Ewch i’r prif gynnwys

Mae'r Grŵp Peirianneg Feddygol wedi ennill cydnabyddiaeth ryngwladol am ei ymchwil.   

Gwyliwch y fideo hwn.

Rydyn ni’n ymgymryd ag ymchwil ar:

  • dechnegau delweddu diagnostig newydd a thriniaethau personoledig
  • dulliau datblygedig ar gyfer prosesu delweddau a signalau meddygol
  • gwybodeg feddygol
  • monitro iechyd a chwaraeon
  • dadansoddi symudiad dynol.

Rydyn ni hefyd yn gweithio i ddeall sut mae'r corff yn ymateb i drawma, mewnblaniadau a thechnolegau biofeddygol eraill.

Mae ein hymchwil yn caniatáu i ni beiriannu atebion a fydd yn cael manteision cadarnhaol yn y diwydiannau gofal iechyd a chwaraeon ar gyfer cleifion meddygol. Mae ein gweithgaredd hefyd yn effeithio ar y proffesiwn cyfreithiol a diogelwch plant a chymdeithas.  

Mae gennym brofiad helaeth o weithio gyda gwahanol ddulliau delweddu meddygol fel Tomograffeg Gyfrifiadurol (CT), Tomograffeg Allyrru Positronau (PET), Tomograffeg Gyfrifiadurol Allyrru Ffotonau Sengl (SPECT) a delweddu uwchsain.

Mae gennym hefyd brofiad helaeth mewn:

  • acwsteg danddwr
  • acwsteg y corff dynol
  • algorithmau matrics polynomial ar gyfer prosesu signalau araeau synwyryddion band eang
  • rhwydweithiau synwyryddion y corff
  • segmentu delweddau a fideo
  • dadansoddi symudiad dynol
  • adnabod gweithredoedd a gweithgarwch dynol.

Mae ein grŵp ymchwil yn cydweithio'n agos â sawl partner yn y diwydiant a'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol sy'n cefnogi ein gweithgarwch mewn ymchwil feddygol.

Cydweithredwyr

Rydyn ni’n cydweithio â nifer o sefydliadau a labordai gan gynnwys:

Newyddion dan sylw

Treial sganio Caerdydd ac Abertawe yn targedu canserau'r pen.

Prifysgol Caerdydd i greu 'clytiau craff' osteoarthritis.

Technoleg helmedau i leihau cyfergyd yn yr NFL.

Ymchwil

Personoli triniaethau canser

Mae canser yn faes gweithgarwch pwysig yn ein grŵp ymchwil. Mae gennym raglen barhaus o ymchwil lwyddiannus a ariennir yn allanol ym maes delweddu canser, personoli triniaethau a dadansoddi canlyniadau triniaeth.

Yn ogystal â datblygiad parhaus technegau datblygedig ar gyfer dadansoddi delweddau a data, rydyn ni’n adeiladu seilwaith TG ac algorithmau safonedig y gellir eu cynnwys mewn unrhyw broses hyfforddi a dilysu dysgu peirianyddol. Fel rhan o’r prosiect 'Datrysiadau AI ar gyfer Radiotherapi Personoledig' (ASPIRE), mae Life Imaging and Data Analytics (LIDA), Ymddiriedolaeth GIG Felindre a’r Intel Corporation yn gweithio ar brosiect sydd â'r nod o hyfforddi a dilysu meddalwedd AI ar gyfer darlunio meintiau tiwmor yn awtomataidd ar gyfryngau delweddu anatomegol a swyddogaethol.

Rydyn ni hefyd yn datblygu llif gwaith radiotherapi cwbl awtomataidd (o segmentu awtomataidd yn seiliedig ar AI i gynllunio awtomataidd yn seiliedig ar AI), ac yn datblygu system cefnogi penderfyniadau i glinigwyr ei defnyddio mewn ymarfer clinigol. Gan fod angen setiau data mawr o ystod eang o boblogaethau gwahanol sy'n cynrychioli’r amrywiaeth yn y boblogaeth gyfan o gleifion canser i ddysgu modelau rhagfynegi, rydyn ni’n defnyddio dull dysgu cyfunol a gynlluniwyd i fynd i'r afael â ffiniau moesegol a chyfreithiol a chyfyngu ar effaith cydweithrediad preifatrwydd data rhwng sefydliadau ymchwil.

