Rydym yn dod ag ymchwilwyr ynghyd o bob rhan o Brifysgol Caerdydd sydd â diddordeb ym mhob agwedd ar ddeunyddiau.
Rydym yn croesawu ymchwilwyr o bob cefndir sydd â diddordebau sy’n cynnwys:
- ffiseg
- cemeg
- cyfrifiannu
- priodweddau
- cymwysiadau
- hanes
- cyd-destun cymdeithasol.
Rydym yn astudio strwythur a phriodweddau deunyddiau sydd wedi’u creu a deunyddiau naturiol, y ffordd rydym yn eu defnyddio ac yn teimlo amdanynt, a sut y maent yn llunio'r ffordd rydym yn canfod y byd.
Rydym yn astudio eu synthesis, eu nodweddu, eu priodweddau a'r ffordd y gellir eu defnyddio i ddeall deunyddiau sydd eisoes yn bodoli'n well, a datblygu deunyddiau gwell ar gyfer technolegau yn y dyfodol.
Nodau
- Dod ag ymchwilwyr ar draws y Brifysgol ynghyd i hyrwyddo cydweithio.
- Datblygu ymchwil drawsddisgyblaethol newydd, gan bontio rhwng y celfyddydau, y gwyddorau a'r dyniaethau.
- Hwyluso rhannu offer ac arbenigedd.
- Hyrwyddo arbenigedd Prifysgol Caerdydd ym maes deunyddiau a chryfhau cysylltiadau â byd diwydiant, llunwyr polisïau ac ymchwilwyr eraill.
- Ymgysylltu â'r cyhoedd a rhanddeiliaid eraill i hyrwyddo ymchwil ar ddeunyddiau a chynyddu dealltwriaeth y cyhoedd o ddeunyddiau.
Cwrdd â’r tîm
Staff academaidd
Dr Wayne Nishio Ayre
- ayrewn@cardiff.ac.uk
- +44(0) 292 2510 660
Dr Mark Eaton
- eatonm@cardiff.ac.uk
- +44 (0)29 2087 5793
Dr Jennifer Edwards
- edwardsjk@cardiff.ac.uk
- +44 (0)29 2087 9398
Yr Athro Sam Evans
- evanssl6@cardiff.ac.uk
- +44 (0)29 2087 6876
Dr Bo Hou
- houb6@cardiff.ac.uk
- +44 29225 12035
Dr Riccardo Maddalena
- maddalenar@cardiff.ac.uk
- +44 (0)29 208 76 150
Digwyddiadau
Gwiriwch yn ôl am ddigwyddiadau sydd i ddod.
Digwyddiadau yn y gorffennol
Cynhadledd y Rhwydwaith Deunyddiau
Dyddiad: 15 Mai 2024
Lleoliad: Yr Eglwys Norwyaidd, Bae Caerdydd
Yn y gynhadledd roedd aelodau'r rhwydwaith yn gallu cyflwyno eu hunain. Wedyn, cafwyd cyflwyniadau ar ddatblygu proffesiynol a chyfleoedd cyllido ymchwil ar y cyd. Gan fod datblygu amcanion strategol y rhwydwaith dan arweiniad yr aelodau yn ganolog i’r drafodaeth, lluniwyd cynlluniau datblygu ar gyfer ystod o weithgareddau yn y dyfodol a fyddai’n creu effaith. Rhwng pawb, daeth tua 65 o gydweithwyr o bob un o dri choleg y Brifysgol i’r digwyddiad, a thynnwyd sylw at yr holl Ymchwil ar Ddeunyddiau sydd ar waith ledled y Brifysgol. I gloi, daeth y gynhadledd i ben pan gafwyd cinio gyda’r nos ar y cyd rhwng Cymdeithas Ddeunyddiau Casnewydd a Chaerdydd.
Arddangosfa’r Labordy Gwydnwch a Nodweddu (DURALAB)
Dyddiad: 12 Rhagfyr 2023
Lleoliad: Yr Ysgol Peirianneg, Adeilad y Frenhines.
