Ewch i’r prif gynnwys

Grŵp Ymchwil Addysg Mathemateg

Rydym yn canolbwyntio ar ddatblygu a gwerthuso dulliau newydd o ddysgu ac addysgu mathemateg mewn ymateb i newid cymdeithasol a thechnolegol parhaus.

Ffocws y Grŵp Ymchwil Addysg Mathemateg yw datblygu a gwerthuso dulliau newydd o ddysgu ac addysgu mathemateg mewn ymateb i newid cymdeithasol a thechnolegol parhaus.

Mae gan y grŵp ddiddordeb mewn hybu damcaniaeth ac ymarfer addysg mathemateg yn y brifysgol. Yn hyn o beth, aiff y grŵp ati i gasglu tystiolaeth er mwyn asesu effeithiolrwydd mathau gwahanol o addysgu, ac i gefnogi athrawon a darlithwyr i ddatblygu eu hysgolheictod dysgu ac addysgu.

Rydyn ni’n gweithio'n agos gydag Athena SWAN a'r Uned Hyrwyddo Cydraddoldeb er mwyn sicrhau y rhoddir ystyriaeth drylwyr i gynwysoldeb a chydraddoldeb wrth gynllunio ac asesu ymyriadau addysgol. Rydyn ni’n gweithio ar y cyd â chyd-weithwyr ledled Prifysgol Caerdydd, er enghraifft yr Ysgol Ffiseg ac Ysgol y Biowyddorau, ac yn cyfranogi’n helaeth yn Rhaglen Ymarfer Academaidd y Brifysgol.

Rydyn ni hefyd yn ymgysylltu â rhwydweithiau cenedlaethol megis yr Academi Addysg Uwch a'r rhwydwaith sigma, ac yn cyd-weithio â sefydliadau ledled y sector, gan gynnwys Prifysgol Caerfaddon, Prifysgol Caeredin, Prifysgol Loughborough, Prifysgol Newcastle a Phrifysgol Sheffield Hallam.

Amcanion

Y cwestiwn canolog yw: Sut gallwn ni hwyluso dysgu effeithiol ym maes mathemateg?

Ymchwil

Meysydd eang o ddiddordeb

  • Ymgysylltu academaidd â myfyrwyr, a meithrin amgylcheddau dysgu gweithredol
  • Yn rhan o hynny y mae annog myfyrwyr i roi cynnig ar broblemau, rhannu a thrafod syniadau, hunanfyfyrio, a datblygu eu dulliau eu hunain o ddatrys problemau.
  • Ymhlith y dulliau penodol a nodwyd y mae cyfarwyddyd gan gymheiriaid (gan ddefnyddio "clicwyr" mewn grwpiau mawr neu fyfyrwyr yn trafod cwestiynau mewn grwpiau bach yn ystod darlithoedd), asesiadau gan gymheiriaid a fforymau ar-lein.
  • Defnyddio technoleg ddysgu mewn addysgu
  • Mae'r cwestiynau'n cynnwys sut y gellir defnyddio hyn mewn modd effeithiol, a sut rydyn ni’n gwerthuso ei ddefnyddioldeb?
  • Ymhlith y dulliau penodol a nodwyd y mae dysgu wyneb i waered (flipped learning), e-asesiadau, recordio darlithoedd, a dylunio a defnyddio meddalwedd ffynhonnell agored
  • Datblygu sgiliau hanfodol i raddedigion
  • Y sgiliau penodol a nodwyd yw llythrennedd a chyfathrebu, a datrys problemau

Meysydd penodol o ddiddordeb

  • Cynnig Cymorth Mathemateg ledled y brifysgol
  • Cefnogi'r cyfnod pontio o'r ysgol i lefel israddedig
  • Dimensiynau personoliaeth a'u heffeithiau ar ddysgu. Pryder Mathemateg ac effaith hyder mathemategol ar ddysgu.
  • Dulliau arloesol o ddarlithio, e.e. rôl perfformiad (y darlithwyr) o ran ansawdd y dysgu
  • Dadansoddi data arolygon myfyrwyr
  • Dysgu seiliedig ar waith
  • Pobl