Rydyn ni’n rhan o’r prosiectau Theragnosteg Drwy Gymorth Cyfrifiadur Ewropeaidd (EuroCAT) a'r Gymuned mewn Oncoleg ar gyfer Dysgu Cyflym (CORAL).

Cysylltwch â'r Athro Emiliano Spezi am ragor o wybodaeth.

Asesiadau clinigol sensitif, gwrthrychol a chyson ar gyfer clefydau niwroddirywiol

Mae clefyd niwroddirywiol yn derm cyffredinol am ystod o gyflyrau, sy'n effeithio'n bennaf ar y niwronau yn yr ymennydd dynol. Mae enghreifftiau o glefydau niwroddirywiol yn cynnwys clefyd Parkinson, clefyd Alzheimer, a chlefyd Huntington. Ar hyn o bryd mae clefydau niwroddirywiol yn gyflyrau gwanychol na ellir eu gwella sy'n arwain at ddirywiad cynyddol a/neu farwolaeth celloedd nerfol. Mae hyn yn achosi problemau gyda symudiad (atacsia), neu weithrediad meddyliol (dementia).

Mewn ymarfer clinigol, mae'r clefydau hyn a'u symptomau’n cael eu hasesu gan ddefnyddio nifer o brofion arbennig, fel yr Archwiliad Cyflwr Meddyliol Bach (MMSE) a’r Prawf Darlunio Cloc (CDT) ar gyfer dementia neu’r Raddfa Sgorio Clefyd Huntington (Parkinson) Unedig (UH(P)DRS) ar gyfer clefyd Huntington (Parkinson).

Yn draddodiadol, caiff y profion hyn eu gweinyddu gan glinigwyr arbenigol a’u hasesu ar sail arsylwadau, felly mae'r asesiadau wedi’u cyfyngu gan amrywioldeb rhwng sgorwyr ac o fewn sgorwyr unigol, tuedd oddrychol a chynllun categorïau. Ar yr un pryd, mae ’na ymchwil barhaus ar driniaethau mwy effeithiol ar gyfer clefydau o'r fath, ac felly mae angen datblygu dulliau asesu mwy sensitif, cyson a gwrthrychol ar gyfer clefydau.

Mae hwn yn gydweithrediad parhaus rhwng yr Ysgol Meddygaeth a'r Ysgol Peirianneg.

Cysylltwch â Dr Yulia Hicks am ragor o wybodaeth.

Prosesu signalau ar gyfer monitro iechyd a chwaraeon

Rydyn ni’n datblygu algorithmau datblygedig ar gyfer prosesu signalau ac ymasio data ar gyfer dadansoddi’r data a geir drwy amrywiaeth o ddyfeisiau, fel ffonau symudol, camerâu fideo, unedau mesur inertiol (IMU) ac unedau electromyograffi (EMG) ar gyfer monitro chwaraeon ac iechyd. Mae'r data’n cael ei ddadansoddi a darperir adborth priodol i'r pwnc a gweithwyr meddygol proffesiynol er mwyn monitro cyflwr y claf a datblygu triniaeth bersonoledig sy'n briodol i’r cyflwr. Mae'r cymwysiadau hyd yn hyn wedi cynnwys clefyd Huntington a phoen yn rhan isaf y cefn.

Ffrwyth cydweithrediad â’r Ysgol Meddygaeth a'r Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd yw’r ymchwil hwn.

Cysylltwch â Dr Yulia Hicks am ragor o wybodaeth.

Esbonio modelau dysgu dwfn ar gyfer adnabod gweithredoedd a gweithgarwch dynol

Mae poblogrwydd gwyliadwriaeth fideo a'r cynnydd helaeth mewn cynnwys fideo ar y we yn golygu mai fideo yw un o'r adnoddau data sy'n tyfu gyflymaf. Mewn fideos o'r fath, gellir dadlau mai bodau dynol yw'r pynciau mwyaf diddorol.

Mae dulliau dysgu dwfn wedi bod yn llwyddiannus mewn llawer o feysydd golwg cyfrifiadurol, gan gynnwys adnabod gweithredoedd a gweithgarwch dynol. Fodd bynnag, er mwyn bod yn hyderus wrth ragfynegi, mae angen i'w penderfyniadau fod yn dryloyw ac yn esboniadwy. Nod y prosiect hwn yw datblygu algorithmau a all esbonio'r penderfyniadau a wneir gan y dulliau dysgu dwfn, yn benodol pan gânt eu cymhwyso i adnabod gweithgarwch dynol.