Bydd y gweithdy hwn yn ymchwilio i alluoedd y DURALAB, sef cyfleuster profi newydd ym Mhrifysgol Caerdydd. Y DURALAB yw'r cyfleuster cyntaf sy’n cyflymu’r broses heneiddio yng nghyd-destun deunydd yng Nghymru, ac un o'r ychydig yn y DU. P'un a oes gennych chi ddiddordeb mewn deunydd newydd, neu eisiau profi un sydd wedi’i hen sefydlu, gall DURALAB helpu i ymchwilio i'w priodweddau hirdymor mewn ond ychydig o wythnosau. Gall deunyddiau gael eu rhoi o dan ystod eang o amgylchiadau, megis tymheredd eithafol, rhewi, dadrewi, cyrydiad, pelydrau UV, ac ati ... Ac mae gennym yr ystod o offer nodweddu microstrwythurol ar gael i wneud hyn (microsgop, offer sy’n mesur maint mandyllau, athreiddedd, ac ati...).
Cynhadledd y Rhwydwaith Deunyddiau
Dyddiad: 28 Mawrth 2023
Lleoliad: Yr Eglwys Norwyaidd, Bae Caerdydd
Roedd y gynhadledd yn cynnwys mewnbwn gan y diwydiant ac un o'r cynghorau cyllido gyda golwg ar ddatblygu syniadau a allai arwain at brosiectau ar y cyd; roedd amser i fod i gyflwyno syniadau yn unol â chais aelodau. Yn lle arddangos cyfleusterau neu alluoedd, sy’n cael ei wneud yn aml fel rhan o’n cyfres o weithdai, roeddem yn edrych ar waith sydd wedi codi neu wedi cael ei gefnogi gan ein gweithdai. Roedd yr aelodau'n gwerthfawrogi'r cyfleoedd i rwydweithio, rhyngweithio â'r stondinau noddi a siarad.
Digwyddiad ar y cyd gyda Plastics and Environment URN - “Polymerau, Plastigau ac Etifeddiaeth Amgylcheddol”
Dyddiad: 7 Rhagfyr 2022
Lleoliad: SCLT, Prif Adeilad
Gydag areithiau byr, posteri'n cyflwyno astudiaethau manylach, a digon o gyfle am drafodaethau dan arweiniad ac yn anffurfiol, roedd y gweithdy hwn ar gyfer y rhai sydd â diddordeb mewn defnyddio, creu, nodweddu a deall polymerau, plastigau a deunyddiau sy'n cynnwys plastig o bob math. Roedd y cyflwyniadau’n ymwneud â chanfod, nodweddu, meintioli ac effeithiau plastigau yn yr amgylchedd naturiol, yr economi gylchol a’r gwerth a roddir ar blastig fel deunydd, sut mae newidiadau mewn gwybodaeth a dealltwriaeth yn llywio datblygiad plastigau yn y dyfodol, ac astudiaethau achos o ddeunyddiau uwch sy’n defnyddio priodweddau unigryw polymerau a phlastigau i gyfansoddion, peirianneg a chymwysiadau gofal iechyd.
Deall arwynebau: offer newydd ar gyfer ymchwilio i ddeunyddiau newydd a nano
Dyddiad: 27 Medi 2022
Lleoliad: Canolfan Ymchwil Drosi
Wedi'i gynllunio ar gyfer y rhai sydd â diddordeb mewn nodweddu arwynebau ffisegol a chemegol, rhoddodd y seminar hwn drosolwg o’r offerwaith sbectrosgopeg a microsgopeg sydd bellach ar gael trwy Ganolfan Ymchwil Drosi newydd y Brifysgol. Mae'r dulliau'n cynnwys sbectrosgopeg cydberthyniad ffoton pelydr-X (XPS), microsgopeg electron (gan gynnwys y STEM newydd a gywirir ar sail eithriad) a galluoedd newydd mewn sbectrosgopeg Raman wedi'i gwella ar y blaen (TERS) a microsgop grym cenedlaethol-unigryw ffoto-ysgogedig (PiFM). Roedd teithiau o amgylch y cyfleusterau hefyd ar gael.