Cwrdd a'r tîm

Picture of Dafydd Evans

Dr Dafydd Evans

Lecturer in Operational Research

Telephone
+44 29208 70621
Email
EvansD8@caerdydd.ac.uk
Picture of Daniel Gartner

Dr Daniel Gartner

Professor of Operational Research

Telephone
+44 29208 70850
Email
GartnerD@caerdydd.ac.uk
Picture of Jonathan Gillard

Yr Athro Jonathan Gillard

Athro Ystadegau/Gwyddor Data
Dirprwy Bennaeth yr Ysgol

Telephone
+44 29208 70619
Email
GillardJW@caerdydd.ac.uk
Picture of Katerina Kaouri

Dr Katerina Kaouri

Darllenydd (Athro Cyswllt)

Telephone
+44 29208 75259
Email
KaouriK@caerdydd.ac.uk

Digwyddiadau

Seminarau a gweithdai

Mae cyfuniad o siaradwyr allanol a mewnol ar raglen y seminar/gweithdy. Ciniawau Dysgu ac Addysgu fydd y sesiynau mewnol a fydd fel arfer yn dechrau gyda chyflwyniad 15-20 munud gan adael yr amser sy'n weddill ar gyfer trafodaeth a dadl.

Bydd y rhain yn cael eu cynnal am 14:10 ar ddydd Gwener yn M/1.02 oni nodir yn wahanol.

Dr Rob Wilson a Dr Mathew Pugh yw trefnwyr y rhaglen, a hwythau yw’r pwyntiau cyswllt.

Dyddiad

Siaradwr

Seminar

7 Chwefror 2020

Gweithdy Ysgoloriaeth

Deilliannau ar lefel y rhaglen

Bydd y sesiwn drafod hon yn adolygu'r deilliannau cyfredol ar lefel y rhaglen o ran graddau israddedig yn yr Ysgol Mathemateg.

14 Chwefror 2020

Daniel Gartner (Yr Ysgol Mathemateg)

I'W GADARNHAU

21 Chwefror 2020

Kevin Houston (Leeds)

I'W GADARNHAU

13 Mawrth 2020

Gweithdy Ysgoloriaeth

Arddangosfa Addysgu Mathemateg

27 Mawrth 2020

Tony Croft (Loughborough)

I'W GADARNHAU

Digwyddiadau yn y gorffennol

Dyddiad

Siaradwr

Seminar

4 Hydref 2019

Michael Willet ac Emmajane Milton (Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol)

Sesiwn holi a thrafod

Yn y sesiwn fer, ryngweithiol hon, byddwn ni’n trafod dull arloesol y gellir ei ddefnyddio i ysbrydoli ac ennyn diddordeb myfyrwyr mewn sesiynau addysgu grwpiau bach; 'Quescussion' gan Gedalof (2005) (gweithgaredd trafod sy'n cynnwys cwestiynau’n unig). Mae hwn yn weithgaredd sy'n canolbwyntio ar y myfyriwr sy'n hyrwyddo cydraddoldeb ac yn meithrin datblygiad sgiliau meddwl yn feirniadol. Er bod y dull hwn wedi'i ddatblygu'n wreiddiol ar gyfer addysgu Llenyddiaeth Saesneg mewn Addysg Uwch, ein nod yw trin a thrafod a yw ei gwmpas yn drosglwyddadwy y tu allan i gyd-destun y dyniaethau a'r gwyddorau cymdeithasol, oherwydd union natur yr hyn y mae'n ceisio ei gyflawni — meddwl yn feirniadol, cwestiynu, annibyniaeth ac ymreolaeth

24 Hydref 2019

Gweithdy Ysgoloriaeth

Ymgysylltu â Myfyrwyr

Bydd y sesiwn drafod hon yn trin a thrafod pa ffactorau sy'n cyfrannu at ymgysylltiad myfyrwyr â'u hastudiaethau academaidd ym maes mathemateg, a pha feysydd ysgolheigaidd penodol y dylai'r grŵp MERG ganolbwyntio arnynt dros y flwyddyn academaidd nesaf.