Ffrwyth cydweithrediad â'r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg yw’r ymchwil hwn.

Cysylltwch â Dr Yulia Hicks am ragor o wybodaeth.

Biofecaneg meinwe feddal

Rydyn ni’n canolbwyntio ar ddeall a chynnal strwythur a swyddogaeth meinwe feddal, gyda ffocws sylweddol ar ddeall a lleihau canlyniadau gwrthdrawiadau pen is-gyfergydiol.

Yn ddiweddar, mae effaith gronnus gwrthdrawiadau pen is-gyfergydiol ar draws chwaraeon elît, gan gynnwys pêl-droed Americanaidd, wedi cael tipyn o sylw. Rydyn ni’n gweithio ochr yn ochr â diwydiannau perthnasol i ddatblygu deunyddiau helmed newydd gyda’r nod o leihau effaith y gwrthdrawiadau hyn, tra'n dal i gynnig amddiffyniad yn erbyn anafiadau difrifol i'r ymennydd o ganlyniad i wrthdrawiadau grym uwch.

Mae ein dull gweithredu’n canolbwyntio ar fanteisio ar y rhyddid dylunio a'r dewisiadau deunyddiau a geir drwy weithgynhyrchu adiol sy'n seiliedig ar ffilamentau. Yn ddiweddar, rydyn ni wedi denu cyllid gan y rhaglenni ymchwil HeadHealthTech yn yr Unol Daleithiau a KESS II yng Nghymru, ac rydyn ni’n parhau i weithio ochr yn ochr â gweithgynhyrchwyr helmedau blaenllaw. Rydyn ni’n cydweithredu'n genedlaethol ac yn rhyngwladol gyda phrifysgolion, clinigwyr a diwydiant i gyflymu ein cynnydd a sicrhau llwybrau effeithlon i wireddu ein canfyddiadau newydd.

Cysylltwch â Dr Peter Theobald am ragor o wybodaeth.

Peirianneg feddygol mewn MRI

Mae Canolfan Ymchwil Delweddu'r Ymennydd Prifysgol Caerdydd (CUBRIC) yn gartref i gyfleusterau delweddu'r ymennydd o'r radd flaenaf gan gynnwys 4 sganiwr MRI. Mae prif ffocws ymchwil y grŵp wedi bod ar ddatblygu dulliau ar gyfer tracio a chywiro mewn ymateb i symudiadau’r pwnc sy'n cael ei sganio. Mae hyn yn arbennig o berthnasol i sganio pynciau sy'n fwy tebygol o’i chael hi’n anodd aros yn llonydd yn ystod y sgan MRI, fel plant neu gleifion â chlefyd niwroddirywiol.

Gall technegau cywiro symudiad hefyd fod yn hanfodol ar gyfer sganiau ymchwil eglur iawn lle mae gwirfoddolwyr iach hyd yn oed yn debygol o symud milimetr neu ddwy yn ystod cyfnodau delweddu estynedig - digon i effeithio'n ddifrifol ar ansawdd delwedd lle targedir dadansoddiadau o lawer llai na milimetr.

Un dull newydd cyffrous sydd ar gael ar gyfer tracio symudiadau yw dyfais ein partneriaid diwydiannol TracInnovations (Denmarc) sy'n defnyddio camera golau strwythuredig (technoleg debyg i Microsoft Kinect ond wedi'i haddasu i'w defnyddio mewn sganiwr MRI) i gael delwedd arwyneb 3D o ran o ben y pwnc wrth iddo orwedd yn y sganiwr. Mae hyn yn galluogi i symudiadau’r pen gael eu tracio mewn amser real heb fod angen gosod unrhyw fath o farciwr ychwanegol ar y pen.

Cysylltwch â Dr Daniel Gallichan am ragor o wybodaeth.

Diagnosis canser

Ffocws arall i'n grŵp yw gwella diagnosis canser. Archwiliwyd technegau amrywiol i ganfod ac ynysu celloedd tiwmor sy'n cylchredeg (CTCau), lle mae dyfeisiau microhylifegol yn cynnig cyfle unigryw o ran didoli a chanfod celloedd. Maen nhw wedi’u cymhwyso ar gyfer cytometreg llif, yn ogystal â gwahanu ar sail maint ac adlyniad, sy'n gofyn am offeryniaeth symlach.

