Cymru, a’r maes diwydiant (Roche a GSK) ac ati.

Mae rhai o'n prosiectau yn cynnwys:

Staff academaidd

Picture of Hantao Liu

Yr Athro Hantao Liu

Athro Deallusrwydd Artiffisial Dynol-Ganolog
Cyfarwyddwr Rhyngwladol

Telephone
+44 29208 76557
Email
LiuH35@caerdydd.ac.uk
Picture of Paul Rosin

Yr Athro Paul Rosin

Athro Golwg Cyfrifiadurol

Telephone
+44 29208 75585
Email
RosinPL@caerdydd.ac.uk
Picture of Wei Zhou

Dr Wei Zhou

Darlithydd mewn Cyfrifiadura Gweledol Deallus

Email
ZhouW26@caerdydd.ac.uk

Y camau nesaf

Ymchwil sy’n gwneud gwahaniaeth

Mae ein hymchwil yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl wrth i ni gweithio ar draws disgyblaethau er mwyn ymgodymu â phrif heriau sy’n wynebu’r gymdeithas, yr economi ac ein hamgylchedd.

Ymchwil ôl-raddedig

Mae ein graddau ymchwil yn rhoi'r rhyddid i chi i archwilio pwnc arbennig mewn dyfnder ymhlith ymchwilwyr blaenllaw.

Ein heffaith ymchwil

Mae'r astudiaethau achos hyn yn rhoi sylw i rai o'r meysydd lle rydym yn cael effaith ymchwil gadarnhaol.