Ewch i’r prif gynnwys

Rydym yn adeiladu ar allu a record bresennol tîm arbenigol yn y Sefydliad Ymchwil i Systemau Ynni yn yr Ysgol Beirianneg ym Mhrifysgol Caerdydd, drwy fuddsoddi yn y cyfleusterau diweddaraf a adnewyddwyd a rolau academaidd newydd.

Ein bwriad yw sefydlu cyfuniad ac ehangder grymus o arbenigedd academaidd ochr yn ochr ag ymrwymiadau gan bartneriaid diwydiant pwysig, a hynny yn adeiladu tuag at ganolfan ragoriaeth yn Ewrop ar gyfer deunyddiau magnetig cyn pen pump i saith mlynedd.

Cawn ein hariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) drwy Lywodraeth Cymru (tua £1.05m i gyd), Prifysgol Caerdydd a phartneriaid diwydiannol.

Ein gweledigaeth

Aloeon magnetig yw’r un deunydd pwysicaf sy’n sylfaen i’r economi werdd newydd. Maen nhw ar waith mewn moduron trydan, newidyddion, generaduron, synwyryddion magnetig, storio data a llawer o gydrannau electronig.

Mae deunyddiau magnetig yn sylfaen i ddiwydiant gwerth £6 biliwn y flwyddyn yn y DU a £1 triliwn y flwyddyn yn rhyngwladol. Mae’r diwydiannau hyn yn cyflogi 50,000 o bobl yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol yn y DU ac yn sail i ddyfodol dros 100 o fusnesau’r DU.

Mae mwy na 99% o'r holl ynni trydanol yn cael ei gynhyrchu gan ddefnyddio peiriannau trydanol o ddeunyddiau magnetig sy’n mynd trwy o leiaf ddau newidydd cyn iddo gyrraedd y defnyddiwr. Mae tua 10% o’r holl drydan a gynhyrchir yn cael ei golli ac mae cyfran fwyaf y golled yn y creiddiau magnetig. Mae Rheoliadau Ecoddylunio'r UE 2015 yn gosod cyfyngiadau effeithiolrwydd ar bob dyfais newydd a rhaid cael gostyngiad pellach o 10% yn y golled erbyn 2021.

Yr unig ffordd o wneud hyn yw gyda’r graddau gorau o ddur trydanol sydd ar gael yn fasnachol. Yn ogystal bydd y datblygiadau hyn yn caniatáu gofynion pŵer is ar gyfer cerbydau trydanol, diwydiant a defnydd domestig. Bydd y mesurau a gymerir yn ehangu’r gallu i optimeiddio rôl deunyddiau magnetig mewn elfennau allweddol fel dylunio, defnydd yn y pen draw a diwedd oes er mwyn optimeiddio’r prosesau cyfredol a gyrru’r arloesi i’r dyfodol.

Amcanion

  • Sefydlu gallu ymchwil o safon byd yng nghanol clwstwr De Cymru er mwyn optimeiddio holl gylchred oes a chadwyn cyflenwi cymwysiadau electromagnetig.
  • Ein nod pum mlynedd yw cael ein cydnabod fel canolfan ragoriaeth yn Ewrop ar gyfer deunyddiau magnetig.
  • Ymgysylltu â phartneriaid academaidd a diwydiannol newydd i roi sylw i gyfleoedd cyllido sylweddol sy’n datblygu.
  • Trosi llwyddiant ymchwil yn ymchwil a datblygu diwydiannol gan arwain at lwyddiant economaidd i’r rhai sy’n cydweithio ac i’r rhanbarth.