Dangoswyd y gallai aptamerau sy'n integreiddio â thechnegau eraill fod yn ymgeiswyr da ar gyfer dadansoddi'r CTC sengl yn gyfochrog â thechnolegau cipio, uwchsonig a microhylifegol wrth nodweddu a didoli CTCau sengl ar gyfer cymwysiadau amser real. Nod y prosiect hwn yw datblygu labordy-ar-sglodyn hybrid sy'n cofleidio'r tair techneg, i nodweddu CTCau sengl, gyda'r amcanion canlynol:

  • Integreiddio nodweddu ac ynysu mewn labordy-ar-sglodyn sengl, i hwyluso ymchwiliad amser real a di-label ar gyfer CTCau sengl;
  • Pennu llofnod ynysol a model cychwynnol CTCau, er mwyn mynd ati i gymhwyso adnabyddiaethau moleciwlaidd i ganfod canser yn gynnar a therapi canser personoledig;
  • Cymhwyso'r synhwyrydd i fesur samplau celloedd canser, i gofrestru'r nodweddion ynysol a deall bioleg a metastasis canser.

Cysylltwch â Dr Chris Yang am ragor o wybodaeth.

Peirianneg orthopedig

Mae gwaith presennol yn y maes hwn yn cynnwys datblygu cynlluniau a phrofi mewnblaniadau orthopedig a sut maen nhw’n effeithio ar y claf. Mae dadansoddi sut mae'r corff yn symud cyn ac ar ôl mewnblaniad yn ein helpu i sicrhau bod y mewnblaniadau cywir yn cael eu defnyddio a bod y gofal cywir yn cael ei roi i gleifion.

Un o'r prif bethau rydyn ni’n canolbwyntio arno yw archwilio biofecaneg symudiadau dynol a'i chymwysiadau biofeddygol i osteoarthritis, ail-alinio cymalau, a llawdriniaeth amnewid cymalau. Rydyn ni’n defnyddio dadansoddiad symudiadau 3D, ochr yn ochr â modelau mathemategol, i fesur y swyddogaeth a adferir yn y coesau yn dilyn llawdriniaeth amnewid pen-glin gyfan

Rydyn ni’n rhan o Ganolfan Biofecaneg a Biobeirianneg amlddisgyblaethol Ymchwil Arthritis y DU, sy'n cynnal ymchwil i achosion, effeithiau a thriniaeth osteoarthritis gan ddefnyddio'r technegau uchod.

Mae ein cyd-ymchwilwyr yn dod o ystod eang o feysydd, gan gynnwys pediatreg, orthopedeg, patholeg, biocemeg a gwyddorau glinigol.

Cysylltwch â’r Athro Cathy Holt neu Dr Gemma Whatling am ragor o wybodaeth.

Peirianneg fforensig

Mae ymchwil gyfredol yn cynnwys biofecaneg anafiadau i'r pen, syndrom babanod wedi'u hysgwyd, cwympiadau a thoriadau i’r breichiau/coesau, clwyfau cyllyll, trawma ardrawiad pŵl a chinemateg ymosodiadau.

Gall anafiadau i’r pen mewn plant gael eu hachosi gan gwympiadau mewn meysydd chwarae, damweiniau beic, syndrom babanod wedi'u hysgwyd a mathau eraill o drawma. Trwy ddeall natur yr anafiadau a sut maen nhw'n digwydd, mae'n bosibl i ni beiriannu atebion a all helpu i atal anafiadau yn y dyfodol.

Mae prosiectau ymchwil yn cynnwys y defnydd o feddalwedd Dadansoddi Corff Solid ac Elfennau Cyfyngedig sy’n arwain y diwydiant i ddatblygu model cyfrifiadurol i gynrychioli baban yn anatomegol a biofecanyddol trwy gamau datblygiadol allweddol, sy'n galluogi'r grŵp i ymchwilio i anafiadau o senarios damweiniol a bwriadol.

Mae prosiectau eraill yn cynnwys cydweithrediadau ag Ysbyty Athrofaol Cymru i ymchwilio i berfformiad dadebru cardiopwlmonaidd, ac effeithiolrwydd offer diogelwch plant.

Cysylltwch â Dr Mike Jones am ragor o wybodaeth.