Nanoddeunyddiau Magnetig a Chymwysiadau
Dyddiad: 8 Tachwedd 2021
Lleoliad: Ar-lein
Roedd y symposiwm yn cynnwys nifer o gyflwyniadau gan yr adran Cemeg, Ffiseg a Pheirianneg a ddilynwyd gan drafodaeth a alluogodd pobl i rwydweithio, cysylltu â chydweithwyr, a rhannu syniadau.
Siaradwr y cyfarfod llawn oedd yr Athro Nguyen Tk Thanh (FRSC, FINstP, FIMMM, FRSB) o Goleg Prifysgol Llundain sy'n Athro Nanoddeunyddiau mewn Labordy Biomagnetig a Nanoddeunyddiau Gofal Iechyd.
Symposiwm Bach Deunyddiau Mandyllog
Dyddiad: 12 Ionawr 2021
Lleoliad: Ar-lein
Roedd y symposiwm yn canolbwyntio ar ddeunyddiau mandyllog gyda siaradwyr gwadd o Brifysgol Caergrawnt a Phrifysgol Caerfaddon.
Cynhadledd y Rhwydwaith Deunyddiau
Dyddiad: 23 – 24 Ionawr 2020
Lleoliad: Gwesty St Pierre, Cas-gwent
Cynhelir cynhadledd nesaf y Rhwydwaith ar 23 a 24 Ionawr 2020 yng Ngwesty St Pierre, Cas-gwent. Manylion pellach i’w cyhoeddi, gan gynnwys galwad am bosteri a siaradwyr.
Darlith Llywydd Cymdeithas Deunyddiau Casnewydd a'r Cylch
Dyddiad: 8 Hydref 2019
Bydd Dr Salvador Eslava (Prifysgol Caerfaddon) yn cyflwyno’r ddarlith gyntaf y flwyddyn, Darlith Llywydd Cymdeithas Deunyddiau Casnewydd a'r Cylch, “Creu Deunyddiau ar ffurf Ffotoelectrodau ar gyfer Tanwyddau Solar”
Bydd lluniaeth bys a bawd am ddim a’r cyfle i rwydweithio i ddilyn.
Ateber erbyn: Nick.Webb@cogent-power.com
Darlith Cymdeithas Deunyddiau Casnewydd a'r Cylch
Dyddiad: 12 Tachwedd 2019
Amser: 18:00
Lleoliad: Ysgol Peirianneg S1.32, CF24 3AA
Bydd Dr Ana Neves yn cyflwyno ail ddarlith rhaglen Cymdeithas Deunyddiau Casnewydd a'r Cylch 2019. “O Ddeunyddiau Traul i Goncrit: Defnyddio Deunyddiau Graffin a 2D”
Bydd lluniaeth bys a bawd am ddim a’r cyfle i rwydweithio i ddilyn.
Ateber erbyn:- Nick.Webb@cogent-power.com
Gweithdy ar y cyd CITER-CMRN - Bioddeunyddiau: o'r labordy i erchwyn y gwely
Dyddiad: Dydd Mercher 27 Tachwedd 2019
Amser: 12:00 – 17:00
Lleoliad: Darlithfa, Adeilad Haydn Ellis
Nod y gweithdy hanner diwrnod hwn yw helpu academyddion i ddefnyddio technolegau eu bioddeunydd yn y clinig er lles y claf. Dyma'r amcanion:
1. Deall llwybr rheoleiddiol bioddeunyddiau yn well
2. Dysgu am ystod o fodelau cyn-glinigol GLP i ddangos diogelwch ac effeithlonrwydd bioddeunyddiau
3. Deall y broses o ddatblygu a chofrestru prawf clinigol yn achos bioddeunydd
4. Ymgyfarwyddo â llwybrau ariannu a chefnogaeth i ddefnyddio bioddeunyddiau yn y clinig
5. Gwrando ar brofiadau o lygad y ffynnon gan academyddion sydd wedi masnacheiddio/troi bioddeunyddiau at ddefnydd arall
Mae cofrestru yn hanfodol, cofrestrwch drwy eventbrite gan ddefnyddio'r cyfrinair: CITERCMRN.