31 Hydref 2019

Matthew Inglis (Loughborough)

Pum degawd o ymchwil addysg mathemateg

Mae addysgwyr mathemateg wedi bod yn cyhoeddi eu gwaith mewn cyfnodolion ymchwil rhyngwladol ers pum degawd. Sut mae'r maes wedi datblygu dros y cyfnod hwn? Yn y cyflwyniad hwn, rwy'n cynnig dadansoddiad o’r holl erthyglau, yn eu cyfanrwydd, a gyhoeddwyd yn Educational Studies in Mathematics a'r Journal for Research in Mathematics Education ers eu sefydlu. Gan ddefnyddio syniad Lakatos o raglen ymchwil, rwy'n canolbwyntio ar gyfeiriadedd damcaniaethol y maes sy’n newid, ac yn talu sylw arbennig i amlygrwydd cymharol y rhaglenni seicoleg arbrofol, adeileddol a chymdeithasol-ddiwylliannol. Rwy'n asesu'n feintiol faint y 'tro cymdeithasol', yn arsylwi bod y maes ar hyn o bryd yn profi cyfnod o amrywiaeth ddamcaniaethol, ac yn nodi a thrafod y 'clogwyn arbrofol', cyfnod pan ymfudodd ymchwiliadau arbrofol i ffwrdd o gyfnodolion addysg fathemateg.

7 Tachwedd 2019

Gweithdy Ysgoloriaeth

Sesiwn Agored

Bydd y sesiwn agored hon yn rhoi cyfle i rannu enghreifftiau cyfredol o ymarfer dysgu ac addysgu effeithiol, i drafod cynlluniau/syniadau ar gyfer arferion sydd i ddod ac i archwilio/holi am welliannau posibl o ran arferion yn y dyfodol.

14 Tachwedd 2019

Geraint Palmer (Yr Ysgol Mathemateg)

Asesu Modiwl Llythrennedd Data y Flwyddyn Ragarweiniol

Mae'r dull asesu ar gyfer MA0004 Mathemateg Ragarweiniol yn newid, bydd y modiwl nawr yn 100% gwaith cwrs. Mae hyn yn rhoi rhyddid i adlinio ffocws y modiwl i agweddau mwy ymarferol ar lythrennedd data. Byddaf yn trafod y modiwl ei hun, manteision ac anfanteision y dull asesu blaenorol, rhesymeg dros yr asesu newydd a’r manylion, a sut y bydd amserlen y modiwl yn adlinio i roi mwy o bwyslais ar y prosiectau hyn. Rwy'n gobeithio defnyddio'r amser hwn i wrando ar farn y cyfranogwyr ar hyn, a thrafod mireinio'r model newydd.

5 Rhagfyr 2019

Yn dechrau am 14:00

Gweithdy Ysgoloriaeth

Beth yw Pasio?

Bydd y sesiwn drafod hon yn trin a thrafod yr hyn rydyn ni’n ei olygu wrth 'basio modiwl', a thrafod sut y dylai gwaith rhywun sy’n haeddiannol o basio modiwl fod, yn enwedig ym maes mathemateg.

Seminarau a gweithdai Grŵp Ymchwil Addysg Mathemateg 2017-18 (PDF)

Y camau nesaf

Ymchwil sy’n gwneud gwahaniaeth

Mae ein hymchwil yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl wrth i ni gweithio ar draws disgyblaethau er mwyn ymgodymu â phrif heriau sy’n wynebu’r gymdeithas, yr economi ac ein hamgylchedd.

Ymchwil ôl-raddedig

Mae ein graddau ymchwil yn rhoi'r rhyddid i chi i archwilio pwnc arbennig mewn dyfnder ymhlith ymchwilwyr blaenllaw.

Ein heffaith ymchwil

Mae'r astudiaethau achos hyn yn rhoi sylw i rai o'r meysydd lle rydym yn cael effaith ymchwil gadarnhaol.