Technoleg gofal iechyd

Rydyn ni hefyd yn gweithio'n agos gyda Cedar, canolfan ymchwil technoleg gofal iechyd sy'n arbenigo mewn gwerthuso dyfeisiau meddygol ac yn dwyn ynghyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a'r Ysgol Peirianneg.

Ers 2010, prif weithgarwch Cedar yw gwerthuso dyfeisiau meddygol ar gyfer Sefydliad Rhagoriaeth Iechyd a Gofal Cenedlaethol (NICE) y GIG. Mae staff Cedar hefyd yn ymwneud â hwyluso treialon clinigol, datblygu dulliau mesur canlyniadau a adroddir gan gleifion (PROMau), darparu adolygiadau tystiolaeth ar gyfer sefydliadau iechyd, llywodraeth a diwydiant, a chydweithrediadau ymchwil gydag academyddion a chlinigwyr yng Nghaerdydd a thu hwnt. Daw'r ymchwilwyr yn Cedar o amrywiaeth o gefndiroedd gwyddonol ac iechyd proffesiynol, ac fel tîm mae ganddyn nhw arbenigedd mewn:

  • adolygu tystiolaeth (adolygu systematig, adolygu cyflym, arfarnu beirniadol)
  • economeg iechyd (modelu ar gyfer gwneud penderfyniadau)
  • safonau a rheoleiddio dyfeisiau meddygol
  • dulliau ymchwil ansoddol (cyfweld, arolygon)
  • ystadegau meddygol
  • ymchwil glinigol (treialon ymyriadol, cysylltiadau cofrestri a data)
  • mabwysiadu technolegau meddygol.

Cwrdd â’r tîm

Arweinydd grŵp

Staff academaidd

Myfyrwyr ôl-raddedig

No picture for Jinlei Chen

Dr Jinlei Chen

PhD Student/Research Assistant

Email
ChenJ111@caerdydd.ac.uk
Picture of Chen Li

Ms Chen Li

Myfyriwr ymchwil

Email
LiC77@caerdydd.ac.uk

Staff cysylltiedig

Cyhoeddiadau

Cyfleusterau

Cyfleuster Delweddu Bywyd a Dadansoddi Data

Mae'r Cyfleuster Delweddu Bywyd a Dadansoddi Data (LIDA), dan arweiniad yr Athro Emiliano Spezi, yn canolbwyntio ar brosesu delweddau meddygol datblygedig, technegau radiomeg a modelu cyfrifiadurol datblygedig i optimeiddio a phersonoli triniaethau.

Mae offer labordy LIDA yn cynnwys seilwaith caledwedd o'r radd flaenaf ar gyfer storio data mewn cyfuniad â meddalwedd delweddu meddygol fel:

Automatic Decision-Tree Based Learning Algorithm for Advanced Segmentation (ATLAAS)

Ym maes delweddu meddygol, mae'r tîm wedi datblygu ATLAAS, offeryn yn seiliedig ar ddysgu peirianyddol sydd wedi ennill gwobrau. Gellir ei ddefnyddio i ddewis y dull segmentu awtomataidd Tomograffeg Allyrru Positronau optimaidd ar gyfer cynllunio triniaeth radiotherapi.

Labordy Synwyryddion ac Uwchsain Feddygol

Mae’r Labordy Synwyryddion ac Uwchsain Feddygol (MUSL), dan arweiniad Dr Chris Yang, yn canolbwyntio ar ddatblygu technolegau gofal iechyd yn seiliedig ar drawsddygiaduron ac uwchsain.

Mae gan MUSL gapasiti llawn o ran gweithgynhyrchu trawsddygiaduron acwstig, dyfeisiau acwstohylifegol, offerynnau meddygol a dyfeisiau a microhylifau nodweddu. Mae amrywiaeth o offer microbeiriannu a microsgopeg ar gael ar gyfer ffugio a phrofi. Rydyn ni wedi bod yn cydweithredu â sbectrwm eang o fiolegwyr, clinigwyr, diwydiannau ac academyddion gan gynnwys sefydliadau fel Prifysgol Chicago, Prifysgol Duke, Prifysgol Caergrawnt, Prifysgol Caerfaddon, Prifysgol Northumbria, Prifysgol Technoleg Dalian, Prifysgol Tianjin a Phrifysgol Northwestern Polytechnical.