Cynhadledd y Rhwydwaith Deunyddiau
Dyddiad: 23 – 24 Ionawr 2020
Lleoliad: Gwesty St Pierre, Cas-gwent
Cynhelir cynhadledd nesaf y Rhwydwaith ar 23 a 24 Ionawr 2020 yng Ngwesty St Pierre, Cas-gwent. Manylion pellach i’w cyhoeddi, gan gynnwys galwad am bosteri a siaradwyr.
Darlith Llywydd Cymdeithas Deunyddiau Casnewydd a'r Cylch
Dyddiad: 8 Hydref 2019
18:00
Lleoliad: Ysgol Peirianneg S1.32, CF24 3AA
Bydd Dr Salvador Eslava (Prifysgol Caerfaddon) yn cyflwyno’r ddarlith gyntaf y flwyddyn, Darlith Llywydd Cymdeithas Deunyddiau Casnewydd a'r Cylch, “Creu Deunyddiau ar ffurf Ffotoelectrodau ar gyfer Tanwyddau Solar”
Bydd lluniaeth bys a bawd am ddim a’r cyfle i rwydweithio i ddilyn.
Ateber erbyn: Nick.Webb@cogent-power.com
Sesiwn arddangos microsgop digidol Keyence
Dyddiad: 2 Hydref 2019
Amser: 11:30
Lleoliad: Adeilad y Frenhines S/0.14
Bydd Benjamin Bryant o Keyence UK Ltd yn ymweld â ni yn ein labordy ac yn cyflwyno sesiwn arddangos offer microsgop digidol y cwmni. Mae croeso i bawb sydd â diddordeb. Gallwch ddod â'ch samplau eich hun i brofi galluoedd y system.
Cynhadledd Penodiadau diweddar ym maes Gwyddor Deunyddiau 2019
Dyddiad: 9-10 Medi 2019
Lleoliad: Prifysgol Lerpwl
Cynhaliwyd Cynhadledd Penodiadau Diweddar ym maes Gwyddor Deunyddiau ym Mhrifysgol Caerdydd y llynedd. Cynhelir y gynhadledd eleni yn Lerpwl ac rydym yn ei hargymell yn fawr i unrhyw un sy’n ymchwilydd ôl-ddoethurol neu’n ddarlithydd sy'n gweithio ym maes gwyddor deunyddiau yn Lerpwl.
Gweithdy Rhyngwladol ar Gemeg a Defnyddio Cromofforau Organig at ddibenion eraill
Dyddiad: 3-4 Gorffennaf 2019
Lleoliad: Ysgol Cemeg, Darlithfa Cemeg Fach, Prif Adeilad, Plas y Parc
Nod y gweithdy yw rhoi cipolwg ar yr ymchwil ddiweddaraf, cyfnewid gwybodaeth a gwybod am sut mae cromofforau moleciwlaidd a deunyddiau organig yn cael eu defnyddio at ddibenion diwydiannol. Yn y rhaglen ddeuddydd bydd darlithoedd gwadd gan arweinwyr ym maes synthesis, nodweddu a defnyddio cromosomau organig o'r sectorau academaidd a byd diwydiant at ddibenion eraill.
Seminar ymchwil
Dyddiad: 2 Gorffennaf 2019
Lleoliad: Ysgol Peirianneg S1.25, CF24 3AA
Bydd Dr Iuliia S Elizarova yn siarad ar 'Gweithgynhyrchu haen-ar-haen ym maes serameg – Her Rheoli Amlraddfa'.