Ymchwil

Ein heriau allweddol

  • Cyflymu’r gwaith o ddatblygu deunyddiau magnetig newydd a gwella drwy ddatblygu aloeon, peirianneg a chaenau arwyneb, datblygu prosesau ac arallgyfeirio ar ddiwedd y broses.
  • Dealltwriaeth sylfaenol a modelu prosesau ffisegol sy’n gysylltiedig â gweithgynhyrchu a pharamedrau cymwysiadau fel bod modd rhagweld priodweddau deunyddiau ac efelychu dyfeisiadau’n gywir.
  • Creu gallu i nodweddu er mwyn bodloni gofynion cymwysiadau a deunyddiau newydd.
  • Mae angen dadansoddi cylchred oes a chadwyn cyflenwi’r deunyddiau hyn, a bydd hyn yn gyrru arloesi o ran optimeiddio adnoddau ac ynni.

Ein cyfleusterau

  • Labordy Nodweddu Magnetig: Galluogi offer mesur sy’n arwain y byd i fodloni gofynion deunyddiau a chymwysiadau’r genhedlaeth nesaf.
  • Labordy Gyriannau Trydanol ar gyfer Cludiant: Pontio’r bwlch gallu o ran creu prototeipiau a phrofi peiriannau trydanol.
  • Labordy Modelu Electromagnetig: Darparu gallu i ddylunio prototeipiau o beiriannau electromagnetig a galluogi’r ymchwil diweddaraf ar ymgorffori modelau deunydd go iawn a modelau diraddio.
  • Labordy Prosesu Deunyddiau Magnetig: Cartref i’r cyfleusterau diweddaraf ar gyfer anelio, prosesu laserau a sintro plasma gwreichion sy’n hanfodol er mwyn datblygu deunyddiau magnetig newydd a gwell.

Themâu trawsbynciol

Mae themâu trawsbynciol (neu lorweddol) yn faterion sy’n cyffwrdd ag egwyddorion cyffredinol megis democratiaeth, cydraddoldeb, llywodraethu da a chynaladwyedd.

Mae angen cymryd camau mewn sawl maes felly mae angen eu hintegreiddio ym mhob maes o’r rhaglenni Ariannu Ewropeaidd a mynd i’r afael â nhw yn y sgwrs ynghylch datblygiad y rhaglenni.

Nod y themâu yw gwella ansawdd a deilliant pob gweithgaredd sydd o dan nawdd y Cronfeydd Strwythurol yng Nghymru ac ychwanegu gwerth at raglenni yn eu cyfanrwydd. Byddan nhw’n sbarduno camau mewn amryw feysydd a byddan nhw’n rhan annatod o broses llunio a chynnal pob gweithgaredd.

Mae tair thema o’r fath:

  • cyfleoedd cyfartal, prif ffrydio rhywedd a’r Gymraeg
  • datblygu cynaliadwy
  • mynd i’r afael â thlodi ac allgáu cymdeithasol

Ein gweithgareddau

Ers sefydlu MAGMA, rydym wedi gweithio'n ddyfal i ofalu bod y prosiect yn cydymffurfio â holl weithgareddau themâu trawsbynciol ac yn eu hyrwyddo. Dyma enghreifftiau o weithgareddau o'r fath:

  • penodi hyrwyddwr themâu trawsbynciol, Kevin Jones, i gydlynu gweithgareddau cysylltiedig.
  • bydd deunyddiau hyrwyddo, fel baneri a thaflenni, ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg
  • mae ein gwefan ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg ac mae cyfrif Twitter MAGMA yn anfon negeseuon dwyieithog
  • rydym yn mabwysiadu swyddfa ysgafn ar bapur ac yn dewis system ffeilio ddigidol fel bod llai o angen argraffu
  • rydym yn sicrhau bod pob darn o offer trydanol yn cael ei ddiffodd pan nad yw ar waith ac rydym yn cael gwared ar bob gwastraff ailgylchadwy yn y biniau ailgylchu cywir
  • rydym yn cyfeirio pob cwmni yr ydym yn cydweithio ag ef at y pecyn cymorth rhag newidiadau’r dyfodol ac yn eu hannog i gyfrannu at les cenedlaethau’r dyfodol.