Labordy Technoleg Ffactorau Dynol

Labordy rhyngddisgyblaethol yw hwn a sefydlwyd rhwng yr Ysgolion Peirianneg, Cyfrifiadureg a Gwybodeg a Seicoleg o dan gyfarwyddyd Dr Yulia Hicks, yr Athro David Marshall a'r Athro Simon Rushton yn y drefn honno.

Mae'r cyfarpar allweddol yn cynnwys:

  • Systemau Cipio Symudiadau gan gynnwys system 16 Camera 480Hz marciwr isgoch Phasespace 80 (Traciwr 3 Pherson) a sawl traciwr electromagnetig.
  • Camera Fideo Lliw 4D 3dMD gyda Chyfradd Ffrâm 100Hz ac allbwn lliw + pwyntiau 3D.
  • Cyfrifiaduron pwerus gyda GPUs lluosog.

Rhagor o wybodaeth am y Labordy Technoleg Ffactorau Dynol.

Y Cyfleuster Ymchwil Biofecaneg Gyhyrysgerbydol

Agorwyd y Cyfleuster Ymchwil Biofecaneg Gyhyrysgerbydol dan arweiniad yr Athro Cathy Holt yn 2017 fel menter labordy a ariennir ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Phrifysgol Caerdydd.

Mae gan y cyfleuster ymchwil:

  • Labordy symudiad dynol clinigol - 12 camera cipio symudiad Qualisys, 6 phlât grym Bertec, synwyryddion EMG arwyneb diwifr Delsys, grisiau wedi’u hofferynnu, deinamomedr isocinetig Biodex, a melin draed wedi’i hofferynnu.
  • Labordy addysgu symudiadau dynol - 12 camera cipio symudiad Qualisys, 6 phlât grym Bertec, synwyryddion EMG arwyneb diwifr Delsys a sganiwr DXA.
  • Labordy pelydr-X a symudiad dynol pwls â dau blân - system pelydr-X pwls bwrpasol â dau blân, a ddatblygwyd gydag Electron-X, y cyntaf o'i math yn y DU ar gyfer ymchwil ddynol. Mae hefyd yn cynnwys 12 camera cipio symudiad Qualisys, 4-6 phlât grym Bertec, synwyryddion EMG arwyneb diwifr Delsys, melin draed wedi'i hofferynnu a meddalwedd arbenigol ar gyfer segmentu, dadansoddi a modelu delweddau.
  • Ystafell sganio MicroCT - Bruker SkyScan 1272.
  • Ystafell asesu/tynnu gwaed glinigol

Mae galluoedd ychwanegol yn cynnwys:

  • system mesur grym a phwysau llwybr cerdded Tekscan
  • mat pwysau GAITRite
  • system uwchsain Samsung RS80A
  • mae'r cyfarpar cwbl gludadwy yn cynnwys synwyryddion mesuriadau inertiol corff llawn XSens
  • sganiwr Artec 3D
  • synwyryddion pwysau mewn esgid
  • System Dadansoddi Cymalau K-Scan
  • monitorau gweithgaredd GENEActiv
  • camerâu cipio symudiad a fideo Qualisys
  • platiau grym
  • EMG/IMUs arwyneb.

Dysgwch fwy am y Cyfleuster Ymchwil Biofecaneg Gyhyrysgerbydol.

Ysgolion

Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd

Rydyn ni’n ddeinamig, yn arloesol ac yn flaengar, a chydnabyddir ein rhagoriaeth ym meysydd dysgu, addysgu ac ymchwil.

Ysgol y Biowyddorau

Yn Ysgol y Biowyddorau ceir diwylliant deinamig ac ysgogol ar gyfer dysgu ac ymchwil ac mae gennym gyfleusterau modern o safon yn ogystal â staff o'r radd flaenaf.

Delweddau

Camau nesaf

Ymchwil sy’n gwneud gwahaniaeth

Mae ein hymchwil yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl wrth i ni gweithio ar draws disgyblaethau er mwyn ymgodymu â phrif heriau sy’n wynebu’r gymdeithas, yr economi ac ein hamgylchedd.

Ymchwil ôl-raddedig

Mae ein graddau ymchwil yn rhoi'r rhyddid i chi i archwilio pwnc arbennig mewn dyfnder ymhlith ymchwilwyr blaenllaw.

Ein heffaith ymchwil

Mae'r astudiaethau achos hyn yn rhoi sylw i rai o'r meysydd lle rydym yn cael effaith ymchwil gadarnhaol.