Bydd yr Athro Eduardo Saiz, Cyfarwyddwr y Ganolfan Uwch-serameg Strwythurol, hefyd yn bresennol, felly dewch draw am sgwrs a thrafodaeth ddiddorol a'r cyfle i drin a thrafod thema drawsbynciol ehangach deunyddiau ym Mhrifysgol Caerdydd yn y dyfodol.
Gweithdy Mecaneg Amlffiseg
Dyddiad: 26 Mehefin 2019
Lleoliad: Ysgol Peirianneg S/1.22, Adeiladau'r Frenhines, The Parade
Hwn fydd gweithdy cyntaf thema drawsbynciol yr Ysgol Peirianneg - mecaneg amlffiseg. Bydd yn cynnwys dau brif siaradwr, sgyrsiau gan gydweithwyr sy'n ymchwilio i wahanol agweddau ar fecaneg amlffiseg, a’r cyfle i rwydweithio.
Gweithdy modelu deunyddiau
Dyddiad: 11 Mehefin 2019
Lleoliad: Prif Adeilad, Plas y Parc
Digwyddiad i aelodau o staff Prifysgol Caerdydd
Daeth y digwyddiad hwn â modelwyr ynghyd o ddisgyblaethau gwahanol sy'n defnyddio offer gwahanol er mwyn ysgogi cyfnewid syniadau am dechnegau ac i hyrwyddo cydweithio.
Ynghlwm wrth y pynciau a’r technegau modelu a drafodwyd yn y gweithdy roedd yr Elfen Feidraidd yn ogystal â modelu elfennau arwahanol (DEM), microfecaneg, lluosogi macrograciau, deinameg foleciwlaidd, deinameg cwantwm, rheoleg, yn ogystal â dadffurfio cramen a mantell y Ddaear.
Siaradwr y sesiwn lawn oedd Catherine O'Sullivan, Athro yn adran geotechneg Adran Peirianneg Sifil ac Amgylcheddol Coleg Imperial Llundain. Mae ei hymchwil yn defnyddio DEM yn ogystal â thechnegau arbrofol gan gynnwys tomograffeg microgyfrifiadurol.
Rhoddwyd gwobr am y poster gorau yn hael gan y noddwyr Rockfield, a ddyfarnwyd i Adam Beall o Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Amgylchedd.
Pontio'r bwlch: Deunyddiau a materoldebau
Dyddiad: 8 Mai 2019
Lleoliad: Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan
Digwyddiad i aelodau o staff Prifysgol Caerdydd
Roedd y digwyddiad yn canolbwyntio ar ddod â gwyddor deunyddiau, y dyniaethau a'r gwyddorau cymdeithasol ynghyd, gyda'r nod o sbarduno sgyrsiau a allai ehangu cyfleoedd ymchwil ac arwain at brosiectau cydweithio newydd.
Trefnwyd y sesiwn ryngddisgyblaethol ar sail themâu Amser, Newid a Gwerthoedd, gan gynnig y cyfle i’r sawl a gymerodd ran ystyried eu gwaith o safbwynt newydd a dod â dulliau, patrymau a thechnegau cyferbyniol at ei gilydd.
Daeth y gweithdy i ben pan gafwyd dangosiad preifat ac unigryw o Gweithdy, lle arbennig sy’n dathlu sgiliau gwneuthurwyr ar draws miloedd o flynyddoedd ac yn ystyried sut mae pethau wedi cael eu gwneud o bren, clai, carreg, metel, planhigion a thecstilau.