Cydweithio

Gyda phwy rydym yn gweithio

Ein nod yw gweithio gyda’r canlynol:

  • cwmnïau angori cenedlaethol/rhyngwladol mawr sydd ynghanol cadwyni cyflenwi cymwysiadau electromagnetig
  • BBaCHau arbenigol o Gymru mewn cadwyni cyflenwi
  • BBaCHau arbenigol o’r DU ac yn rhyngwladol mewn cadwyni cyflenwi
  • sectorau gweithgynhyrchu gwerth uchel ym maes dur, a’r diwydiannau moduro, awyr ofod ac ynni
  • y sector trosglwyddo a dosbarthu ynni
  • llywodraeth Ewrop, y DU a Chymru, cyllidwyr ymchwil ac arloesi a dylanwadwyr polisi.

Nid yw’r rhestr hon yn derfynol. Rydym wedi cydweithio o’r blaen â chwmnïau fel Faultcurrent Ltd., Tata Steel, Cogent a Baosteel.

Beth rydym yn ei gynnig

Byddwn yn cynnig cymorth academaidd ac ymchwil yn y meysydd canlynol:

  • modelu a dylunio electromagnetig
  • gweithgynhyrchu generaduron-moduron trydan
  • priodweddau deunyddiau magnetig sylfaenol
  • datblygu technoleg prosesu deunyddiau
  • gwahanu a graddio magnetig ar gyfer ailgylchu

I gael rhagor o wybodaeth am gydweithio, cysylltwch â ni ar +44 (0)29 2087 4411 neu anfonwch ebost atom yn
magma-project@caerdydd.ac.uk.

Pecyn cymorth rhag newidiadau'r dyfodol

Diben y pecyn yw helpu pob cwmni sy'n gofyn am gymorth trwy Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) i gyfrannu at les cenedlaethau'r dyfodol ac elwa ar ymgorffori egwyddorion datblygu cynaliadwy, cydraddoldeb ac amrywioldeb a chymorth er lles y Gymraeg yn eu hamcanion yn unol â'r themâu trawsbynciol.

Trwy ddefnyddio’r pecyn, bydd cwmnïau’n pennu eu sefyllfa bresennol a, gyda chymorth dolenni ag adnoddau ac astudiaethau perthnasol, yn nodi cyfleoedd i ddatblygu a/neu wella eu busnes fel y bydd eu cadernid rhag newidiadau yn y dyfodol yn gryfach.

Ar ôl i gwmni bennu ei sefyllfa bresennol, bydd Ymgynghorwyr Effeithlonrwydd Adnoddau Materol a Dynol Busnes Cymru yn helpu eu cefnogi i wneud unrhyw welliannau neu newidiadau a nodwyd.

Os oes gennych ddiddordeb mewn creu cyfrif a defnyddio’r pecyn, ewch i wefan Busnes Cymru Llywodraeth Cymru. Defnyddiwch y cod 82117 pan ofynnir i chi ar y dudalen mewngofnodi i gael eich cysylltu â ni.

Resources

MAGMA Data Privacy Notice

Read the Magnetic Materials and Applications (MAGMA) Data Privacy Notice.

No results were found

No results were found

Camau nesaf

Ymchwil sy’n gwneud gwahaniaeth

Mae ein hymchwil yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl wrth i ni gweithio ar draws disgyblaethau er mwyn ymgodymu â phrif heriau sy’n wynebu’r gymdeithas, yr economi ac ein hamgylchedd.

Ymchwil ôl-raddedig

Mae ein graddau ymchwil yn rhoi'r rhyddid i chi i archwilio pwnc arbennig mewn dyfnder ymhlith ymchwilwyr blaenllaw.

Ein heffaith ymchwil

Mae'r astudiaethau achos hyn yn rhoi sylw i rai o'r meysydd lle rydym yn cael effaith ymchwil gadarnhaol.