Cynhadledd agoriadol Rhwydwaith Deunyddiau Caerdydd
Dyddiad: 17-18 Ionawr 2019
Lleoliad: St Pierre Marriot Hotel and Country Club
Digwyddiad i aelodau o staff Prifysgol Caerdydd
Roedd hwn yn gyfle i gasglu ynghyd y rheini ohonom sydd â diddordeb mewn deunyddiau o bob rhan o Brifysgol Caerdydd. Roedd yn cynnwys ymchwilwyr sy’n canolbwyntio ar ddefnyddio deunyddiau, dylunio a datblygu deunyddiau, a nodweddu, modelu neu ddeall deunyddiau. Roedd yn gyfle i gydweithwyr ddangos eu hymchwil, rhannu meysydd o ddiddordeb a chael gwybod pwy sydd â'r wybodaeth, yr arbenigedd neu'r offer i helpu.
Yr Athro David Taylor, Athro Peirianneg Deunyddiau yng Ngholeg y Drindod Dulyn, oedd ein siaradwr yn y sesiwn lawn, ac mae ei arbenigedd ymchwil yn cynnwys biobeirianneg, peirianneg fforensig a lludded a deunyddiau a chydrannau sy’n hollti.
Gweithdy nodweddu deunyddiau
Dyddiad: 5 Rhagfyr 2018
Lleoliad: Prif Adeilad, Plas y Parc
Digwyddiad i aelodau o staff Prifysgol Caerdydd
Nodweddu deunyddiau yw'r prosesau eang a chyffredinol a ddefnyddiwn i ymchwilio i strwythur a phriodweddau deunyddiau, eu profi a’u mesur. Mae'n hollbwysig i'n dealltwriaeth wyddonol o ddeunyddiau peirianneg.
Dangosodd y gweithdy sut mae'r potensial helaeth hwn i nodweddu deunyddiau yn caniatáu i Brifysgol Caerdydd greu effaith a gydnabyddir yn rhyngwladol ym maes ymchwil deunyddiau, boed yn swmp-ddeunyddiau strwythurol neu gatalysis atomau sengl.
Yn y darlithoedd a gyflwynwyd yn ystod y gweithdy trafodwyd dulliau arbrofol a oedd yn rhychwantu diffreithiant / sbectrosgopeg pelydr-X o'r radd flaenaf, peirianneg newydd ym maes microdonau a phrotocolau uwch ym maes cyseiniant sbin magnetig niwclear/electronau.
Digwyddiad lansio’r rhwydwaith
Dyddiad: Mehefin 2018
Lleoliad: FFORWM, Yr Ysgol Peirianneg
Daeth y digwyddiad undydd hwn ag ymchwilwyr o bob rhan o'r Brifysgol at ei gilydd i weld cyfuniad o bosteri, cael sgyrsiau ar wib, rhwydweithio ar sail un i un a thrafod yn anffurfiol. Ymhlith y sesiynau roedd:
- materoldebau a nodweddu
- prosesu a gweithgynhyrchu a nanoddeunyddiau
- dyfeisiau a deunyddiau meddal
- deunyddiau strwythurol a modelu.
Roedd yn ddechrau gwych i raglen digwyddiadau’r rhwydwaith a amlygodd ehangder y gweithgarwch ym maes ymchwil deunyddiau ledled y Brifysgol a chafwyd cryn drafodaeth o ran cydweithio yn y dyfodol yn ogystal ag awgrymiadau ar gyfer digwyddiadau’r rhwydwaith yn y dyfodol.
Meet the team
Cysylltwch â ni
Contact us to get involved, discuss an idea for an event, or find shared equipment or expertise.
Contact usYsgolion
Camau nesaf
Ymchwil sy’n gwneud gwahaniaeth
Mae ein hymchwil yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl wrth i ni gweithio ar draws disgyblaethau er mwyn ymgodymu â phrif heriau sy’n wynebu’r gymdeithas, yr economi ac ein hamgylchedd.
Ymchwil ôl-raddedig
Mae ein graddau ymchwil yn rhoi'r rhyddid i chi i archwilio pwnc arbennig mewn dyfnder ymhlith ymchwilwyr blaenllaw.
Ein heffaith ymchwil
Mae'r astudiaethau achos hyn yn rhoi sylw i rai o'r meysydd lle rydym yn cael effaith ymchwil gadarnhaol.